cardiff animation weekender

Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd nôl dros Benwythnos: wyneb yn wyneb 17–18 Mai ac ar-lein 17 Mai–1 Mehefin!

Bydd Penwythnos Animeiddio Caerdydd yn arddangos rhaglen fywiog a hybrid o animeiddiadau hiraethus, clasuron cwlt, a pherlau newydd sbon.

Ar draws dangosiadau, sgyrsiau, gweithdai, a digwyddiadau cymdeithasol, gall cynulleidfaoedd fwynhau ffilmiau gyda’i gilydd, cymryd rhan mewn trafodaethau, treulio amser yn ailgysylltu, cwrdd â ffrindiau newydd, a chael hwyl. 
 
Bydd y rhaglen yn cynnwys:
 
Dangosiadau Ffilm Nodwedd: y clasur deinosoriaid annwyl gan Don Bluth The Land Before Time; bil dwbwl Feather’s McGraw, Wallace & Gromit: The Wrong Trousers cyn y ffilm ddiweddaraf Vengeance Most Fowl; stori freuddwydiol a swreal ddod-i-oed Boys Go To Jupiter; ffilm nodwedd anime newydd sbon Ghost Cat Anzu; a’r clasur cwlt Cymraeg Y Dywysoges a’r Bwgan gyda dangosiad prin ar y sgrin fawr!  
 
Ffilmiau Byrion: Ffefrynnau’r Ŵyl, uchafbwyntiau dethol o dros ddegawd o ddigwyddiadau Animeiddio Caerdydd; goreuon gŵyl Oska Bright, arddangosiad beiddgar o leisiau, arddulliau a themâu unigryw; a bydd cystadleuaeth Ffilm Fer ar Fyrder Caerdydd yn gofyn i dimau ledled y byd roi cynnig ar y gamp amhosib o greu ffilm animeiddio dros un penwythnos.
 
Sgyrsiau: Bydd yr arwr animeiddio sydd wedi’i enwebu am wobr Academy John R. Dilworth yn dod i Gaerdydd o Efrog Newydd i ddathlu chwarter canrif o’r clasur cwlt Courage the Cowardly Dog ar Cartoon Network, o stori anghredadwy cynnig y sioe, i’w gwaddol yng nghenhedlaeth heddiw o ffans animeiddio; a bydd Chris Shepherd yn rhannu ei nofel graffig gyntaf hiraethus ‘Anfield Road’ mewn trafodaeth gyda Hannah Lau Walker.
 
Digwyddiadau eraill: Gweithdai Rhyngweithiol, gan gynnwys gweithdy ymarferol animeiddio stop-symud gyda’r animeiddiwr Helen Piercy, a fydd yn defnyddio ffosilau lleol a hud technegau animeiddio traddodiadol i greu ffilm ddeinosor fach, a chyfle hefyd i greu eich Gromit a’ch Feathers McGraw eich hunan dan arweiniad arbenigol Aardman. Bydd digwyddiad newydd sbon Brwydr Braslunio! yn dod ag artistiaid benben mewn brwydr cof cartŵn epig ar y llwyfan. Bydd y grŵp celf a ffilm lleol Sinema Colomendy yn cynnal sesiwn ymlaciol a hwyliog Darlunio Cŵn yn Fyw yn Corporation Yard. Bydd arddangosfa o waith animeiddwyr o Gymru ochr yn ochr â’u trysorau ysbrydoledig. Mae Clwb Sinema One Bum, o bosib y sinema leiaf yn y byd, yn dychwelyd i Chapter. Ac mae Nosweithiau Animeiddio Caerdydd yn cychwyn y Penwythnos gyda pharti lansio yn nhafarn The Underdog yng nghanol dinas Caerdydd.

Wrth gyhoeddi’r rhaglen, meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Caerdydd, Lauren Orme: "Mae Penwythnos Animeiddio Caerdydd yn wahoddiad i ailgysylltu gyda’r fersiwn iau ohonoch chi."
 
Gyda rhaglen lawn o straeon am dyfu i fyny, ochr yn ochr â rhai o’r cartŵns wnaeth ein magu ni, mae’n gyfle i wylio ffilmiau gyda’n gilydd, chwerthin, crio, a chael sgyrsiau gwych amdanyn nhw wedyn – dros ddiod gyda’r hwyr, yn y teclyn sgwrsio ar-lein, neu dros ginio swmpus."
 
Rydyn ni wedi dylunio’r penwythnos i fod yn lle croesawgar a chynhwysol i bawb – yn llawn hwyl, cymuned a chysylltiad. Cyfle i gysylltu â llawenydd plentyn, drwy ddysgu rhywbeth newydd, ymgolli mewn straeon, a bod yn wirion. Allwn ni ddim aros i’ch gweld chi yno."
 
Wrth siarad am thema’r ŵyl, meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Manceinion, a Golygydd a Chyd-berchennog Cylchgrawn Animeiddio Skwigly, Dr Steve Henderson: "Mae hiraeth yn aml yn ein dallu ni, yn gwyro’r gorffennol – mae gwleidyddion yn ei ddefnyddio i werthu gorffennol nad oedd wir yn bodoli. Hyd yn oed pe bai modd i ni fynd ’nôl, fydden ni ond yn gweld nad oedd erioed mor berffaith ag maen nhw’n honni. Ond pan ddaw at animeiddio, mae hiraeth yn cynnig rhodd prin: y gallu i weld y gorffennol fel yr oedd go iawn. Mae gen i blentyn tair oed, ac wrth wylio’r sioeau a fydd ryw ddydd yn hiraethus iddyn nhw, dw i hefyd yn cael ailymweld â ffefrynnau fy mhlentyndod i hefyd. Unwaith y bydd hen bennod yn chwarae, dw i’n cael fy nghludo ’nôl – i eistedd o flaen teledu swmpus â’i sgrin fach, mewn cartref â phapur wal llachar a chlustogau ffrils, gyda ffenestri un haen sydd prin yn atal sŵn y traffig tu allan. Mae amser yn mynd yn ei flaen; dw i wedi tyfu’n hŷn, a’r teledu’n deneuach. Ond mae animeiddio’n oesol. Mae’n eich croesawu chi ’nôl fel tasai dim amser wedi mynd heibio, gan eich galluogi chi i ddechrau lle gadawoch chi a rhannu’r hud yna gyda chenhedlaeth newydd. Drwy hyn, dydy hiraeth animeiddiedig ddim yn gwyro’r gorffennol – mae’n dod â’r gorffennol yn fyw mewn lliw llawn."
 
Bydd bob digwyddiad yn yr ŵyl yn cynnwys capsiynau a dehongliad Iaith Arwyddion Prydain, a bydd pob dangosiad a digwyddiad ar-lein yn cynnwys capsiynau. 
 
Mae Pàs Dydd, Pàs Penwythnos, a thocynnau nawr ar werth ar wefan Gŵyl Animeiddio Caerdydd:

Ariennir Penwythnos Animeiddio Caerdydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Ffilm Cymru Wales, gyda chyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, cefnogaeth drwy fuddsoddiad gan Celfyddydau a Busnes Cymru, a nawdd gan Brifysgol De Cymru, Cloth Cat, Twt Productions, Beryl Productions, Picl Animation a Chronfa Sgiliau Animeiddio ScreenSkills gyda chyfraniadau gan gynyrchiadau animeiddio yn y Deyrnas Unedig.