still from documentary smoking shores featuring a surfer in a wetsuit floating in the sea and looking at a steel factory in the background.

Yn Cyhoeddi Ffilm Newydd o Gymru - Smoking Shores

Mae ffilm newydd o Gymru ar fin mynd i Ddwyrain Ewrop wedi iddi ennill lle gwerthfawr ar raglen Dok Incubator.

Ffilm ffeithiol yw Smoking Shores am bobl sy’n syrffio mewn lleoliad syfrdanol o ddiwydiannol, sef Port Talbot, tref ar arfordir De Cymru, gydag un o weithfeydd dur mawr olaf y DU yn gysgod drosdi.

Mae’r awdur-gyfarwyddwr David Roland Warwick ei hun yn syrffiwr brwd a brofodd y  tonnau ar draeth Aberafan yn y dref, am y tro cyntaf, wyth mlynedd yn ôl.

“Mae wedi bod yn fraint enfawr i mi ymweld â Phort Talbot dros yr wyth mlynedd diwethaf, a chael fy nerbyn gan y gymuned syrffio - sy’n ddiarhebol o glos. Rwy’n teimlo’n gyffrous am y ffilm yma rydym wedi bod yn ei chasglu ynghyd dros y cyfnod hwn, ac am gael y cyfle i rannu rhywbeth o’r hyn y mae’n ei olygu i fyw a syrffio yn y lle rhyfeddol hwn.”

Mae Michael Sheen yn un o Uwch-gynhyrchwyr y ffilm, a dywedodd, “Wrth dyfu i fyny yma roeddwn i’n ymwybodol o’r gymuned syrffio ym Mhort Talbot, ac yn cael cipolwg arnyn nhw o bryd i’w gilydd fel rhyw haid o fwystfilod chwedlonol, cyfrwys. Mae statws arbennig ganddyn nhw yn y fan yma, fel rhyw fath o gwlt. Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn am bosibiliadau’r ffilm yma, ac yn parhau i gefnogi dyheadau’r gwneuthurwyr ar ei chyfer.”

Meddai’r Uwch-gynhyrchydd Sonja Henrici (Merkel, Tracing Light, Time Trial, The Oil Machine) “Mae Smoking Shores yn ffilm bwysig iawn sy’n delio â materion byd-eang sy’n digwydd yn lleol: dad-ddiwydianeiddio, datgarboneiddio ac iechyd meddwl - wrth hefyd ystyried ein cysylltiad hanfodol â byd natur.”

Meddai Andrea Prenghyová, Cyfarwyddwr Dok Incubator, “Cawsom ein swyno gan y ffilm yma o’r dechrau un – mae’r darlun agos-atoch o grŵp o syrffwyr, gyda chefndir gwaith dur Port Talbot tu ôl iddynt, yn cyfleu gwrthgyferbyniad trawiadol – rhwng mynd ar drywydd breuddwydion syrffio a dirywiad y diwydiant dur, a fu unwaith yn llewyrchus, a bywyd dosbarth gweithiol. Mae’n cyfleu persbectif aml-haenog ar y newidiadau dwys sydd wedi llunio’r DU yn y degawdau diwethaf, gan greu naratif grymus, unigryw.”

Dywedodd y golygydd Rich Gorman,“Mae SMOKING SHORES yn ffilm wirioneddol wahanol i unrhyw beth arall rydw i wedi gweithio arno, ac mae’r her greadigol barhaus yn gyffrous iawn. Mae’r stori hefyd yn hollbwysig, mae wedi’i gosod mewn lleoliad grymus ac yn adrodd stori leol sy’n amlygu effaith materion byd-eang.”

Meddai'r cynhyrchydd Dewi Gregory, “Mae holl ffilmiau blaenorol Truth Department wedi’u gosod ymhell y tu hwnt i ffiniau Cymru; yn Borneo, yr Alban, San Francisco, yr Eidal ac Alabama, ond gydol yr amser, rydym wedi bod yn edrych am gyfle i adrodd stori am Gymru allai deithio ymhell ac agos. Rwyf wrth fy modd bod Dok Incubator wedi gweld apêl byd-eang y stori yma sydd wedi’i lleoli ar dir sydd mor gyfarwydd i mi."

Meddai Lee Walters, Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales: “Rydym yn falch o gefnogi’r ffilm dreiddgar, amserol hon, ac yn falch o weld straeon o Gymru’n cael eu cynrychioli ar y llwyfan rhyngwladol.”

Dywedodd Joedi Langley, Pennaeth Dros Dro Cymru Greadigol: “Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth agos â Ffilm Cymru Wales i gefnogi cyfres o brosiectau nodwedd trwy eu cronfa cynhyrchu ffilm. Mae gweld teitlau newydd yn dod o Gymru, ac yn cael eu cydnabod ar lefel fyd-eang yn sgil eu potensial, yn addawol iawn, ac edrychwn ymlaen yn fawr i weld beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig.”

Cynhyrchir Smoking Shores gan Truth Department (Donna, Orion: The Man Who Would Be King, The Borneo Case) gyda chefnogaeth gan Ffilm Cymru Wales sy’n rhannu arian y Loteri Genedlaethol, a gan Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Dewiswyd y ffilm i fod yn rhan o Works in Progress Screening, Gŵyl Ffilm Llundain y BFI, gan ennyn diddordeb gwyliau pwysicaf y byd ac asiantaethau gwerthu rhyngwladol.

Mae Dok Incubator yn dewis wyth ffilm y flwyddyn gan ymgeiswyr ledled y byd ar gyfer eu gweithdai Rhyngwladol a gynhelir yn Nwyrain Ewrop. Dros y 12 mlynedd diwethaf mae Dok Incubator wedi gweithio gyda mwy na 170 o ffilmiau, llawer ohonynt yn cael eu dangos am y tro cyntaf yng ngwyliau ffilm gorau’r byd. Dewiswyd 13 ffilm ar gyfer cystadlaethau Sundance, enwebwyd 2 ar gyfer gwobrau Emmy, 6 ar gyfer y Wobr Ffilm Ewropeaidd, a dangoswyd mwy na 30 ohonynt yn IDFA. Mae ffilmiau gweithdai dok.incubator hefyd yn cael eu dewis yn rheolaidd ar gyfer CPH:DOX, HotDocs, Visions du Réel, neu Gŵyl Ffilm Krakow. Bydd yr Awdur-gyfarwyddwr David Roland Warwick, y Cynhyrchydd Dewi Gregory, a’r Golygydd Rich Gorman yn mynychu tri gweithdy yn Slofacia a Tsiecia, cyn rhoi cyflwyniad yn IDFA ym mis Tachwedd.

Mae’r Cynhyrchydd Truth Department yn chwilio am gyd-gynhyrchwyr, am ddosbarthwyr, am werthiant ac am wyliau rhyngwladol.