Ffordd newydd o wylio ffilmiau o Gymru
Mae Ffilm Cymru Wales wedi partneru ag AM i greu gofod sgrin newydd i wneuthurwyr ffilmiau a chynulleidfaoedd Cymru.
Am y tro cyntaf, bydd defnyddwyr amam.cymru yn gallu ffrydio, am ddim, ffilmiau byrion a wnaed gan rai o wneuthurwyr ffilmiau mwyaf cyffrous ac addawol y wlad, wedi’u cynhyrchu trwy gynllun ffilmiau byrion Ffilm Cymru Wales. Ers 2014, mae eu cynllun Beacons wedi ariannu dros 40 o ffilmiau byrion sydd wedi’u gweld ar sgriniau sinema, teledu a digidol ledled y byd, yn ogystal ag ennill gwobrau Ffilm Fer Prydain a BAFTA Cymru.
Nod AM yw darparu platfform democrataidd sy'n adlewyrchu creadigrwydd cynhwysol ac amrywiol Cymru fodern, a datblygu cynulleidfaoedd newydd i fwynhau ei diwylliant. Lansiwyd y platfform ym mis Mawrth 2020 gan PYST Cyf gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol fel gwefan ac ap. Gan ddathlu ei phum mlwyddiant eleni a chyda chymorth ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd gwefan AM sydd ar fin cael ei hailwampio yn mynd gam ymhellach i ddathlu byd rhyfeddol creadigrwydd Cymru.
Bydd proffil Ffilm Cymru Wales ar AM yn rhoi cyfle i bobl ddarganfod straeon a lleisiau bywiog y don nesaf wych o dalent creu ffilmiau sydd yng Nghymru, yn ogystal â rhoi lle i wneuthurwyr ffilmiau arddangos eu gwaith a chysylltu â chynulleidfaoedd newydd.
Y ffilm sy’n lansio’r cynllun yw Jelly, comedi ddwyieithog anghonfensiynol gan Samantha O'Rourke. Mae Kerry wedi diflasu. Mae wedi cael llond bol ar fywyd yn ei thref fach yng ngogledd Cymru ac mae’n blino fwyfwy ar gyflwr y byd. Un diwrnod mae'n dilyn llwybr i ddihangfa danddaearol lle y daw o hyd i jeli, gobaith a merch ei breuddwydion. Wedi'i chynhyrchu gan Ray Wilson ar gyfer Panad Productions, dewiswyd Jelly ar gyfer Gŵyl Ffilmiau LHDTC+ Gwobr Iris ac enillodd Wobr Ffilm Gwiar Chapter.
Bydd proffil Ffilm Cymru Wales hefyd yn cynnwys llu o gynnwys fideo unigryw, gan gynnwys ffilmiau rhagflas, cyfweliadau a chipolwg y tu ôl i'r llenni.
Meddai Lee Walters, Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales: “Rydym wrth ein bodd yn uno ag AM ar y ffordd newydd hon i bobl ddod i gyswllt â ffilmiau a chrewyr Cymru. Gyda chymaint o gynnwys ar gael i gynulleidfaoedd ar draws nifer o wasanaethau digidol, bydd ein proffil ar AM yn rhoi sylw da i straeon a lleisiau gwych o Gymru, gan arddangos doniau Cymru i'r byd.”
Meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST Cyf: "Mae'n gyffrous iawn cyhoeddi'r bartneriaeth hon gyda Ffilm Cymru yn ystod blwyddyn pum mlwyddiant AM. Mae gallu cydweithio i ddatblygu ecosystem lle mae'r daith o ariannu i greu i ffrydio ffilmiau o Gymru i gyd yn parhau yng Nghymru yn gam pwysig wrth gryfhau llwybr datblygu ar lawr gwlad i wneuthurwyr ffilmiau Cymru. Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at gydweithio ar brosiectau eraill yn y dyfodol gan fanteisio ar allu rhannu dealltwriaeth ac adnoddau’r ddau sefydliad.”
Ychwanega Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wrth ei fodd yn cefnogi Ffilm Cymru i roi llwyfan i ffilmiau byrion sy'n arddangos talent Cymru drwy AM. Mae'r ffordd y mae pobl yn defnyddio ffilmiau a chynnwys yn newid yn gyflym, ac mae hwn yn gyfle gwych i ffilmiau gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.”
Mae cylch cyllido nesaf Beacons, sef cynllun Ffilm Cymru Wales i ariannu ffilmiau byrion, ar agor nawr. Cewch wybod mwy yma.