ffilm cymru wales logo on a light grey background

Cyfle Am Swydd: Rheolwr Materion Gwyrdd

Mae Ffilm Cymru Wales yn cynnig cyfle unigryw i gefnogi unigolion proffesiynol a chwmnïau’r sector sgrin yng Nghymru i sicrhau allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.

Fel Rheolwr Materion Gwyrdd Ffilm Cymru, byddwch yn gyfrifol am:

  • Cyflawni ein rhaglen Cymru Werdd gyda’r Clwstwr, sy’n cynnwys cronfa arloesi gwerth tua £75,000 ar gyfer ymchwil a datblygu ym maes cynnyrch a gwasanaethau gwyrdd, yn ogystal â digwyddiadau i ysbrydoli a chodi ymwybyddiaeth.
  • Datblygu adnoddau, polisi a phrosesau sy’n cefnogi sector gwyrddach.
  • Meithrin perthnasoedd â sefydliadau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd yng Nghymru a thu hwnt.

Math o gontract: Amser llawn, am un flwyddyn i gychwyn gyda’r posibilrwydd i ymestyn i gontract aml-flwyddyn. Byddwn yn ystyried cynigion i rannu swydd.
Lleoliad: Cymru. Mae ein prif leoliad yng Nghaerdydd ond mae hyblygrwydd i weithio o bell.
Yn adrodd i: Pennaeth Cynhyrchu.  
Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl yn 2021.  
Cyflog: £25,000- £30,000 (yn dibynnu ar brofiad), ynghyd â phensiwn a 28 diwrnod o wyliau yn ychwanegol at Wyliau Cyhoeddus.
Cynhwysiant: Rydym wedi ymrwymo i ehangu cynrychiolaeth a phrofiad go iawn yn ein sefydliad.  Byddwn yn cynnig cyfweliad yn awtomatig i bob ymgeisydd sy’n cyrraedd ein meini prawf hanfodol ac sy’n ystyried eu bod o hil neu ethnigrwydd sydd wedi’i dangynrychioli neu yn fyddar, niwroamrywiol, neu’n byw ag anabledd.
Dyddiad cau: 12:00 ar 23 Mawrth 2021

I wneud cais, gallwch anfon eich CV atom drwy e-bost, ynghyd â llythyr cyflwyno o 750 gair neu lai sy’n esbonio pam eich bod eisiau gweithio gyda Ffilm Cymru a sut mae eich profiad yn cyd-fynd â’r rôl fel y mae wedi’i hysbysebu uchod.

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion mynediad a gallwn drefnu ffyrdd eraill i chi gyflwyno cais. Er enghraifft, gallwn ddarparu cyfeiriad er mwyn postio copi caled o gais, gallwn dderbyn llythyrau cyflwyno fideo, neu gallwn drefnu slot o awr i drawsgrifio eich llythyr cyflwyno dros y ffôn. 

Dylai eich cais gael ei gyfeirio at Bennaeth Cynhyrchu, Kim Warner d/o: Sion Eirug a fydd hefyd yn mynd i’r afael ag unrhyw ymholiadau sydd gennych ynglyn ag ymgeisio. Gallwch gysylltu â hi ar sion@ffilmcymruwales.com

disability confident employer badge
zero racism wales badge