Jessica Cobham-Dineen

Rheolwr Datblygu a Chynhyrchu
Rhagenwau: Hi / She / Her
Mae Jessica yn edrych mewn modd byd-eang ar asesu a datblygu prosiectau ffilm yn yr adran, tra'n cefnogi'r Pennaeth Cynhyrchu gyda’r gwaith o reoli partneriaid a rhanddeiliaid, a gyda strategaeth ffilm a pholisi, yn enwedig yng nghyd-destun Rhwydwaith BFI Cymru. Mae Jessica hefyd yn cynhyrchu ffilmiau ar draws y llechi ffilmiau nodwedd a ffilmiau byr.
Cyn ymuno â’r tîm roedd Jessica’n gweithio gydag ie ie productions fel Swyddog Gweithredol Datblygu. Cyn hynny bu’n Bennaeth Datblygu yn Maia Pictures, gan oruchwylio llechen y cwmni, a hyrwyddo cysylltiadau gyda thalent, gan greu croestoriad amrywiol o straeon ac o leisiau. Mae hi hefyd wedi gweithio ar 4Screenwriting, 4Stories, wedi bod yn feirniad i Academi Ffilm y BFI a Grantiau Chapter i Ffilmiau Byr-Micro, ac yn fentor i The Writers Lab DU & Iwerddon.
Dechreuodd Jessica ei gyrfa yn Film4, gan ddychwelyd yn ddiweddarach i Channel 4 fel rhan o’r tîm comisiynu Drama. Mae wedi gweithio ar gynyrchiadau teledu a ffilm. Hi oedd rheolwr cynhyrchu a goruchwyliwr sgriptiau drama debbie tucker green, ear for eye (Rhan 3). Perfformiwyd yr addasiad hir am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Llundain ac ar y BBC, yn 2021.
Cynhyrchodd Jessica ffilm fer, Bog, gafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Golden Heart Trellick (Gŵyl Ffilm Portobello 2018). Cafodd ei dangos yn rhyngwladol, gan gynnwys yng Ngŵyl Ffilm Merched y Byd 2019 yn yr UD.