two people outside shooting a film with a camera

Ffilm i Bawb

Cynllun Gweithredu

Cyflwyniad

Dylai ffilm fod at ddant pawb.

Mae gan ffilm y potensial i gynnig darluniau unigryw o’n brwydrau a'n llawenydd, gan ddwysáu ein teimlad o berthyn; gall ein helpu i ddeall ein hunain a'n gilydd yn well; a gall ein cludo, os mai am naw deg munud yn unig, i fyd o bosibiliadau di-ben-draw. Fodd bynnag, mae carfannau enfawr o gymdeithas yn dal i gael eu rhwystro rhag cael mynediad at ffilm a rhag elwa ohoni yn y modd y mae eraill yn ei wneud. Boed hynny drwy fethu a chael mynediad i sinemâu yn gorfforol, i beidio â chael perthynas sy'n gweithio yn y diwydiant neu soffa i gysgu arni yn Llundain, yn peidio â bod yn berchen ar y cyfeiriadau diwylliannol (gwyn yn bennaf) y mae rhai yn camgymryd fel arbenigedd, methu bod yn gyfforddus yn gwneud busnes dros ddiod neu weithio oriau hir oddi cartref, neu’r ffaith mai anaml rydych chi wedi gweld rhywun sy’n debyg i chi’n cael ei ddangos ar y sgrîn fawr a’n teimlo nad yw’r ffilm yn berthnasol i chi: mae rhestr hir iawn o rwystrau’n bodoli os am weithio neu gymryd rhan mewn ffilm ac yn aml gwelir croestoriad ar draws hil, mynegiant o ran rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, dosbarth, B/byddardod, Anabledd a Niwroamrywiaeth a'r iaith Gymraeg, ymhlith profiadau bywyd eraill. 

Mae ystadegau'n awgrymu bod amrywiaeth yn ein sector wedi gwella rhywfaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, o ran amrywiaeth credwn mai dim ond pan fyddwn yn creu ‘deial’ newydd y byddwn yn llwyddo i symud y ‘deial’. Credwn mai trwy ail-ddychmygu ffyrdd mwy cynhwysol o weithio, drwy ddysgu a dathlu ffilm, drwy ymrwymo i hysbysebu swyddogaethau, a chynnwys cynulleidfaoedd nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol wrth ddatblygu ffilm, er enghraifft, yw’r ffordd orau i sicrhau newid cynaliadwy y gellir ei atgynhyrchu, a bydd hynny o fantais i bawb ohonom. Gwyddom na ddylem wneud y gwaith hwn ar ein pennau ein hunain. Rydym yn gwybod yr hyn nad ydym yn ei wybod, a gwyddom fod llawer o bobl a sefydliadau eisoes ar gael sy’n gwneud gwaith rhagorol ac y gallwn ddysgu oddi wrthynt. Rydym yn awyddus i weithio mewn partneriaeth arwyddocaol â'r cymunedau rydym eisiau eu cyrraedd; rydym am helpu i gynyddu'r enghreifftiau o arfer da sydd eisoes yn bodoli; rydym eisiau rhannu dysgu, gan greu amgylcheddau diogel a di-echdynnol; ac rydym am herio ein hunain yn barhaus i ddefnyddio’r sefyllfa rydym ni ynddi i gynnig y cymorth gorau posib i'r bobl hynny sydd yn tybio ein bod yn anodd i'n cyrraedd.

Mae’r cynllun hwn yn adeiladu ar ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2018-2022, i arwain ein gweithgareddau ein hunain a’r rhai rydym yn eu cefnogi. Mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â'n cynllun strategol 2018-24, a’n Cynllun Iaith Gymraeg, ac mae'n sylfaen ar gyfer ein Cynllun Strategol 2024-30. Mae'n ymgorffori ein cyfrifoldebau fel dirprwy i Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Sefydliad Ffilm Prydeinig. Mae hefyd wedi’i hysbysu gan yr ymgynghoriad y mae Ffilm Cymru wedi’i gynnal gyda phobl sydd â phrofiad ac arbenigedd bywyd yn ogystal ag â’n rhanddeiliaid, adolygiad o’n gweithgareddau presennol, a’r data amrywiaeth sydd gennym, yn ogystal â’r cyd-destun deddfwriaethol ehangach, yn fwyaf penodol y Ddeddf Cydraddoldeb  a Deddf yr Iaith Gymraeg .

