Eleri Butler

portrait photo of eleri butler

Mae Eleri yn cyfuno ei hangerdd am sinema a chynhyrchu ffilm gyda’r gwaith mae’n ei gyflawni ym maes cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a hawliau dynol - a hynny ers dros 30 mlynedd - ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a’r sectorau nid-er-elw. Mae ganddi radd mewn Cymdeithaseg, a chanddi gefndir yn y byd tai, yn ogystal â gradd Meistr mewn Ffilm o Brifysgol Brunel. Ar hyn o bryd mae Eleri yn gweithio fel Ymgynghorydd Llawrydd yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, preifat a chymunedol gyda’u prosiectau ymchwil, yn meithrin galluoedd, cynllunio strategaethau a busnes, gwasanaethau systemau yn ogystal â gweithredu, llywodraethu, a sicrhau ansawdd a gwerthuso polisiau.

Fel uwch swyddog profiadol mae Eleri wedi arwain Cyrff Anllywodraethol ac asiantaethau’r Llywodraeth yn Ewrop ac Awstralia i atal trais domestig a rhywiol mewn cymunedau lleol. Yn fwyaf diweddar bu’n arwain Family Safety Victoria, ac yn gyfrifol am stiwardio strategol, polisi, y system gwasanaeth, a diwygio trais teuluol a rhywiol ledled y wladwriaeth. Mae hefyd wedi bod yn Brif Swyddog Cymorth i Ferched Cymru yn ddiweddar, yn gweithio fel Cadeirydd Annibynnol ar adolygiadau dynladdiad domestig statudol yng Nghymru a Lloegr, yn Gomisiynydd, yn aelod bwrdd ac yn ymgynghorydd ym meysydd hawliau plant, trais yn erbyn menywod, diwygio cyfiawnder, a chydraddoldeb rhyw.

Mae Eleri’n falch o fod yn Gymraes. Cafodd ei magu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac wrth ei bodd yn cael ei phenodi’n Gymrawd Prifysgol Caerdydd yn 2019 am ei gwaith ym meysydd cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae wedi ymrwymo i sicrhau sector ffilm genedlaethol ffyniannus a llewyrchus, i sicrhau bod gwneuthurwyr ffilm a sinemâu yn hygyrch, ac yn diwallu anghenion pobl ifanc a phobl hŷn, ac yn ateb anghenion cymunedau Du/y mwyafrif byd-eang, pobl anabl, cymunedau LHDT+, ac i sicrahu gwerth y sector ffilm yng Nghymru i gymunedau lleol.