Gyrfaoedd Sgrin: Grip
Mae Grips yn gwneud yn siŵr bod yr hyn mae’r Cyfarwyddwr a’r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth eisiau ei gyflawni wrth ffilmio yn bosibl. Tra bo’r Cyfarwyddwyr yn meddwl am gelfyddyd y saethiadau, bydd y Grips yn meddwl sut maen nhw am symud y camerâu i wneud i hynny ddigwydd.
Maja Jensen
Dilyniant Gyrfa:
- 2011-2014 BA Astudiaethau Ffilm a Theledu, Prifysgol Fetropolitan Llundain
- 2014-2017 MA Creu Ffilmiau, Ysgol Ffilm Llundain
- 2017 Rhaglen Hyfforddiant Grip Touchstone gyda Screenskills, Bectu, a Grips Branch
- 2017-2019 Grip dan Hyfforddiant, yn gweithio ar amryw brosiectau, gan gynnwys fideos hyrwyddo cerddoriaeth, hysbysebion, teledu a ffilmiau nodwedd
- 2019 Camu i fyny i fod yn ‘grip heb dystysgrif’
Nodau Gyrfa i’r Dyfodol:
- Bod yn grip NVQ Lefel 3, ond am y tro, cael cymaint o brofiad â phosibl.
Uchafbwyntiau Gyrfa:
- Gweithio ar bob math o brosiectau gydag unrhyw fath o gyllideb. O 3 wythnos o saethu yn y nos ar ddechrau mis Mawrth ym mwd Swydd Efrog i chwe wythnos o haul poeth iawn yng Nghymru.
- Gweithio gyda phob darn o offer, o graeniau technegol i godi’r camera oddi ar ysgwydd y gweithredwr camera.
- Gweithio gyda phob math o grips a gwneud fy ngorau bob tro.