photo of krystal s lowe on the set of her film daughters of the sea, standing outside holding a clapperboard

Cwmpas

Mae’r Cynllun hwn yn berthnasol i Fwrdd a staff Ffilm Cymru wrth ddatblygu a gweithredu ein blaenoriaethau strategol a’r ymyriadau sy’n dilyn, gan gynnwys penderfyniadau ariannu, rhwymedigaethau cytundebol a’r arferion gwaith yr ydym yn eu hannog. Mae’r gwerthoedd a ddisgrifir yn y cynllun hwn yn darparu fframwaith ar gyfer ein gwaith partneriaeth – gan gynnwys wrth weithio gydag unigolion a sefydliadau sydd â phrofiad bywyd eang fydd yn gymwys i’n cynorthwyo i adolygu, herio a chynnig mewnwelediad ac argymhellion ar gyfer newid.

Mae hefyd yn berthnasol i'r rhai rydym yn buddsoddi ynddynt – o arddangoswyr, i ymarferwyr addysg, i wneuthurwyr ffilm, dosbarthwyr a darparwyr diwylliannol cymunedol. Rydym yn gofyn i bawb sy’n derbyn cyllid gennym i hyrwyddo egwyddorion y cynllun hwn, ac i ffurfio a rhannu eu syniadau eu hunain ar sut y gallant hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy eu gwaith.

still from donna featuring a person standing next to a stage room with pink lights round it

Yn y cynllun hwn byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth canlynol, gan gadw mewn cof sut y gallant or-gyffwrdd:

  • Merched (boed wedi'u haseinio ar enedigaeth ai pheidio)
  • LGBTQI+
  • b/Byddardod, Anabledd neu Niwroamrywiaeth
  • Pobl o'r Mwyafrif Byd-eang (gan gynnwys sipsiwn neu deithwyr Gwyddelig)
  • Cefndir economaidd-gymdeithasol,
  • Yr iaith Gymraeg a
  • Phobl ifanc, yn enwedig mewn perthynas â'n gwaith ym maes addysg ffilm.

