Amanda Rees and Lee Walters

Ymunwch â bwrdd Ffilm Cymru Wales

Wrth i ni edrych at ddyfodol byd ffilm yng Nghymru, rydym yn gwahodd unigolion sy'n credu ym mhŵer straeon i wneud gwahaniaeth, i ymuno â ni. 

Mae Ffilm Cymru Wales wedi bod yn gweithio i dyfu sector ffilm tecach, gwyrddach a mwy cynhwysol ers 2006. Ochr yn ochr â'n partneriaid a'r gwneuthurwyr ffilmiau gwych rydyn ni'n eu cefnogi, rydyn ni wedi gweld y dirwedd ffilm yng Nghymru yn ffynnu. Rydyn ni wedi cefnogi lleisiau newydd, wedi meithrin talent o’n gwlad ein hunain, ac wedi dod â sylw i straeon sy'n adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth bywyd yng Nghymru. Rydyn ni wedi ei gwneud yn ddyletswydd arnom ddeall yr heriau a'r cyfleoedd creadigol sydd o'n blaenau, gan lunio strategaethau i helpu'r sector i ffynnu drwy'r cyfnod cyffrous a newidiol hwn.  
 
Rydyn ni nawr yn chwilio am Aelodau Bwrdd newydd i helpu i lunio cam nesaf ein gwaith. Nid oes angen i chi ddod o'r diwydiant ffilm - rydyn ni’n awyddus i glywed gan bobl sydd â gwahanol sgiliau, profiadau bywyd a safbwyntiau. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich ymrwymiad i adeiladu diwylliant ffilm yng Nghymru sy'n uchelgeisiol, yn hygyrch, ac yn cynrychioli pawb sy'n galw'r lle hwn yn gartref. 

Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano 

Mae gennym Fwrdd brwdfrydig ac ymrwymedig sydd i gyd yn cynnig dealltwriaeth werthfawr o'u profiad proffesiynol a’u profiad bywyd. Rydyn ni am barhau i ehangu'r safbwyntiau hynny a herio sut rydyn ni’n meddwl ac yn gweithredu. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu eich profiad a'ch safbwyntiau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.   
 
Os yw ymuno â’n bwrdd yn apelio atoch chi, rhowch wybod i ni, beth bynnag fo'ch rôl neu daith broffesiynol. Byddem hefyd yn awyddus i glywed gan ddarpar ymgeiswyr a allai gymryd lle profiad aelodau presennol sy'n dod i ddiwedd eu cyfnod fel aelodau'r Bwrdd yn y meysydd canlynol: 

  • Rheoli Cyllid 
  • Perthnasoedd â Rhanddeiliaid 
  • Llywodraethu 
  • Cynhyrchu Ffilmiau 
  • Materion Cyfreithiol a Busnes 

Er ein bod wedi tynnu sylw at rai meysydd allweddol sydd o ddiddordeb arbennig i ni, rydyn ni’n gwybod nad oes gennym yr holl atebion, ac nid ydym am golli'r cyfle i ddod i gyswllt â rhywun gwych.

Ceisiadau 

Oni bai ein bod wedi cytuno i chi ddefnyddio fformat gwahanol i gyflwyno cais, dylech anfon copi o'ch CV drwy e-bost ynghyd â llythyr eglurhaol, yn dweud pryd rydych ar gael a'ch sgiliau yn erbyn y rhai sydd wedi’u hamlinellu yn y fanyleb hon. 
 
Dylid anfon ceisiadau at sylw ein Cadeirydd, Amanda Rees, trwy law Hayley@ffilmcymruwales.com   
 
Neu drwy'r post i: 
Hayley Lau
Ffilm Cymru Wales
W2, Tŷ Wellington
Stryd Wellington
Caerdydd, CF11 9BE. 
 
Os hoffech drafod y rôl ymlaen llaw, anfonwch eich ymholiad at ein Prif Weithredwr, Lee Walters, enquiries@ffilmcymruwales.com  
 
Nid yw Ffilm Cymru Wales yn noddwr trwyddedig ar gyfer VISAs ac felly mae’n rhaid bod eisoes gennych Hawl i Weithio yn y DU er mwyn gwneud cais am y rôl hon. 

Gwnewch gais erbyn hanner dydd ddydd Gwener 27ain Mehefin 2025.

Caiff cyfweliadau eu cynnal yn yr wythnos sy'n dechrau dydd Llun 14eg Gorffennaf 2025.