Gyrfaoedd Sgrin: Goruchwylydd Ol-Gynhyrchu
Bydd Goruchwylydd Ôl-gynhyrchu yn helpu Cynhyrchydd i gyflawni cymaint â phosib yn y broses olygu, heb fynd y tu hwnt i’r gyllideb.
Amy Humphrey
Dilyniant Gyrfa
- 1994 – 1998 – Coleg Goldsmith’s, Prifysgol Llundain – BA Anrh Cyfathrebu
- 1998 – 2003 – Cynhyrchydd dan Hyfforddiant yn Alomo Productions, gan weithio fy ffordd drwy rengoedd Datblygu Sgriptiau i Olygydd Sgriptiau.
- Ar ôl 18 mis o deithio…
- 2005 – 2016 – Ysgrifennydd Cynhyrchu (1 flwyddyn), Cydlynydd Cynhyrchu (5 mlynedd), Is-Reolwr Cynhyrchu (2 flynedd), Rheolwr Cynhyrchu (3 blynedd) – gweithio ar amryw brosiectau wedi’u sgriptio gan gynnwys “Armstrong & Miller”, “Peep Show”, “Episodes”, “Benidorm”, ‘Witless” a “Spy”
- Symud i Fryste yn 2016 i gael plant – ers hynny bum yn gweithio fel Rheolwr Cynhyrchu ar nifer o genres, yn ogystal ag fel Ôl-Oruchwylydd ar brosiectau wedi’u sgriptio gan gynnwys “Derry Girls” a “Warren”.
Nodau Gyrfa I’r Dyfodol
- Parhau i feithrin fy sgiliau Ôl-Oruchwylio wrth i dechnolegau’r diwydiant ddatblygu.
Uchafbwyntiau Gyrfa
- Cael y cyfle i weithio gyda rhai o fawrion y diwydiant comedi (gormod i’w henwi),
- A chael bod yn rhan o rai rhaglenni ar y lefel uchaf sy’n parhau i wneud i bobl chwerthin.