Ein Hegwyddorion Arweiniol

  1. Bod cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant yn hanfodol ar gyfer adrodd straeon pwerus ac ar gyfer sicrhau sector ffilm cynaliadwy.
  2. Nid yw ein diwydiant yn feritocratiaeth ac mae angen inni fod yn wrth-hiliol, yn wrth-abl, yn wrth-glasurol, ac yn hyrwyddwyr dros fenywod, yr iaith Gymraeg, a’r gymuned LGBTQI+.
    Mae hyn yn golygu mynd ati i graffu ar ein ffyrdd o weithio, hyrwyddo eraill, a gweiddi’n uchel am anghydraddoldeb ac anghyfartaledd. Mae'n golygu addysgu ein hunain trwy lunio a rhannu rhestrau darllen ac nid dibynnu ar ymgynghorwyr cyflogedig neu aelodau penodol o'n tîm yn unig.
  3. Ein bod ni fel sefydliad cenedlaethol a Chwmni Buddiannau Cymunedol yn gyfrifol am gefnogi a hwyluso mynediad a chynhwysiant ar draws Cymru gyfan.
    Mae hyn yn golygu ystyried a mesur cynrychiolaeth ddaearyddol yn rheolaidd wrth ystyried dyfarniadau, digwyddiadau, cyfranogwyr a mynediad cyhoeddus. Gwyddom fod canolfannau ffocws ar gyfer y diwydiant yn bodoli, lle mae gwasanaethau, adnoddau a/neu seilwaith yn gyfrifol am annog bod rhagor o waith ar gael, megis Caerdydd a Chaerfyrddin, ond byddwn ninnau hefyd yn annog yn gryf, ac yn chwilio am gyfleoedd i gefnogi ehangu buddion daearyddol.
  4. Y dylai pawb gael eu talu am eu gwaith, os nad ydynt mewn addysg llawn amser ac nad ydynt yn wirfoddolwyr.
    Mae hyn yn berthnasol i drafodaethau panel, sgyrsiau, dosbarthiadau meistr, mentora, fforymau adborth ac ymgynghoriaeth, comisiynau, a dyfarniadau ariannu ar bob lefel o brofiad. Rydym o’r farn, os ydym yn parhau â’r ‘diwylliant ffafriol’ sy’n bodoli yn ein diwydiant, ein bod yn diystyrru canran enfawr o’n poblogaeth rhag meddwl bod y diwydiant hwn ar eu cyfer nhw. Gwyddom fod cyllid ar gyfer y celfyddydau yn gyfyngedig, a chyllidebau bob amser yn dynn. Ond os na allwn fforddio talu pawb fel rhan o fenter, yna ni ddylem ei wneud. Neu dylem bartneru â sefydliadau eraill sy'n ceisio gwneud yr un peth.
  5. Ni ddylai’r rhai sy’n cymryd rhan neu’n gweithio yn y sector ffilm ddibynnu ar asedau cymdeithasol anariannol. 
    Mae hynny’n golygu, ymhlith pethau eraill, y dylai pobl allu rannu eu syniadau â ni heb fod angen iaith arbenigol. Mae’n golygu cyfleoedd hysbysebu, osgoi jargon, bod yn dryloyw am yr hyn yr ydym yn chwilio amdano, dangos y gefnogaeth sydd ar gael yn hytrach na thybio y bydd gan bobl yr hyder i ofyn. Mae’n golygu cydnabod bod hyder ynddo’i hun yn fraint ac nid yn nodwedd o dalent.
  6. Bod angen inni osod ‘newid’ ynghanol yr agenda a pheidio â dibynnu ar gynlluniau, paneli a digwyddiadau ‘Amrywiaeth’.
    Mae hynny’n golygu symud y tu hwnt i weithgarwch sydd wedi’i labelu’n ‘Amrywiaeth’, sy’n homogeneiddio profiadau bywyd hynod amrywiol ac sy’n awgrymu’n mai amrywiaeth yw’r broblem, yn hytrach na’r ffordd y mae ein sector yn gweithio. Mae’n golygu deall bod llawer o bobl wedi’u gwthio i’r cyrion o fewn cynlluniau, a byth yn llwyddo i gael comisiwn, er enghraifft, a bod yn rhaid inni adeiladu gwaddol i bopeth a wnawn.
  7. Y dylem weithio mewn partneriaeth a llunio gweithgaredd o amgylch y rhai yr ydym am eu cyrraedd gan fabwysiadu'r egwyddor #NothingAboutUsWithoutUs a hyrwyddwyd yn bennaf, yn ddiweddar, gan rwydweithiau B/byddar, Anabl a Niwroamrywiol.
     
three people posing for a photo in the cinema foyer of chapter arts centre

Ein Targedau

Mae ein targedau yn cael eu llywio gan ddata demograffig ar gyfer Cymru, wedi’u talgrynnu i’r hanner canran agosaf, ac yn amrywio lle mae’n amlwg bod data’r cyfrifiad yn annigonol (gweler y cyfeiriadau):

  • Menywod: 52% (1)
  • LGBTQI+: 10% (2)
  • b/Byddar, Anabl neu Niwroamrywiol: 23% (3)
  • Pobl o’r Mwyafrif Byd-eang: 10% (4)
  • Cefndir Cymdeithasol-economaidd: 25% (5)
  • Yr Iaith Gymraeg: 29% (6)
  • Pobl Ifanc: Meincnod yn y flwyddyn
ashrah suudy shooting her film on a dock

Ar gyfer pob un o’r uchod, mae’r ganran hon yn berthnasol, fesul blwyddyn ariannol, i:

