Hayley Lau

Cynorthwy-ydd Gweithredol i'r Prif Weithredwr (CEO), y Prif Swyddog Gweithredol (COO) a'r Bwrdd
Rhagenwau: Hi / She / Her
Hayley yw Cynorthwy-ydd Gweithredol y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Gweithredol a’r Bwrdd. Ochr yn ochr â chefnogi’r uwch dîm rheoli yn eu gwaith o ddydd i ddydd, sy’n cynnwys rheoli dyddiaduron a’r gwaith o gysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, mae Hayley yn trefnu cyfarfodydd Bwrdd, yn rheoli ein swyddfa yng Nghaerdydd, yn cymryd cofnodion, ac yn ymateb i ymholiadau cyffredinol a thasgau eraill, yn ôl y gofyn.
Wedi ennill Rhagoriaeth yn ei Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ac arbenigo mewn Ffasiwn a Thecstilau, cafodd Hayley brofiad amrywiol yn y byd manwerthu. Ar yr un pryd bu’n gweithio ar amryw o gynyrchiadau bach fel rhedwr, ac o’r profiad hwnnw llwyddodd i gael gwaith yn y BBC, gan weithio ar Bargain Hunt, Make Me a Dealer a Points of View.
Ymunodd Hayley â Ffilm Cymru Wales am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2019 fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol, yna bu’n gweithio ar y prosiect Sgiliau a Hyfforddiant, ‘Troed yn y Drws’ (Foot in The Door), ac mae bellach yn Gynorthwy-ydd Gweithredol i’r Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Gweithredu a’r Bwrdd.