Ihsana Feldwick

portrait photo of ihsana feldwick

Cydlynydd yr Adran Cynhyrchu

Rhagenwau: Hi / She / Her

Ihsana yw'r person cyntaf fydd pobl yn cysylltu â hi parthed ceisiadau ac ymholiadau sy’n ymwneud â Chyllid Ffilm. Mae hefyd yn cynorthwyo gyda'r gwaith gweinyddol o ddydd i ddydd i sicrhau fod gwaith yr adran Gynhyrchu’n mynd rhagddo’n hwylus.

Ennillodd Ihsana radd BA mewn Cynhyrchu Ffilm a Sinematograffi o Brifysgol Bournemouth, cyn penderfynu symud i Gaerdydd yn 2019 i ddilyn gyrfa yn y diwydiant ffilm. Wedi derbyn hyfforddiant gyda Disney ar y gyfres Willow yn 2021, ymunodd Ihsana â Ffilm Cymru Wales yn 2022 gan ei bod o’r farn fod y cwmni’n rhannu’r un egwyddorion sylfaenol â hi ynglŷn â diwydiant ffilm mwy cynaliadwy, tra hefyd yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a datblygiad gyrfaoedd. Mae’n awyddus i ddatblygu prosiectau sy’n canolbwyntio ar amlygu lleisiau cymunedau lleiafrifol y tu ôl ac o flaen y sgrîn.