  • Targed 1: % yr awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr rydym yn eu cefnogi gyda chyllid ffilm
  • Targed 2: % personél y cwmnïau rydym yn eu cefnogi gyda buddsoddiad ar lefel cwmni, yn ogystal â dyfarniadau o’r gronfa arddangos ac addysg
  • Targed 3: % cyfranogiad mewn cyfleoedd datblygu gyrfa rydym yn eu darparu neu'n cefnogi eraill i'w darparu, yn amodol ar sicrhau ymatebion data digonol
  • Targed 4: % cyfranogiad mewn addysg ffilm a gweithgaredd arddangos yr ydym yn ei gefnogi
  • Targed 5: % cyfanswm criwiau sy’n gweithio ar ffilmiau Ffilm Cymru, yn amodol ar adolygiad o’r data sydd ar gael i bennu targed

Yn ogystal â hyn, mae Ffilm Cymru yn monitro cynrychiolaeth ar y sgrîn a llogi dan-y-llinell ar brosiectau fel ystyriaeth ymwybodol o fewn y broses benderfynu a thrwy gydol ein proses o gefnogi gwneuthurwyr ffilm a ariennir. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cynnwys Cymraeg (fel yr amlinellir yn ein Cynllun Iaith Gymraeg).

Rydym yn cyhoeddi ein hystadegau yn flynyddol yn ein Hadroddiadau Blynyddol. Fel cronfa gymharol fach, gall pob dyfarniad gael effaith sylweddol ar ein hystadegau cyffredinol ar gyfer pob un o’n meysydd blaenoriaeth. Rydym yn adolygu ein targedau’n flynyddol ac yn disgwyl diweddaru eto yn unol â chanlyniadau Cyfrifiad 2021, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn 2023.

Mae gosod targedau yn ddefnyddiol i’n hatgoffa o’r camau sydd angen eu cymryd, ond nid yw hyn ynddo’i hun yn creu’r math o amgylchedd cynhwysol y gall pawb ffynnu ynddo yn y tymor hir. Mae casglwyr data demograffig fel y Cyfrifiad hefyd, yn sgil sut y maent wedi eu cynllunio, yn annhebygol o ddenu cyfranogiad gwirioneddol y rhai sydd ar gyrion cymdeithas yn gyffredinol. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i’r camau gweithredu canlynol.

Beth a Wnawn

Amcan: Mae ein gweithwyr a’n bwrdd yn cynrychioli’r gymuned rydym yn ei gwasanaethu.

Gweithred:

  • Strategaeth recriwtio'r Bwrdd a chyflwyno honorariwm ar gyfer swyddogaethau’r bwrdd.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Mae'r holl staff a'r bwrdd yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth o duedd anymwybodol, gwrth-hiliaeth ac anabledd.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Datblygu cronfa o aseswyr allanol i gynyddu’r profiad bywyd a adlewyrchir yn ein proses wrth wneud penderfyniadau, gan gynnwys defnyddio carfan Cydymaith Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu ond mae galwad agored yn cael ei gynllunio ar gyfer 2023-24
  • Mae pob hysbyseb swydd yn cynnig cyfweliadau awtomatig i ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf sylfaenol sy'n nodi eu bod yn bobl f/Byddar, yn Anabl neu'n Niwroamrywiol.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Hysbysebir pob hysbyseb swydd yn eang a thrwy rwydweithiau amrywiol.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Pob hysbyseb swydd ar gael mewn fformat hygyrch a dwyieithog Cymraeg/Saesneg, derbynnir ceisiadau ar ffurf fideo, fel copi caled, drwy e-bost, neu dros y ffôn, ac mae cymorth ar gael i ymgeiswyr wneud cais os ydynt yn wynebu rhwystrau.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn datblygu ‘cytundeb partneriaeth’ gyda phawb rydym yn eu llogi, gan gychwyn sgwrs am sut maent yn gweithio orau a’u cefnogi i weithio’n wahanol os oes angen, gan sicrhau ein bod yn cadw staff sy’n adlewyrchu ein meysydd blaenoriaeth.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn cadw staff sy'n siarad Cymraeg ac yn sicrhau bod yr holl staff yn deall ein Cynllun Iaith Gymraeg.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn cynnwys adran ar ficro-ymosodedd yn y llawlyfrau staff ac yn eu hymgorffori yn y polisïau disgyblu a pherfformiad.    
    • Statws: Mewn datblygiad 2023-24
  • Byddwn yn gweithio gyda’r sefydliadau celfyddydol cenedlaethol eraill i ddatblygu cyfleoedd mentora a chyflogaeth strwythuredig i bobl o’r mwyafrif byd-eang neu sy’n f/Fyddar, yn Anabl neu’n Niwrorywiol.    
    • Statws: Cynllun arweinyddiaeth gwrth-hiliol cydweithredol, wedi'i ariannu ar gyfer gweithredu o 2023-24 ymlaen.
  • Byddwn yn defnyddio sefydliad a arweinir gan anabledd i fentora uwch reolwyr. (mentora tu chwith)    
    • Statws: Cwblhawyd yn 22-23, gan arwain at ddatblygu canllaw mynediad cwmni gyda Disability Connect a thymor o sesiynau addysgu. Wedi’i roi ar waith
  • Byddwn yn gwerthfawrogi'r amser a roddir a’r profiad bywyd a rennir. Bydd unigolion, a'r rhai mewn cwmnïau micro neu gwmnïau bach, bob amser yn cael cynnig tâl am waith a wneir, yn ogystal â threuliau.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
two people sitting on a bed on a film set holding a clapperboard. A member of crew is standing in the background

