Ihsana Feldwick

portrait photo of ihsana feldwick

Cydlynydd yr Adran Dalent

Yn fwyaf diweddar, bu Ihsana yn gweithio ar gyfres Willow, sydd ar y gweill gan Disney a Lucasfilm TV, gan weithio fel Hyfforddai Cyfrifon, swydd a gafodd drwy gynllun hyfforddiant sy’n cael ei redeg gan y BFI. Cafodd y cyfle hefyd i drosglwyddo i’r adran Olygyddol, lle bu’n cysgodi’r Cynorthwyydd a’r Cydlynydd Ôl-Gynhyrchu, tra’n derbyn hyfforddiant ymarferol hefyd gan y Golygyddion Cynorthwyol. 

Datblygodd Ihsana ddiddordeb yn y diwydiant ffilm a theledu yn yr ysgol ac aeth yn ei blaen i astudio BA Cynhyrchu Ffilm a Sinematograffeg ym Mhrifysgol Bournemouth. Yno, magodd brofiad yn gweithio ar Paddington 2 yn yr Adran Gamera, ond sylweddolodd yno hefyd y byddai’n fwy addas yn gweithio ar yr ochr weinyddol / cyn-gynhyrchu. 

Symudodd i Gymru yn 2019 oherwydd y diwydiant ffilm a theledu. Gweithiodd mewn swyddi gweinyddol, gan gynnwys fel Asiant Derbyniadau Myfyrwyr ar gyfer Asiantaeth MSE, cyn derbyn lleoliad ar Willow yn 2021. Mae’n gobeithio parhau i weithio mewn swyddi yn y diwydiant ffilm a theledu a datblygu ei gwybodaeth.