Louise Dixey

a photo of louise dixey standing in front of a map of wales

Rheolwr Cynaliadwyedd

Louise sy’n arwain ein rhaglen Cymru Werdd, gan gefnogi gweithwyr proffesiynol y sector sgrîn i gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.

Mae ganddi brofiad helaeth o gydlynu prosiectau datblygu cynaliadwy yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol (Is-Sahara Affrica a'r Caribî). Yng Nghymru, mae hi wedi cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau sy’n ymwneud â datblygu twristiaeth gynaliadwy, sgiliau, a’r economi gylchol. Mae’n arbenigo mewn rheoli prosiectau, mewn ymchwil cymhwysol, ac yn gweithio fel darlithydd. Mae wedi gweithio gyda busnesau, cymdeithasau masnach, prifysgolion, llywodraethau, sefydliadau’r trydydd sector, a gyda chymunedau.

Mae Louise yn gwirfoddoli fel Aelod o Reithgor Goriad Gwyrdd dros Gymru ac mae ganddi radd MPhil. mewn Datblygu a’r Amgylchedd o Brifysgol Caergrawnt.