poster for chuck chuck baby

Chuck Chuck Baby mewn sinemâu yng Nghymru

Bydd Chuck Chuck Baby yn hedfan i sinemâu Prydain eleni drwy Studio Soho o 19 Gorffennaf.

Mae Chuck Chuck Baby wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Janis Pugh, gyda Louise Brealey ac Annabel Scholey yn serennu ynddi. Dyma ffilm am gariad, am golled ac am gerddoriaeth sydd wedi’i lleoli ynghanol y plu sy’n chwyrlïo i’r llawr mewn ffatri ieir.

Wedi'i lleoli yng ngogledd diwydiannol y Gymru sydd ohoni, mae Helen yn treulio ei nosweithiau'n pacio ieir, a'i dyddiau'n gofalu am Gwen sy’n marw, ac sydd fel mam iddi. Ond pan mae Joanne yn dychwelyd adref mae byd Helen yn cymryd tro annisgwyl.

Dangoswyd Chuck Chuck Baby am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin 2023, cyn teithio i Ŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto a Gŵyl Ffilm LGBTQ+ Gwobr Iris Caerdydd yn yr hydref. Yn serennu yn y ffilm mae Sorcha Cusack a Celyn Jones, gydag Anne Beresford, Adam Partridge, Andrew Gillman a Peggy Cafferty yn cynhyrchu, a Lizzie Francke yn gynhyrchydd gweithredol ar gyfer y BFI, Kimberley Warner ar gyfer Ffilm Cymru Wales, a Max Fisher a Mary Fisher ar gyfer MDF .

Fallwch weld Chuck Chuck Baby yn y sinemâu ymayng Nghymru:

19 - 25 Gorffennaf

2nd - 8th August

30 Awst - 5 Medi

6th - 12th September

13th - 19th September