Dod â sinema Affricanaidd i Gymru

Dod â sinema Affricanaidd i Gymru

Bydd gŵyl ffilmiau Affricanaidd flynyddol Cymru, Watch-Africa Cymru, yn digwydd ar-lein yn 2021, gan ddod ag Affrica a Chymru at ei gilydd i ddathlu sinema Affricanaidd.

Sefydlwyd yr ŵyl Watch-Africa Cymru wyth mlynedd yn ôl yn ne Cymru, a hon yw unig ŵyl ffilmiau Affricanaidd Cymru. Mae'r 9fed rhifyn eleni yn symud ar-lein ac yn digwydd rhwng 19 a 28 Chwefror 2021.

Gyda chefnogaeth Canolfan Celfyddydau Chapter, Ffilm Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae rhaglen gyffrous o'r enw 'Dod ag Affrica i Gymru', wedi cael ei churadu. Bydd yr ŵyl yn sgrinio amrywiaeth o 10 o ffilmiau gwych, a sesiwn holi ac ateb fyw gyda chyfarwyddwyr, cast ac arbenigwyr.

Ynghyd â'r rhaglen sinema hon, bydd yr ŵyl yn cynnig cyfres o weithdai diddorol hefyd, sydd wedi'u trefnu'n arbennig i gefnogi’r rhaglen sinema (gan gynnwys gweithdy ar Lên Gwerin Affricanaidd!).

Bydd yr ŵyl hon yn dathlu cyfnewidfeydd diwylliannol dilys drwy gydweithrediadau sinematig traws-genedlaethol. I agor yr ŵyl, mae’n bleser gan Watch-Cymru Africa groesawu Florence Ayisi, gwneuthurwr ffilmiau Cymru-Affrica. Bydd yr ŵyl yn dod i ben gyda sgriniad 'Buganda Royal Music Revival' a thrafodaeth gyda gwneuthurwyr ffilmiau a chynrychiolwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Meddai Christine Patterson, cynhyrchydd Watch-Africa Cymru: "Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o gydweithrediadau mor wych ar gyfer yr ŵyl ffilmiau eleni. Mae'r rhaglen hon yn siŵr o ysgogi ystod eang o emosiynau, a sbarduno rhywfaint o drafodaethau diddorol. Rydym ni, yn ogystal â'n cydweithwyr, yn edrych ymlaen at fwynhau'r ŵyl sydd i ddod gyda chi."

Meddai Claire Vaughan o Ganolfan Celfyddydau Chapter: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda Watch-Africa ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi helpu i wneud yr ŵyl hon yn ŵyl ddigidol eleni, fel bod cynulleidfaoedd yn cael cyfle i weld yr holl ffilmiau gwych hyn. Mae gwledd o’ch blaen- rhaglenni dogfen gan wneuthurwyr ffilmiau yng Nghymru, sylwebaeth gymdeithasol, comedi, clasuron a rhywfaint o'r ffotograffiaeth harddaf y byddwch yn ei weld eleni. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at y gweithdai, sy'n cynnwys addysgwyr fel Abu-Bakr Madden Al-Shabazz. Peidiwch â cholli eich cyfle i weld y ffilmiau hyn, a gweld ychydig o'r byd sydd ddim ar gael i ni ar hyn o bryd."

Dywedodd yr Athro Florence Ayisi, gwneuthurwr ffilmiau Affricanaidd sy'n byw yng Nghymru ac sydd â dwy ffilm sydd yn mynd i gael eu sgrinio, bod "Watch-Africa Cymru yn cynnig gofod creadigol i wneuthurwyr ffilmiau a phobl sy’n caru ffilmiau i gysylltu a thrafod. Mae'n ofod arbennig sy'n ymwneud mwy â syniadau, delweddau a straeon am ddiwylliant a phrofiadau Affricanaidd a gipiwyd mewn ffilm. Yn bwysicach na hynny, mae'n le i weld, clywed a gwybod ychydig mwy am safbwyntiau a phrofiadau byw sy'n pontio bylchau o wybodaeth anghywir a chamddehongliadau am fywyd yn Affrica. Mae Watch-Africa Cymru yn fwy na gŵyl ffilmiau; mae wedi creu lle i gynulleidfaoedd ddathlu diwylliannau pobl Affricanaidd sy'n ffurfio Cymru amlddiwylliannol; gweledigaeth wych!"

'Mae tocynnau ar gyfer yr Ŵyl Ffilmiau Dod ag Affrica i Gymru ar werth nawr. Bydd modd prynu pob ffilm a’u ffrydio ar Chwaraewr Chapter: www.chapter.vhx.tv/browse