Cefnogaeth Cwmni
Currently closed for applications
Mae’r Gefnogaeth Cwmni yn darparu cyllid a chyngor i gwmnïau blaengar sy’n datblygu cysylltiadau cyffrous gyda thalent ac yn datblygu eu cynulleidfaoedd a’u ffrydiau refeniw er mwyn paratoi’r busnes ar gyfer y lefel nesaf.
Pwy all ymgeisio?
Cwmnïau cynhyrchu profiadol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar ffilmiau nodwedd.
Am faint gai ymgeisio?
’Rydym yn cynnig buddsoddiadau ffafriol a hyblyg o hyd at £40,000.
Beth sydd angen arnai i ymgeisio?
- CVs ar gyfer y staff
- Cytundebau ariannol sydd eisoes wedi eu cadarnhau
- Cyfrifon diweddaraf y cwmni
- Rhagamcan o lif arian, incwm a gwariant y cwmni
- Rhestr fanwl gydnabyddedig o’r holl waith sydd wedi ei gwblhau gyda’r union gydnabyddiaeth a roddwyd i’r cwmni, yn ogystal â throsolwg o’r llechen gyfredol (ym mhob ffurf celfyddydol a chyfryngol)
Canllawiau
I gael rhagor o wybodaeth am ein harian ar gyfer Cefnogi Cwmni darllenwch ein Canllawiau Cefnogi Cwmni.
Mae’r ffurflenni cais ar gael isod, ac unwaith i chi eu cwblhau rhaid eu gyrru at companysupport@ffilmcymruwales.com