Amcan: Mae'r bobl rydym yn eu cefnogi'n uniongyrchol yn adlewyrchu'r gymuned rydym yn ei gwasanaethu.

Gweithred: 

  • Gwnawn yn siŵr bod yr holl staff yn ymwybodol bod eu gwaith o ddydd i ddydd yn ymgysylltu ag ystod amrywiol a chynrychioliadol o unigolion - boed hynny’n drefnu cyfarfodydd mewn gwyliau, marchnadoedd, neu ddigwyddiadau sector eraill.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn adolygu ein hystadegau amrywiaeth fel tîm yn flynyddol, gan drafod yr hyn y credwn y gallem ei wneud yn well mewn rhai meysydd a rhannu syniadau.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn mor hygyrch â phosibl i ymgeiswyr sydd eisiau cyngor ar eu cais.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn sicrhau bod ein cyllid bob amser yn cael ei hysbysebu. Byddwn yn sicrhau bod ein canllawiau a’n ffurflenni cais ar gael mewn fformatau hygyrch ac yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, gyda cheisiadau’n cael eu derbyn ar ffurf fideo, copi caled, drwy e-bost, neu dros y ffôn, a chymorth ar gael i ymgeiswyr wneud cais os ydynt yn wynebu rhwystrau.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a sefydliadau amrywiaeth fel Celfyddydau Anabledd Cymru, i gynnal sesiynau cynghori grŵp yn darparu cymorth cyn ymgeisio.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn ymgynghori ag arbenigwyr Anabledd, megis Attitude is Everything parthed ein canllawiau ariannu a'n proses ymgeisio.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn sicrhau bod ein holl waith cyfathrebu yn wrth-hiliol, yn wrth-anabledd ac yn gynhwysol.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn cadw staff sy'n siarad Cymraeg i gefnogi ceisiadau.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn bob amser yn cynnig bwrsariaethau ar gyfer hyfforddiant neu ddigwyddiadau rydym yn eu darparu.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn datblygu Prawf Straen EDI i’w gwblhau wrth gynllunio pob digwyddiad neu raglen hyfforddi Ffilm Cymru a thrwy hynny byddwn yn gwerthuso siaradwyr, arbenigwyr, lleoliadau ac ystyriaethau mynediad eraill, yn ogystal â sianeli neu ddulliau marchnata a hyrwyddo.    
    • Statws: Yn adolygu a ffurfioli
  • Byddwn yn cefnogi gweithgaredd grŵp cyfoedion i unioni’r diffyg cynrychiolaeth (e.e. grŵp gwneuthurwyr ffilm benywaidd SHIFFT, academi actorion niwro-ddargyfeiriol Hijinx);    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn parhau i ddatblygu ein rhaglen hyfforddi ar gyfer unigolion dan anfantais economaidd-gymdeithasol yng Nghymru – ein rhaglen arloesol Troed yn y Drws.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu ac yn amodol ar ddatblygiad pellach yn 2022 
  • Byddwn yn cynnig gwasanaethau dwyieithog a/neu BSL neu ffrydio testun ar bob un o’n digwyddiadau a'n hyfforddiant.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn cyd-ddylunio gweithgarwch ariannu a hyfforddi yn y dyfodol gyda phobl sydd wedi cael profiad bywyd yn y meysydd yr ydym yn ceisio eu cefnogi.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn datblygu ‘cytundeb partneriaeth’ gyda phawb rydym yn eu hariannu, gan ddechrau sgwrs am sut maent yn gweithio orau a’u cefnogi i weithio’n wahanol os oes angen, gan sicrhau bod pawb yn ffynnu yn y broses o weithio gyda ni, ac eisiau gweithio gyda ni eto.    
    • Statws: Yn datblygu yn 23-24
  • Byddwn yn clustnodi cyllideb i gefnogi mynediad i’r cyfranogwyr, ar gyfer elfennau amrywiaeth fel cost gofal, fel nad yw'n cystadlu â chostau craidd y prosiect ac yn rhoi'r ymgeisydd mewn sefyllfa anodd.    
    • Statws: Wedi’i roi ar waith, ac yn adolygu ei weithrediad.
  • Byddwn yn sicrhau bod ein staff yn ymgysylltu â gwahanol ardaloedd o Gymru ac yn teithio iddynt i gynnig cyngor, gan gynnwys gweithio mewn canolfannau cymunedol a'r lleoedd a ariannwn gyda'n cyllid ar gyfer addysg ffilm ac arddangos.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu, wyneb yn wyneb yn amodol ar covid-19. 

