photo of sam wright sitting at a desk with a computer monitor in front of him. On the monitor screen is a still from animated film kensuke's kingdom.

Cyd-gynhyrchwyr Cymru yn trafod enwebiad BAFTA i Kensuke's Kingdom

Mae’r animeiddiad a ariannwyd gan Ffilm Cymru Wales wedi’i enwebu am wobr y Ffilm Orau i Blant a Theuluoedd yng ngwobrau BAFTA eleni.

Photo: Crown Copyright

Wedi'i chyfarwyddo gan Neil Boyle a Kirk Hendry, mae Kensuke’s Kingdom yn seiliedig ar nofel hynod lwyddiannus Michael Morpurgo ac wedi'i haddasu i'r sgrin gan Frank Cottrell-Boyce. Mae'n cyflwyno antur epig Michael, bachgen ifanc a ddisgynnodd oddi ar gwch a’i gael ei hun ar ynys anghysbell. Mae’n darganfod nad yw ar ei ben ei hun pan ddaw i gwrdd â hen filwr gelyniaethus o Japan a oedd wedi encilio yno ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae’r cast enwog o leisiau yn cynnwys Sally Hawkins, Cillian Murphy, Raffey Cassidy, Aaron MacGregor a Ken Watanabe.

Cyd-gynhyrchwyd y ffilm gan y cwmni animeiddio o Gaerdydd, Bumpybox, ac i ddathlu’r enwebiad am wobr BAFTA, cawsom sgwrs â’r cynhyrchydd Sam Wright i’w holi am ei yrfa, y diwydiannau creadigol yng Nghymru a pham fod animeiddio yn gyfrwng mor hudolus i adrodd stori.

Haia Sam, allwch chi sôn ychydig wrthym ni amdanoch chi'ch hun?
Fi yw’r cynhyrchydd yn Bumpybox. Cyn hynny, roeddwn i'n gweithio fel artist CG mewn amryw stiwdios animeiddio. Cyn hynny, fe wnes i astudio ym Mhrifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru bellach). Cefais fy magu yng Ngogledd Dyfnaint, a symud i dde Cymru i fynd i’r brifysgol, ac rwy wedi bod yma ers hynny.

Sut wnaeth Bumpybox ddechrau?
Fe wnaeth Leon Dexter, Toke Jepsen, a minnau gofrestru'r cwmni pan oedden ni’n astudio gyda'n gilydd yn y brifysgol yn 2011. Ar ôl gorffen ein MA mewn Animeiddio, fe wnaethon ni dreulio llawer o amser yn creu ac yn cyflwyno cynigion i wahanol gwmnïau a darlledwyr er mwyn ceisio rhoi cychwyn ar ein prosiectau ein hunain. Yn ogystal, fe fuon ni’n cydweithio'n helaeth â stiwdios animeiddio eraill ar eu prosiectau nhw. Yn ystod y cynhyrchiad o Ethel and Ernest (ffilm nodwedd 2D a gyd-gynhyrchwyd yng Nghymru), dyma ni’n cwrdd â Neil Martin. Yn ddiweddarach, fe wnaeth e ymuno â Bumpybox fel ein cysodwr arweiniol ar ein cynhyrchiad cyntaf i’r BBC, My Petsaurus, ac o dipyn i beth arweiniodd hynny at Kensuke's Kingdom.

Beth wnaeth eich denu chi at animeiddio fel cyfrwng i adrodd stori?
Rwy bob amser wedi cael fy nenu at animeiddio am ei fod yn bennaf yn gyfrwng gweledol, ac rwy wastad wedi bod ag angerdd am gelf. Mae gan animeiddio'r pŵer i greu stori rymus heb fawr o sain a deialog. Mae Kensuke’s Kingdom ei hun yn cael ei hadrodd gydag ychydig iawn o ddeialog, a dyna pam ei bod yn gweithio cystal fel ffilm animeiddiedig. Yn wahanol i weithredu byw, mae animeiddio yn cynnig rhyddid creadigol llwyr i ddod â bydoedd a chymeriadau yn fyw mewn ffyrdd na fyddai'n bosibl fel arall - yr unig derfynau go iawn yw dychymyg a chyllideb!

Llongyfarchiadau ar gael enwebiad BAFTA am Kensuke's Kingdom! Sut wnaethoch chi ddod yn rhan o greu’r ffilm?
Diolch! Ry’n ni’n falch iawn o'r enwebiad. Daeth Lupus Films atom yn wreiddiol yn 2019 i fynd i’r afael ag ochr Gymreig y cynhyrchiad. Roedd Lupus yn derbyn cyllid gan Ffilm Cymru a Chymru Greadigol i ddod ag elfennau o’r ffilm i Gymru, ac ar y pryd roedden ni’n gweithio’n agos gyda Neil Martin, a oedd yn brif gysodwr ar Ethel and Ernest, ffilm nodwedd arall gan Lupus Films. Roedd Neil hefyd wedi gweithio cyn hynny ar We're Going on a Bear Hunt a dechreuodd ar ei yrfa ar The Illusionist gan Sylvain Chomet, gan ddod yn dipyn o arbenigwr mewn cysodi ar gyfer animeiddio 2D traddodiadol. Daeth popeth i'w le o'r fan honno, ac mae Neil wedi bod yn rhan allweddol o'n tîm ers hynny.

