Ellen Fraser
Cymhwysodd Ellen fel bargyfreithiwr ym mis Gorffennaf 2000 ac yn ddiweddarach fel cyfreithiwr. Cyn hynny roedd yn gweithio fel uwch gwnsler mewn bwtîc buddsoddi arweiniol yn y cyfryngau yn Llundain.
Mae Ellen bellach yn Gyfarwyddwr Cyfreithiol yn Great Point Media, lle mae’n arbenigo mewn cynghori cynhyrchwyr cynnwys a chyllidwyr ar unrhyw faterion yn ymwneud â datblygu a chynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu ac ymelwa arnynt, gan gynnwys ar gynyrchiadau ffilm graddfa fawr fel Greenland, ac amryw gynyrchiadau ar gyfer darlledwyr y DU. Mae’r prosiectau diweddar yma yn cynnwys Small Axe a The Pact i’r BBC, ynghyd â nifer o brosiectau ffilm annibynnol ym Mhrydain a thramor.