Gyrfaoedd Sgrin: Goruchwylydd Effeithiau Gweledol
Mae’r Cynhyrchydd VFX yn rheoli’r holl broses o greu’r effeithiau gweledol i’r ffilm neu’r rhaglen deledu. Maen nhw’n gwneud yn siŵr bod y cleient, sef Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr y ffilm neu’r gyfres deledu fel arfer, yn hapus â’r effeithiau gweledol mae’r stiwdio yn eu creu.
Tom Horton
Ym myd teledu, dechreuodd Tom Horton ar ei yrfa fel Cynhyrchydd Hyrwyddo a golygydd Rhaglenni/Hysbysebion gan symud ymlaen i gynhyrchu/cyfarwyddo gan greu fideos cerddoriaeth i artistiaid a oedd wedi llofnodi gyda Sony a Warner Music yn Awstralia. Yn ystod y cyfnod yma, ymunodd â Red Ink Film Company, un o brif gwmnïau ffilmiau hysbysebion Awstralia, lle y cafodd ei ddyrchafu’n gyflym i fod yn Gynhyrchydd Gweithredol ac wedyn yn Gyd-Berchennog / Rheolwr Gyfarwyddwr.
Yn y 90au canol symudodd yn ôl i faes ôl-gynhyrchu gan dderbyn rôl fel Cynhyrchydd Gweithredol i VFX House Digital Pictures yn Awstralia. Ddwy flynedd wedyn cafodd ei ddenu i fod yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar gwmni VHQ yn Singapore, sef cwmni VFX rhanbarthol gyda swyddfeydd ledled de-ddwyrain Asia.
Symudodd wedyn i Lundain i fod yn Bennaeth VFX ac aelod o’r bwrdd yng nghyfleuster ôl-gynhyrchu SVC, a chafodd ei wahodd i ymuno â’r tîm rheoli i brynu’r cwmni. Gwerthwyd y cwmni yn llwyddiannus i Ascent Media.
Ymunodd wedyn â Saatchi & Saatchi London ble yr aeth ati i ail-lansio ac ail-frandio eu cyfleuster VFX/ôl-gynhyrchu mewnol, Triangle Post Production, yn ogystal â dau gwmni cynnwys arall, a chynhyrchodd waith a enillodd Fideo Cerddoriaeth Gorau yn y British Music Awards yn ogystal â sawl gwobr D&AD.
Ar ôl sawl blwyddyn mewn rolau uwch reoli yn Condor Post Production a The Mill, penderfynodd symud o’r sector hysbysebu i weithio ar ffilmiau nodwedd a theledu, ac ymunodd â Men-from-Mars, cwmni VFX a enwebwyd am wobrau BAFTA ac Emmy. Fel Cynhyrchydd Gweithredol / Rheolwr Gyfarwyddwr, roedd yn goruchwylio’r holl brif gynyrchiadau VFX, gan gynnwys ffilm “The King’s Speech” a enillodd nifer o wobrau Academy a BAFTA.
Gadawodd Men-from-Mars i lansio swyddfa cwmni Digital Domain yn Llundain (mewn partneriaeth â Reliance Media Works), cwmni VFX a enillodd Wobr Academy, lle y bu’n gweithio ar "Conan the Barbarian", "Rock of Ages", "The Watch" a "GI Joe Retaliation".
Yn 2013 gadawodd y sector cyfleusterau VFX a symud i faes cynhyrchu fel Goruchwylydd VFX a Chynhyrchydd Cyfres Tymor 2 "DaVinci's Demons". Fe’i enwebwyd am wobr Emmy am y gwaith yma.
Ers hynny, mae wedi’i enwebu am ddwy wobr BAFTA a gwobr y Producer Guild Association, ac enillodd wobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol am ei waith ar amryw brosiectau gan gynnwys "Emerald City" a gyfarwyddwyd gan Tarsem Singh ar gyfer NBC Universal, a "A Series of Unfortunate Events" gan Barry Sonnenfeld ar gyfer Netflix.
Y mae newydd gwblhau gwaith ar "Brave New World" ar gyfer NBC Universal a chwmni Steven Spielberg, Amblin Entertainment, fel Cynhyrchydd Cyfres a Goruchwylydd VFX.