greening the screen

Gronfa Datblygu Gwyrddio’r Sgrîn

Y dyddiad cau nesaf: 28 June 2024

Mae Gronfa Datblygu Gwyrddio’r Sgrîn yn ariannu’r gwaith o ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau, gan wella cynaliadwyedd amgylcheddol y diwydiant sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae ein rhaglen Cymru Werdd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol a chwmnïau’r sector sgrin yng Nghymru i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Fel rhan o hyn, rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Media Cymru i gyflwyno ein cronfa datblygu Gwyrddu’r Sgrin.

Gwahoddir busnesau a gweithwyr llawrydd sy’n effro i'r hinsawdd i wneud cais am hyd at £50,000, a hynny er mwyn ymchwil a datblygu (Y&D) syniadau am atebion cynaliadwy i  heriau sero net a datgarboneiddio'r sector sgrîn yng Nghymru.

Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y canlynol:

  • Symud i ynni adnewyddadwy mewn stiwdios, swyddfeydd a thai ôl-gynhyrchu, cael gwared yn raddol ar ddiesel ar gyfer generaduron a manteisio i’r eithaf ar effeithlonrwydd ynni ar setiau a lleoliadau.
  • Ailfeddwl trafnidiaeth drwy fapio'r her, cael gwared ar gerbydau diesel, lleihau teithio a symud dulliau teithio i'r rhai sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy.
  • Dull cylchol o fynd i'r afael â deunyddiau a gwastraff bwyd drwy fonitro gwell i leihau gwastraff, blaenoriaethu cyflenwyr lleol ac opsiynau carbon isel ac ailddefnyddio deunyddiau ac asedau cynhyrchu.
  • Casglu gwybodaeth a chydweithio, gan gynnwys asesu cynaliadwyedd asedau a ddefnyddir wrth gynhyrchu, cymorth i gyflenwyr gwyrdd a chreu cyllidebau carbon ar gyfer cynhyrchu.
  • Gosod a gwrthbwyso modelau busnes.

Nid yw’r Gronfa Datblygu Gwyrddio’r Sgrîn addas ar gyfer:

  • creu cynnwys (er enghraifft, ffilmiau byr, ffilmiau a phenodau peilot)
  • comisiynau celf untro
  • astudiaethau dichonoldeb
  • datblygu ap
  • datblygu hydrogen symudol
  • comisiynu gweithgareddau busnes fel arfer, er enghraifft datrysiad cynaliadwy newydd nad oes ganddo fantais arloesol i'r ffordd y mae eich cwmni fel arfer yn mynd i'r afael â phrosiectau newydd
  • ceisiadau nad oes ganddynt dystiolaeth bod disgwyl i'r arloesedd arfaethedig arwain at effaith economaidd sylweddol a chadarnhaol
  • ceisiadau nad oes ganddynt ymchwil a datblygu neu arloesedd.

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus deuddeg mis i gwblhau eu gwaith ymchwil a datblygu, gyda Media Cymru a Ffilm Cymru Wales.  

Hygyrchedd

Os oes gennych chi ofynion penodol a fyddai'n gwneud y broses ymgeisio’n fwy hygyrch (fel cyngor, cymorth ysgrifennu neu gymorth darllen), neu os hoffech chi drafod fformatau eraill (fideo neu sain, naratif llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), ewch ati i ebostio media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffonio 02922 511 434.

Broses Ymgeisio

Nodwch, rhaid cyflwyno ceisiadau trwy'r ffurflen ar-lein. Sicrhewch eich bod wedi darllen y nodiadau canllaw cyn gwneud cais.

Ceisiadau yn agor: Dydd Llyn 20  Mai 2024, hanner dydd
Cyfnod ymgeisio’n dod i ben: Dydd Gwener 28 Mehefin 2024, noon 

 
Lawrlwytho nodiadau canllaw
 
Cyflwyno cais