the cardiff animation festival poster

Rhaglen lawn wedi’i gyhoeddi ar gyfer Gŵyl Animeiddio Caerdydd 2020 Ar-lein

Tocynnau a Phasiau Cyntaf-i’r-Felin ar werth nawr.

Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd wedi cyhoeddi ei rhaglen ŵyl ar-lein llawn. Mae’r ŵyl wedi ychwanegu mwy o gyhoeddiadau i’w rhaglen 2020 gyffrous, gan gynnwys dosbarthiadau meistr a sesiynau holi ac ateb gyda thalent allweddol tu ôl i The Rubbish World of Dave Spud, Strike a The Adventures of Paddington™. Bydd y dathliad animeiddio ar-lein i bawb yn arddangos rhai o’r animeiddiadau gorau o dros y byd i oedolion, teuluoedd a gwneuthurwyr ffilm.

Bydd aildrefniad gŵyl gwanwyn 2020 nawr yn cael ei gynnal ar-lein, gyda digwyddiadau yn dechrau ar Hydref 17eg, gan adeiladu tuag at brif wythnos yr ŵyl ar Hydref 24ain - Tachwedd 1af.  Mae tocynnau am ddigwyddiadau unigol ar werth nawr, a phasiau cyntaf-i’r-felin ar gael am £15 y pas.

Dywed Cyfarwyddwr yr ŵyl, Lauren Orme: “Rydym mor falch o’r rhaglen ac wedi ein cyffroi i fedru dod â fe o’r diwedd i gynulleidfaoedd! Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb ac roedd e’n bwysig i ni fedru cynnig pasiau am ostyngiad mor sylweddol a thocynnau unigol ar sail talwch-beth-y-gallwch, er mwyn i gymaint o bobol â phosib yn gallu cael mynediad i’r ŵyl. Mae’r fformat ar-lein hefyd wedi ein galluogi ni i is-deitlo ein holl ddigwyddiadau er mwyn sicrhau bod popeth yn fwy hygyrch, sy’n gyffrous iawn.”

Bydd amrediad o ddigwyddiadau i’r teulu yn rhedeg drwy gydol yr ŵyl, gan gynnwys cyfle anhygoel i weld tu-ôl-i’r-llen ar gyfres CGI newydd sbon The Adventures of Paddington™ gan Blue Zoo Animation i StudioCanal a Nickelodeon, wedi’i gyflwyno gan Gynhyrchydd Simon Quinn.

Bydd Ed Foster, creawdwr animeiddiad gomedi Illuminated Films i CITV The Rubbish World of Dave Spud, yn rhannu stori ei siwrnai 16-mlynedd, o ffilm myfyriwr i gyfarwyddo cyfres ei hun, a tharddiad ‘underdog’, arwr annhebygol a chreawdwr heb ymwybod anrhefn Dave Spud a’i deulu. Gyda chast o leisiau sy’n cynnwys Gina Yashere a Johnny Vegas, ac animeiddio gan Cloth Cat Animation, Caerdydd, mae maint cynulleidfa’r sioe ym mhell o fod yn ‘rubbish’ ers ei lansiad mis Medi diwethaf ac erbyn hyn mewn cynhyrchiad am ei hail gyfres.

Mae’r rhaglen yn cynnwys ffilm nodwedd stop-symudiad Brydeinig STRIKE, stori am wahadden ifanc, yn ceisio cyflawni ei freuddwyd amhosib o fod yn bêl-droediwr er mwyn achub ei dref wrth arch-elyn barus.  Ffilm nodwedd gyntaf Trevor Hardy o Sussex yw hwn, wedi’i gynhyrchu gan Gigglefish Studios. Ar ôl dangosiad y ffilm, bydd cynulleidfaoedd yn cael cip tu-ôl-i’r-llen gyda sesiwn holi ac ateb deniadol gyda chyfarwyddwr y ffilm: Trevor Hardy, yr actor llais Lizzie Waterworth a’r cynhyrchydd Neil James gan archwilio’r ffordd unigryw wnaeth ailgylchu helpu ddod â’r ffilm yn fyw, wedi’i gadeirio gan Suraya Raja.

Mae’r ŵyl yn cydweithio gyda Visible in Visuals, platfform sy’n anelu i wneud animeiddio a VFX yn fwy cynhwysol, mewn panel a sesiwn holi ac ateb bydd yn ffocysu ar wahanol yrfaoedd mewn animeiddio ac ar gyngor i fyfyrwyr a rheini sydd yn meddwl i ddod mewn i’r diwydiant.

Mae’r digwyddiadau yma a llawer mwy yn ychwanegu at raglen ysblennydd eisoes, gan gynnwys dosbarthiadau meistr ar gyfarwyddo Bob’s Burgers gyda’r animeiddiwr Gymraeg Simon Chong, Moominvalley gyda chyfarwyddwr pennod Avgousta Zourelidi, y ffilm nodwedd gyntaf yn y byd wedi’i hanimeiddio â thywod, sydd wrthi’n cael ei greu yng Nghymru gan gyfarwyddwr Gerald Conn.

Gall mynychwyr yr ŵyl ddod at ei gilydd ar gyfer partïon gwylio byw o’r saith rhaglen thematig ar ffilmiau byrion wedi’u hanimeiddio o bedwar ban byd, gan newid cymeradwyo yn y sinema am emojis curo dwylo yn y sgwrs fyw, a phleidleisio am eu ffefrynnau i ennill Gwobr CAF y gynulleidfa.  Bydd cyfle i gwrdd â rhai o’r gwneuthurwyr ffilm annibynnol gwych tu ôl i’r ffilmiau yn y gystadleuaeth yn yr ‘Animators Brunch’, sesiwn holi ac ateb byw gyda Ben Mitchell a Laura-Beth Cowley o Skwigly ar ddydd Sul Hydref 25ain a dydd Sul Tachwedd 1af.

Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru Wales, Canolfan Ffilm Cymru fel rhan o’r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (FAN), RHWYDWAITH BFI Cymru ac Ymddiried drwy Gronfa Ysgoloriaeth Owen Edwards a nawdd gan Cloth Cat Animation, Picl Animation, Creative Europe Desk UK - Cymru, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Jammy Custard Animation, Gwobrau Animeiddio Prydain, S4C Chronfa Sgiliau Animeiddio ScreenSkills gyda chyfraniadau gan gynyrchiadau animeiddio o’r DU.

Bydd Gŵyl Animeiddio Caerdydd ar-lein 2020 yn rhedeg o ddydd Sadwrn Hydref 17eg tan ddydd Sul Tachwedd 1af. Mae pasiau a thocynnau unigol Gŵyl Animeiddio Caerdydd ar werth nawr, gyda nifer cyfyngedig o basiau cyntaf-i’r-felin am pris gostyngol ar gael yma - https://watch.eventive.org/caf2020