Sut brofiad oedd gweithio ar eich ffilm nodwedd gyntaf fel cwmni?
Mae'n gyffrous iawn - nid dim ond gweld eich gwaith gorffenedig ar y sgrin fawr, ond cael y cyfle hefyd i roi mwy o amser a gofal i bob saethiad. Mae ffilmiau nodwedd yn gyfle i fynd ati mewn ffordd wahanol, bwrpasol, tra bod cyfresi teledu yn aml yn gofyn am gyflawni’n gyflym a llif gwaith mwy strwythuredig.

Mae Kensuke's Kingdom wedi cael ei dangos mewn gwyliau ffilm a sinemâu ledled y byd; ydy'r ffilm wedi eich helpu chi i greu unrhyw gysylltiadau rhyngwladol? 
Do, cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Animeiddiedig Ryngwladol Annecy, un o wyliau animeiddio mwyaf y byd. Roedd rhai o’n tîm ni yno, ac fe wnaethon ni fwynhau rhannu’r ffilm â’r gymuned ryngwladol. Rydyn ni mewn trafodaethau ag ychydig o gwmnïau y gwnaethon ni gwrdd â nhw yno ynglŷn â chydgynhyrchu eu ffilmiau nhw yng Nghymru hefyd.

Wnaethoch chi weithio gydag unrhyw hyfforddeion yn ystod y cynhyrchiad?
Do. Fe wnaeth llawer o raddedigion ymuno â’r cynhyrchiad yn syth o’r brifysgol – cryn dipyn o’r prifysgolion lleol yn ne Cymru, yn ogystal ag eraill o bob rhan o’r wlad a symudodd i Gaerdydd i weithio ar y prosiect. Rydyn ni’n aml yn darparu hyfforddiant yn y gwaith, gan y gall pontio o'r brifysgol i'r diwydiant fod yn newid mawr - yn enwedig pan mai ffilm nodwedd yw eich cynhyrchiad cyntaf. Mae yna lawer o dalent yn dod allan o brifysgolion fan hyn, felly mae'n gyffrous rhoi’r cyfle iddyn nhw roi prosiect mor fawr fel eu cynhyrchiad cyntaf ar eu CV.

Beth sy’n gwneud Cymru yn lle mor llwyddiannus i’r sectorau ffilm a chreadigol?
Rwy’n meddwl bod ansawdd bywyd yng Nghymru yn atyniad mawr i bob sector creadigol. Mae’n lle llawn ysbrydoliaeth i fyw – fe allwch chi ymweld â chastell hanesyddol, crwydro drwy’r cymoedd, a mynd ar drên i lan y môr i gyd mewn un diwrnod. Mae’r sîn animeiddio yma hefyd yn hynod fywiog, gyda digwyddiadau fel Gŵyl Animeiddio Caerdydd a Nosweithiau Animeiddio Caerdydd yn dod â’r gymuned ynghyd.

Beth hoffech chi weld mwy ohono yn niwydiant ffilmiau Cymru?
Dyma'r ateb y mae cynhyrchwyr wastad yn ei roi, ond byddai mwy o arian lleol o fudd go iawn i'r diwydiant. Mae Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi’r sector animeiddio, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn eu bod wedi helpu i ddod â phrosiect mor fawr, mor fawreddog i Gaerdydd. Pryd bynnag mae yna gynhyrchiad animeiddio mawr yn digwydd yma, mae wastad yna gyffro mawr.

Ond er mwyn tyfu’r diwydiant go iawn, mae angen mwy o gyllid arnon ni i bontio’r bylchau rhwng prosiectau a chadw talent yn yr ardal. Yn ddelfrydol, fe fyddwn i wrth fy modd yn gweld y diwydiant animeiddio yng Nghaerdydd yn ffynnu cymaint ag y mae’r sector teledu o safon uchel yn ei wneud - lle mae nifer o gynyrchiadau ar y gweill, a lle gall ein criwiau dawnus symud yn ddi-dor o un prosiect i’r llall.

Beth sydd gennych chi ar y gweill nesaf?
Ar hyn o bryd rydyn ni’n tynnu i ben ar un arall o'n cynyrchiadau teledu ein hunain, Egin Bach / Tiny Buds, ar gyfer S4C ac ITV. Ry’n ni'n gobeithio y bydd ar sgriniau yn nes ymlaen eleni.

Mae gwobrau ffilmiau BAFTA eleni yn cael eu cynnal ar ddydd Sul 16 Chwefror. Pob lwc i bawb!