Amcan: Dulliau o weithio yn y sector sy’n cefnogi’r gymuned rydym yn ei gwasanaethu.

Actions:

  • Fel arfer byddwn angen 2-6 o brentisiaid cyflogedig o Gymru ar bob cynhyrchiad a ariannwn, yn dibynnu ar raddfa a’r cyd-destun cynhyrchu.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn cefnogi ein holl dderbynwyr cyllid cynhyrchu i ddatblygu Cynllun Gweithredu EDI gan annog, yn benodol, hysbysebu swyddogaethau, ac yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sy’n derbyn cyllid Addysg a Chynulleidfa ddatblygu cynlluniau EDI sy'n datblygu ac sy'n briodol i'w gwaith.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn clustnodi cyllid i ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer prosiectau sy’n datblygu cynigion cryf i wella dilysrwydd neu gynrychiolaeth eu prosiectau ffilm, e.e. gweithdai gyda chymuned benodol, darparu creche ar set.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu ond yn cael ei fireinio yn 2022 
  • Bydd angen i'r rhai rydym yn eu hariannu fonitro amrywiaeth y rhai y maent yn eu llogi neu'n eu cyrraedd gyda'n cyllid.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn cefnogi’r rhai rydym yn eu hariannu drwy gynnig cyngor, adnoddau ac astudiaethau achos ysbrydoledig ar sut y gallent wneud eu gwaith yn fwy cynhwysol.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn gofyn i’r rhai rydym yn eu hariannu rannu eu Côd Ymddygiad yn eang, neu ddatblygu o’n Côd Ymddygiad label gwyn ni, ac i helpu i frwydro yn erbyn bwlio, aflonyddu ac aflonyddu rhywiol yn y sector.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn annog y rhai rydym yn eu hariannu i brofi eu syniadau yn ystod y cam datblygu trwy ein dull Magnifier / Chwyddwydr, gan hwyluso dangosiadau prawf neu ddarlleniadau gyda chymunedau penodol, ac archwilio deunyddiau ategol a allai ehangu cyrhaeddiad y prosiect.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn hwyluso'r rhai rydym yn eu hariannu i fentora talent mwy newydd neu eu gosod mewn lleoliadau cysgodi, gan helpu'r cyfranogwyr i strwythuro'r profiad.
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn eiriol dros gasglu data gweithlu yn well, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y BFI, Creative Skillset, CCC ac eraill, a byddwn yn cyhoeddi’r data gweithlu sydd gennym, er mwyn annog yr arfer gorau.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn hyrwyddo anghenion gweithwyr llawrydd a gwneuthurwyr ffilm annibynnol, arddangoswyr ac addysgwyr Cymru (er enghraifft, pan wnaethom eirioli dros gronfa cymorth llawrydd Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig covid-19).    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Bydd angen creu deunyddiau mynediad anabledd ar gyfer pob ffilm a ariannwn gyda chyllid cynhyrchu.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn cefnogi peilota Hwyluswyr Lles ar gynyrchiadau, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yr undebau, y BFI ac eraill.    
    • Statws: Yn cael ei weithredu
  • Byddwn yn hwyluso cyd-ddylunio Siarter Gwaith Teg gan weithio gyda phobl sydd dan anfantais economaidd, y trydydd sector, darparwyr hyfforddiant a’r diwydiant. Cyfrannwyd at y PEC Good Work Review ac yn paratoi i roi argymhellion blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar waith. 
    • Statws: Yn cael ei weithredu

