film still featuring three people walking proudly into a building

Gŵyl Arswyd Abertoir Yn Brathu Eleni

Mae Gŵyl Arswyd Abertoir yn dychwelyd am ei 19eg flwyddyn gyda thema sy’n canolbwyntio ar anifeiliaid sy’n lladd a natur ddialgar.

Yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth fis Tachwedd eleni, mae’r galw am docynnau wedi bod mor uchel fel bod yr ŵyl wedi ehangu i awditoriwm mwy – ynghyd â sgrin mwy byth.

“Rydym wedi cael ein syfrdanu gan y gefnogaeth i ddigwyddiad eleni,” meddai Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Gaz Bailey, “ac rydym yn ddiolchgar ein bod wedi gallu symud i awditoriwm arall fel y gallwn sicrhau lle ar gyfer hyd yn oed mwy o aelodau’r gynulleidfa eleni.”

Mae dangosiadau cyntaf Cymru yn yr ŵyl yn cynnwys Dead Talents Society, ffilm ysbryd ddoniol ac arobryn o Taiwan; Seeds, y ffilm gyntaf wedi’i chyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilmiau brodorol o Ganada Kaniehtiio Horn; a dangosiad cyntaf y DU o Decibel, sy'n archwilio arswyd posibl technoleg AI.

Un o uchafbwyntiau’r ŵyl eleni yw dychweliad y cyfansoddwr a’r cerddor Eidalaidd enwog Fabio Frizzi a’i fand, a fydd yn perfformio ei fersiwn byw o drac sain eiconig Zombie Flesh Eaters gan Lucio Fulci.

Bydd y ffilm yn dangos gyda'r holl ddeialog wreiddiol ac effeithiau sain awgrymog sy'n gwneud y ffilm mor boblogaidd ledled y byd, ond bydd y sgôr, sydd wedi'i ehangu i fod yn brofiad newydd sbon, yn cael ei chwarae'n fyw gan Frizzi a The Frizzi2Fulci Band ochr yn ochr â hi.

Mae gweddill y ffilmiau clasurol yn Abertoir eleni yn archwilio’r thema byd natur arswydus, ac yn cynnwys Phase IV, yr unig ffilm a gyfarwyddodd y dylunydd eiconig Saul Bass; Grizzly, ffilm sy’n efelychu Jaws gan ddisodli'r siarc am arth; a Godzilla vs Hedorah, un o'r ffilmiau mwyaf erchyll yn hanes 70 mlynedd y fasnachfraint.

“Dechreuon ni feddwl am y thema byd natur arswydus yn ôl cyn yr ŵyl y llynedd,” esboniodd Nia Edwards-Behi, Cyd-gyfarwyddwr yr Ŵyl. “Rydyn ni’n gobeithio, trwy gymysgedd o ffilmiau a digwyddiadau hwyliog a mwy difrifol, y bydd pobl yn cael cyfle i fyfyrio ar y thema bwysig hon.”

Ymhlith y gwesteion eraill mae’r awdur Robin Ince, a fydd yn cyflwyno rhai o’i hoff lyfrau ffuglen am anifeiliaid llofruddgar, i anrhydeddu 50 mlynedd ers cyhoeddi Rats gan James Herbert, a bydd yr Athro Joanne Hamilton o Brifysgol Aberystwyth yn dod â gwyddoniaeth i’r ffuglen, gan arwain y gynulleidfa trwy fyd dychrynllyd parasitiaid.

Mae ffilmiau eraill yn cynnwys Exorcismo, ffilm ddogfen am ryddid ffilmiau Sbaenaidd ar ôl marwolaeth y Cadfridog Franco; y comedi-arswyd o Seland Newydd Grafted, gyda Jess Hong o 3 Body Problem ymhlith y cast; Frankie Freako, efelychiad swynol o ffilmiau arswyd ‘pypedau’ o’r 80au; ffilm glodwiw o'r Ariannin The Wailing; a ffilm ddirgel ddrwg, wedi'i chyflwyno gan y digrifwyr Nicko a Joe.

Mae’r rhaglen lawn ar gael nawr ar wefan yr ŵyl (amserlen i’w cadarnhau). Bydd manylion llawn y rhaglen ar-lein, Abertoir Choice Cuts, a gynhelir 23-24 Tachwedd, yn dilyn yn fuan iawn.
Gellir prynu tocynnau’r ŵyl o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yn ogystal â thocynnau unigol ar gyfer perfformiad byw Fabio Frizzi. Bydd tocynnau ffilm sengl ar gael yn fuan iawn.

poster for abertoir horror festival 2024