Gyrfaoedd Sgrin: Recordydd Sain Cynhyrchu
Y Recordydd Sain Cynhyrchu sy’n arwain yr adran sy’n gyfrifol am yr holl sain a gaiff ei recordio yn ystod y ffilmio. Deialog fydd hyn yn bennaf, ond gall hefyd gynnwys effeithiau sain ac awyrgylch.
Gareth Meirion Thomas
Cefais fy ngeni a’m magu yn ne Cymru. Ar ôl gadael yr ysgol, bum yn gweithio i’r llywodraeth am 10 mlynedd. Treuliais fy amser hamdden yn ymhél yn llwyr â cherddoriaeth a pherfformio. Yn raddol, arweiniodd hyn at berfformiadau byw ac wedi’u recordio ar y teledu, a datblygodd diddordeb yn y cyfrwng hwn.
Ar ôl bod ar gynllun hyfforddiant byr CYFLE wedi’i ariannu gan gwmnïau ffilmiau annibynnol, y llywodraeth ac arian Ewrop, bum yn gweithio’n ddyfal ym maes recordio sain ar leoliad am 30 mlynedd mewn prosiectau ffilm a theledu. Rwy’n gweithio ar ddrama, nodweddion, dogfennau a hysbysebion.
Mae recordio sain ar leoliad yn dibynnu ar recordio deialog artistiaid yn bennaf, ac mae gofyn monitro a gwrthod sŵn allanol sy’n annerbyniol i’w ddefnyddio gan griw ôl-gynhyrchu o gant o bobl!
Hefyd, wrth recordio dogfen, gallai fod gofyn i mi recordio cloch yn canu i alw bobl i’r offeren ar doriad gwawr yn yr anialwch, heb fod criw na chast yn bresennol.
Mae’r gwaith wedi cynnwys creu ffilmiau dogfen ledled y byd am ddegawdau, o Albania i Arizona, Kiruna i Kampala, Darjeeling i Ddowlais, a llawer mwy. Mae’n swnio’n hudolus, ond nid yw, oni bai eich bod yn dwlu ar awyrennau ac oriau maith!
Yn ddiweddar, bum yn ffodus i allu gweithio mwy neu lai’n llwyr yng Nghymru yn sgil diddordeb mawr mewn ffilmio yma, ac rwy wedi gweithio ar brosiectau gyda sêr fel Tim Roth, John Simm, Keeley Hawes, Claire Foy, Matin Clunes, Charles Dance, Kate Beckinsdale, Michael Sheen a llawer mwy.
Un o’r prosiectau diweddar oedd ffilmio ail gyfres y rhaglen boblogaidd ‘The End of the F***ing World’ a wnaed yn ne Cymru a Fforest y Ddena, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar drydedd gyfres ‘A Discovery of Witches’.