Sinema Cymru
Mae Sinema Cymru yn gydweithrediad newydd cyffrous rhwng S4C, Cymru Greadigol Llywodraeth Cymru, a Ffilm Cymru i gefnogi ffilmiau Cymraeg sydd â’r potensial i fod ar y sgrin fawr yn rhyngwladol.
O dan raglen Sinema Cymru, bydd o leiaf tair ffilm yn cael eu datblygu bob blwyddyn, gydag bwriad o un o’r ffilmiau hynny’n cael ei dewis ar gyfer cyllid cynhyrchu.
Nod Sinema Cymru yw rhoi ffilmiau Cymraeg ar y map a helpu ffilmiau Cymraeg annibynnol sy’n feiddgar, yn anghonfensiynol ac sydd â’r potensial i gael eu rhyddhau mewn sinemâu yn rhyngwladol. Mae’r rhaglen yn awyddus iawn i hyrwyddo lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli wrth bortreadu’r Gymraeg a gwthio ffiniau o ran yr hyn rydym yn ei alw’n ffilm Gymraeg.
Mae Sinema Cymru yn rhaglen datblygu talent ac yn gronfa ffilmiau ac mae’n gweithio gyda thimau creadigol i greu cynlluniau datblygu gyrfa pwrpasol yn ogystal â chymorth prosiect.
Gwybodaeth am Sinema Cymru
- Rhaglen i gefnogi ffilmiau Cymraeg sengl sydd â’r potensial i ymddangos ar y sgrin fawr.
- Bydd tair ffilm yn cael eu dewis i’w datblygu bob blwyddyn.
- Rhaid i’r ceisiadau gynnwys prif awdur, cyfarwyddwr neu gynhyrchydd sy’n enedigol o Gymru neu wedi’i leoli yng Nghymru (ond nid oes angen llenwi pob rôl adeg gwneud y cais)
- Dylai ymgeiswyr fod â phrofiad perthnasol o weithio yn y diwydiannau creadigol. Nid ydym yn disgwyl i holl aelodau craidd y tîm fod â phrofiad o’r sgrin, ond yn y pen draw byddwn yn chwilio am gydbwysedd o brofiad ar draws aelodau’r tîm.
- Nid oes angen i bob aelod o’r tîm ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl – gallwn hyd yn oed gynnig cymorth ar gyfer gwersi Cymraeg i unigolion er mwyn gwella eu gallu yn y Gymraeg, yn enwedig ysgrifennu yn Gymraeg.
- Dylai ffilmiau fod yn ymarferol o fewn cyllideb o lai na £2 filiwn (ond dim llai na £350,000)
- Bydd timau’n cael cynnig hyd at £30,000 ar gyfer y cyfnod datblygu, gyda’r potensial am ragor o gymorth ariannol, a byddant wedyn yn cael cyfle i ennill comisiwn gwerth £1 miliwn gan S4C a hyd at £600,000 gan Cymru Greadigol. Mae cyllid Cymru Greadigol ar gyfer y rhaglen yn cael ei reoli gan Ffilm Cymru. Gall y cynhyrchydd gymhwyso gwerth credyd Treth y DU i’r swm hwn i gynyddu’r gyllideb cynhyrchu sydd ar gael ymhellach.
- Bydd angen i dimau sicrhau bod digon o amser i fodloni amserlenni’r cynllun, gyda’r nod o sicrhau bod un prosiect yn cael ei gynhyrchu o fewn blwyddyn.
- Bydd bwrsariaethau ar gael hefyd i gefnogi’r ymrwymiad amser hwn ac i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau eraill sy’n atal pobl rhag cymryd rhan yn y cynllun. Er enghraifft, gallwn gynnig cymorth gyda chostau megis gofal plant neu gyfieithydd ar y pryd.
- Bydd timau hefyd yn cael pecyn cymorth pwrpasol ar gyfer elfennau fel mentora neu bresenoldeb yn y farchnad a fydd yn cefnogi’r broses o ddatblygu eu gyrfa a’u ffilm.
Gweler y canllawiau isod am feini prawf llawn y rhaglen.
Sut mae gwneud cais?
Oni bai ein bod wedi cytuno ar ffordd arall o wneud cais gyda chi (gweler cymorth Mynediad isod) dylech wneud y canlynol:
- Darllen y Canllawiau
- Llwytho’r ffurflen gais i lawr a’i llenwi
- Anfon y ffurflen wedi’i llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol angenrheidiol at applications@ffilmcymruwales.com
Beth sydd ei angen arnaf i ymgeisio?
Ynghyd â’ch ffurflen gais, bydd gofyn i chi gyflwyno’r dogfennau a nodir yn y Rhestr Gyfeirio wrth Wneud Cais, gan gynnwys:
- Sgript ar gyfer eich prosiect NEU
- grynodeb o’r stori sy’n ddim mwy na 3000 gair (neu bum tudalen A4) a sampl ysgrifennu hyd llawn gan yr awdur (ee ar gyfer pennod deledu lawn, ffilm, drama).
- Os yw’r sampl yn un fer, llai nag 20 tudalen, yna dylid darparu dau sampl.
- Crynodeb
- CVs ar gyfer eich tîm craidd a dolen weithredol at waith blaenorol mwyaf perthnasol y cyfarwyddwyr os oes un ynghlwm
Cael gafael ar gefnogaeth a chynhwysiant
Rydym yn credu mewn sector sy’n gweithio i bawb ac rydym yn frwd dros ehangu mynediad at y sector sgrin.
Mae cymorth ar gael ar gyfer ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion byddar, trwm eu clyw, anabl, niwroamrywiol a phobl sydd wedi colli eu golwg. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut gallwn ni helpu. Er enghraifft, gallwn dalu am ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cyfarfod gyda ni cyn gwneud cais, darparu cymorth ysgrifenedig i ymgeiswyr dyslecsig, ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, neu gytuno ar fformatau eraill ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddeciau sleidiau. Chi fydd yn ein harwain.
Manylion Cyswllt
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu geisiadau am fynediad, cysylltwch â ni drwy’r cyfeiriad isod cyn dyddiad cau’r cais:
Gwenfair Hawkins, Swyddog Gweithredol Datblygu a Chynhyrchu, gwenfair@ffilmcymruwales.com
Ddim yn siŵr a yw Sinema Cymru yn addas i chi? Edrychwch ar gronfeydd ffilmiau eraill Ffilm Cymru sy’n croesawu gwaith yn y Gymraeg, neu edrych ar alwadau diweddaraf S4C a Cymru Greadigol yma ac yma.