Louise Dixey

a photo of louise dixey standing in front of a map of wales

Rheolwr Cynaliadwyedd

Rhagenwau: Hi / She / Her

Mae Louise yn gweithio mewn partneriaeth â Media Cymru i ddarparu cronfa Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Gwyrddu’r Sgrîn (2023-2026) sydd werth £600,000, er mwyn cefnogi’r cynllun cynaliadwyedd newydd i Gymru o’r enw Screen New Deal: Transformation Plan. Mae hefyd yn cydweithio â sefydliadau sgrîn cynaliadwy yn y DU ac Ewrop, ac yn gyfrifol am fonitro amgylcheddol mewnol Ffilm Cymru Wales.

Ymunodd Louise â Ffilm Cymru Wales yn 2023. Mae ganddi brofiad helaeth o gydlynu prosiectau datblygu cynaliadwy yn y DU, Ewrop, ac yn rhyngwladol (yn yr Is-Sahara yn Affrica a’r Caribî). Yng Nghymru, mae Louise wedi cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau sy’n ymwneud â thwristiaeth gynaliadwy, sgiliau, a’r economi gylchol. Mae’n arbenigo mewn  rheoli prosiectau ac mewn gwneud gwaith ymchwil gymhwysol, ac mae wedi gweithio gyda busnesau, cymdeithasau masnach, prifysgolion, llywodraethau, sefydliadau’r trydydd sector, a chymunedau. Mae gan Louise radd MPhil yn yr Amgylchedd a Datblygiad o Brifysgol Caergrawnt. Mae hi'n gwirfoddoli fel Aelod o Reithgor Goriad Gwyrdd dros Gymru ac i Gymdeithas Ynys Echni, elusen cadwraeth yr ynys.