niamh algar in censor

Censor i’w dangos am y tro cyntaf yn Sundance

Caiff ffilm Prano Bailey-Bond, sy’n llythyr serch i ffilmiau arswyd yr 80au, ei dangos am y tro cyntaf yn y byd yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance ym mis Ionawr.

Niamh Algar (Calm with Horses, Raised by Wolves) sy’n serennu fel sensor ffilmiau o’r enw Enid. Ar ôl gwylio un fideo ffiaidd a oedd yn ymddangos yn od o gyfarwydd, mae’n mynd at i ddatrys dirgelwch diflaniad ei chwaer yn y gorffennol, gan gychwyn ar gwest sy’n pylu’r ffin rhwng ffuglen a realiti.

Gyda chefnogaeth Ffilm Cymru ac arian y Loteri Genedlaethol, Censor yw ffilm nodwedd gyntaf y gwneuthurwr ffilmiau o Aberystwyth, Prano Bailey-Bond, yn dilyn nifer o ffilmiau byr a gymeradwywyd gan y beirniaid, gan gynnwys Nasty a Shortcut.

Cafodd Censor ei hysgrifennu gan Prano Bailey-Bond ac Anthony Fletcher, fe’i cynhyrchwyd gan Helen Jones o Silver Salt Films, ac fe’i cefnogwyd gan Film4, y BFI a Ffilm Cymru. Protagonist Pictures sy’n ymdrin â’r gwerthiant rhyngwladol.

Caiff Gŵyl Ffilmiau Sundance eleni ei chynnal o’r 28ain Ionawr i’r 3ydd Chwefror ar-lein a go iawn ar Satellite Screens ledled yr Unol Daleithiau (yn ddibynnol ar iechyd y cyhoedd). Caiff Censor ei dangos am y tro cyntaf ar 29ain Ionawr, ac am yr eildro ar 30ain Ionawr.