Iaith a Therminoleg

Yn syml, mae cydraddoldeb yn golygu trin pawb yn deg. Nid yw'n ymwneud â thrin pawb yr un fath ond sicrhau nad oes unrhyw un dan anfantais oherwydd eu gwahaniaethau. Mae amrywiaeth yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio’r ffaith bod pawb yn wahanol ac y dylid parchu, cydnabod a gwerthfawrogi’r gwahaniaethau. Wrth gynhwysiant rydym yn golygu agwedd ac arfer sy'n dod â phobl ynghyd o fewn amgylchedd y diwydiannau creadigol, gan ddarparu'r amodau i bawb weithio neu gymryd rhan yn y ffordd maent yn dymuno.

Mae’n bwysig cydnabod cyfyngiadau terminoleg all fod yn annigonol, gan fod terminoleg yn ddyfais cymdeithasol, ond mae ganddo hefyd werth wrth ddaparu tystiolaeth am anghydraddoldebau. Mae dwy agwedd bwysig i’w hamlygu yn ein dull EDI:

  • Ni fwriedir i derminoleg wahardd unrhyw benderfyniad na hunaniaeth bersonol, gan gynnwys rhyngblethedd. Mae rhyngblethedd yn cyfeirio at yr hunaniaethau lluosog sydd gennym ni i gyd, a gallai rhai ohonynt gynnig manteision cymdeithasol ac eraill anfanteision cymdeithasol.
  • Ein bod yn adolygu ac yn addasu iaith yn rheolaidd, fel rhan o’n hadolygiadau EDI blynyddol, gan ddefnyddio adborth a gyflwynwyd yn ein ffurflenni monitro amrywiaeth, yn ogystal â’r mewnwelediadau rydym yn talu amdanynt fel rhan o’n dull #NothingAboutUsWithoutUs.
  • Rydym yn cydnabod y model cymdeithasol o Anabledd a’r model diwylliannol o Fyddardod ac yn defnyddio’r term ‘b/Byddar, Anabl neu niwroamrywiol’. 
  • Rydym hefyd yn defnyddio’r term dad-drefedigaethol ‘Pobl o’r Mwyafrif Byd-eang’ yn hytrach na Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig, neu ei acronym, i wrthod ‘arallu’ neu i ganoli’r safbwynt gwyn trwy wladychu iaith.
  • Rydym yn cydnabod y profiadau bywyd tra gwahanol o fewn y gymuned f/Byddar, Anabl a niwroamrywiol ac o fewn y term Pobl y Mwyafrif Byd-eang ac yn darparu diffiniadau manylach yn ein ffurflen fonitro, ac yn annog pobl i ddisgrifio eu hunain.
three people sitting onstage at a panel discussions

Darllen Pellach

Mae’r adroddiadau canlynol yn cynnig cyd-destun pellach i’r ddogfen hon: