Ffilm Cymru yn cyflwyno: Canllaw i Wneuthurwyr Ffilmiau
Ar draws y gyfres chwe rhan hon, byddwch yn archwilio sawl disgyblaeth hanfodol ym maes creu ffilmiau modern.
Cewch ddysgu crefft cyfarwyddo a chelfyddyd ffilmiau byrion. Byddwch yn darganfod sut i greu ffilmiau dogfen grymus, gan ddod â’r dychymyg yn fyw trwy adrodd straeon gan ddefnyddio animeiddio neu ffuglen neu ddatgloi potensial sinematig creu ffilmiau symudol.
Bydd pob rhan yn cael ei harwain gan weithiwr proffesiynol yn y diwydiant a fydd yn rhannu technegau, dealltwriaeth a dulliau ymarferol i'ch helpu i ddatblygu eich gweledigaeth.
Lleoliad: The Place, 9, 10 Stryd y Bont, Casnewydd NP20 4AL
Ffilmiau Byrion
Dydd Gwener 21ain Tachwedd 2025
The Venue, 6pm – 7pm
Gwrandewch ar Jack Bird, ffotograffydd a fideograffydd o dde Cymru sydd â chefndir ym maes Cynhyrchu'r Cyfryngau o Brifysgol De Cymru. Gyda dros ddegawd o brofiad llawrydd, mae wedi gweithio ar draws prosiectau masnachol, teledu ac asiantaethau modelu—gan ddod â gweledigaethau creadigol yn fyw trwy ddelweddau llonydd a symudol. Mae gwaith Jack yn cyfuno manwl gywirdeb technegol ag adrodd stori, boed yn cyfleu hunaniaeth brand, yn cynhyrchu cynnwys i’w ddarlledu, neu’n adeiladu portffolios i unigolion.
Cewch ddatblygu glasbrint gweledol cyflawn, gan droi geiriau ar dudalen yn gynllun cynhyrchu ymarferol. Perffaith i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfarwyddo, sinematograffeg, neu ddeall sut mae sgriptiau yn troi’n ffilmiau.
Arwyr Cudd: Ffilmio ar eich Ffôn
Dydd Llun 24ain Tachwedd 2025
The Venue, 6pm –8pm
Mae Mohamad Fez Miah yn wneuthurwr ffilmiau, addysgwr, a storïwr ar sail data ac mae ganddo bron i ddau ddegawd o brofiad yn y cyfryngau creadigol. Gyda chefndir ym maes hyfforddiant ffilmiau dogfen a'r cyfryngau ym Mhrifysgol De Cymru, mae wedi arwain prosiectau celfyddydau cymunedol llwyddiannus, wedi cynhyrchu cynnwys sydd â dros 50 miliwn o olygon, ac wedi hyfforddi cannoedd o bobl ifanc ar sut i adrodd straeon digidol ledled De Cymru. Ac yntau ag angerdd am greu ffilmiau hygyrch, mae Mohamad yn arbenigo mewn helpu cymunedau i ddefnyddio offer syml fel y ffôn yn eu poced i adrodd straeon pwerus, dynol.
Gallwch rymuso gwneuthurwyr ffilm ifanc i ddarganfod byd ffilm, a golygu ffilmiau byrion dilys am "arwyr cudd" gan ddefnyddio eu ffonau. Mae offer bellach wedi’u democrateiddio. Gall unrhyw un greu ffilm. Bydd y dosbarth meistr hwn yn dangos i chi beth sydd ei angen arnoch a sut i'w wneud.
Archifau a Gweithredu
Dydd Gwener 28ain Tachwedd 2025
The Green Room, 6pm – 7:30pm
Mae Yvonne Connikie yn wneuthurwr ffilmiau, rhaglennydd a churadur sy'n arbenigo mewn ffilmiau annibynnol Du. Mae ganddi yrfa helaeth yn hyrwyddo ac archifo sinema Du Prydeinig. Fel gwneuthurwr ffilmiau a churadur ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Garibïaidd Windrush, sefydlodd Gŵyl Ffilm Ddu Cymru (2000-2008) a chyd-sefydlodd The New Black Film Collective, lle gwasanaethodd fel Cadeirydd. Mae wedi gweithio fel Curadur Cynorthwyol a Chydlynydd Addysg ar gyfer menter 'Big City Stories' y Black London Film Heritage Archive Project, ac wedi ysgrifennu llyfrau gan gynnwys "Fashions of a Decade: The 1960s.” Mae ei gwaith ar ffurf ffilmiau byrion yn cynnwys 'A Time for New Dreams' gydag Artes Mundi.
Ar hyn o bryd, mae Yvonne yn rhaglennu ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Windrush, yn curadu ac yn rheoli archif y ffotograffydd Charlie Phillips OBE, ac yn gwasanaethu fel aelod o fwrdd TEAM Collective Cymru. Mae hefyd yn ymgeisydd MPhil ym Mhrifysgol De Cymru.
Cewch archwilio celf ac anabledd ym maes creu ffilmiau dogfen, gan blymio'n ddwfn i’r ffilm arbrofol gan John Akomfrah ar yr Artist Donald Rodney.
Cydbwyso Cyfarwyddo Ffilm o amgylch eich Swydd Arferol
Dydd Gwener 5ed Rhagfyr
The Venue, 6pm – 7:30pm
Mae Luke Andrews yn gyfarwyddwr, awdur a golygydd ffilmiau byrion o Gasnewydd. Cafodd ei ffilm fer EDNA'S BENCH, a gynhyrchwyd drwy gynllun It's My Shout a BBC Cymru, ei henwebu am wobr Ffurf Fer Orau yn BAFTA Cymru yn 2011.
Fel awdur, enillodd ei sgript ddrama hanesyddol DEAREST OTTO y wobr am y Sgript Ffilm Orau yng nghystadleuaeth Film the House gan Senedd y DU yn 2019. Ar draws ei waith, mae Andrews yn creu ffilmiau mwy o ran cwmpas sy'n adrodd straeon clòs.
Ar hyn o bryd mae'n cyd-redeg Red Mountain Films o Fae Caerdydd. Eleni cwblhaodd y cwmni ei ffilm ddogfen nodwedd gyntaf, OLYMPIACOS: THE LEGEND, a ryddhawyd ar Amazon Prime Video. Mae’r ffilm yn adrodd stori tîm pêl-droed mwyaf llwyddiannus Gwlad Groeg a'u llwyddiant mewn Cwpan Ewropeaidd yn 2024.
I unrhyw un sy'n ceisio cadw eu troed ar y sbardun creadigol, tra'n ennill bywoliaeth. Gan dynnu o brofiad personol o gyfarwyddo chwe ffilm fer ochr yn ochr â gwaith llawn amser mewn archfarchnadoedd, ffatrïoedd, a swyddi eraill y tu allan i’r celfyddydau, mae'r sgwrs hon yn edrych ar sut i gynnal uchelgeisiau ym maes creu ffilmiau heb gymorth ffurfiol y diwydiant nac amser rhydd di-ben-draw.
Trwy straeon y tu ôl i'r llenni, clipiau ffilm, a gwersi anodd y mae wedi’u dysgu, mae'n edrych yn onest ar realiti bod yn wneuthurwr ffilmiau sy'n gweithio yn y 'byd go iawn'.
Straeon sy'n Trawsnewid: Saernïo Ffuglen sydd â Phwrpas
Dydd Gwener 9fed Ionawr 2025
The Venue, 6pm – 7pm
Awdur a chyfarwyddwr o Gymru yw Nyla. Mae ganddi gefndir mewn theatr ac angerdd am adrodd straeon. Mae'n arbenigo mewn defnyddio drama, cerddoriaeth a pherfformio rhyngweithiol fel offer pwerus ar gyfer hunanfynegiant, rheoleiddio emosiynol, a grymuso. O gyfarwyddo ffilmiau byrion a fideos cerddoriaeth i berfformiadau byw ar y llwyfan, mae Nyla wedi ymrwymo'n ddwfn i greu gwaith cynhwysol sy'n ysgogi’r meddwl ac sy'n meithrin deialog, creadigrwydd a thwf personol. Nawr, fel cyfarwyddwr TrueLume Films, mae ei ffocws ar ddod â delweddau sy’n cydio’n ysbrydol gyda naratif cyfoethog i'r sgrin, gan ddefnyddio gweledigaeth glir, greadigol wedi'i gwreiddio mewn gwirionedd a phwrpas.
Cewch ddysgu creu ffuglen bwrpasol trwy ddeall tair colofn graidd adrodd stori: awydd, gwrthdaro a thrawsnewid. Trwy ymarferion rhyngweithiol ac enghreifftiau traws-gyfrwng o fyd y theatr, llyfrau a theledu, byddwch yn dysgu sut i greu cymeriadau a straeon sy'n cydio yn emosiynol ac yn gadael effaith barhaol ar gynulleidfaoedd.
Cynhyrchu Ffilm Fer Animeiddiedig
Dydd Gwener 16eg Ionawr 2026
The Venue, 6pm – 7:30pm
A hithau’n seiliedig yng Nghymru, mae Amy Morris yn gynhyrchydd annibynnol ym maes animeiddio a ffilmiau ac mae ganddi dros 16 mlynedd o brofiad. Mae ei hymarfer wedi'i wreiddio ym maes adrodd straeon a chreadigrwydd sy'n canolbwyntio ar bobl, wedi'i yrru gan angerdd am leisiau dilys a naratifau gweledol pwerus. Mae'n cydweithio ag ystod eang o bartneriaid rhyngwladol o India, Canada, Gwlad Belg, a thu hwnt, gan ddatblygu prosiectau sy'n croesi diwylliannau ac yn cysylltu cynulleidfaoedd ledled y byd.
Mae hefyd yn rhedeg stiwdio bwtîc AMMÔ Animation, chwaer gwmni i'r sefydliad nid-er-elw hirsefydlog, Winding Snake Producions, lle mae’n gyd-sylfaenydd ac yn rheoli gyda’i phartner, Glen Biseker. Mae llawer o'i phrosiectau wedi'u dewis i'w dangos mewn gwyliau sy'n gymwys i’r Oscars, gan gynnwys Tribeca, Berlin a Frameline. Gydag ysbryd cydweithredol a chariad at straeon beiddgar sy'n cael eu gyrru gan gymeriadau, mae'n parhau i hybu gwaith creadigol sy'n dathlu dynoliaeth yn ei holl ffurfiau.
Dyma gyfle i ddysgu’r gwahaniaethau allweddol rhwng cynhyrchu gwaith gweithredu byw ac animeiddio, a chewch arweiniad ymarferol ar greu a rheoli cyllidebau ar gyfer prosiectau ffilmiau byrion. O adeiladu timau i gydbwyso creadigrwydd a chyllid, bydd y dosbarth meistr hwn yn rhoi'r offer i chi gynllunio'n glyfar, cynhyrchu'n hyderus, a gwneud y gorau o bob ceiniog ar y sgrin.
Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn partneriaeth â Cyngor Casnewydd.