Llion Iwan

portrait photo of llion iwan

Ymunodd Llion â Cwmni Da, cwmni annibynol Cymraeg, yn 2019 fel Cyfarwyddwr Cynnwys, ac yna fe’i penodwyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn 2021. Bu’n gweithio am ddwy flynedd fel gohebydd papur newydd, cyn treulio degawd yn y BBC yn cynhyrchu a chyfarwyddo ffilmiau dogfen ar gyfer BBC1, 2, 4. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr llawrydd. Mae ei ffilmiau wedi ennill gwobrau yn Ffrainc, Canada, ac yn y Swistir, ac mae wedi ennill gwobr RTS.

Cafodd Llion ei benodi fel comisiynydd Cynnwys Ffeithiol a Chwaraeon i S4C yn 2012, lle sicrhaodd yr hawliau i’r Tour de France. Yn 2016 fe’i penodwyd yn Bennaeth Dosbarthu Cynnwys, ac roedd yn aelod o’r tîm rheoli ac o Awdurdod S4C. Mae'n eistedd yn rheolaidd ar baneli gwyliau ffilm yn Asia, gan gynnwys Tokyo, Incheon yn Korea a GMZ yn Tsieina. Enilllodd radd PhD mewn astudio ffilmiau ddogfen, ac mae wedi cyhoeddi pum nofel, un llyfr teithiol a dyddiadur am Geraint Thomas yn ennill le Tour de France.