Cyhoeddi enwau’r 15 ffilm fer sy'n cystadlu am Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris
Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn falch iawn o gyhoeddi'r rhestr fer o 15 ffilm sy'n cystadlu am y Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris a gefnogir gan Film4 a Pinewood Studios.
Dyma'r rhestr fer gyntaf o Ŵyl 2023 sy'n cael ei chyhoeddi, heddiw (29 Gorffennaf), mewn Digwyddiad Parti Haf arbennig a gynhaliwyd ar gyfer Aelodau Gwobr Iris, yng Nghaerdydd.
Ymhlith y ffilmiau ar y rhestr fer mae stori gwyddonydd a'i ffrind gorau AI (deallusrwydd artiffisial); aduniad hir-ddisgwyliedig gyda chariad cyntaf yn Lerpwl; cwnsela i gyplau gyda phyped hosan; grym mixtape; a stori dyfod i oed wedi ei gosod yn ystod treialon gwrach 1605.
Bydd pob un o'r ffilmiau ar y rhestr fer yn cael eu ffrydio ar Channel 4 am flwyddyn ar ôl yr ŵyl. Mae'r holl ffilmiau a enwebwyd yn gymwys i'w hystyried ar gyfer BAFTA a gall y gwneuthurwyr ffilm eu cofnodi'n awtomatig.
Bydd yr enillydd yn derbyn pecyn o wasanaethau a noddir gan Pinewood Studios Group.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: "Rydym wrth ein bodd o allu cyflwyno i'n cynulleidfaoedd 15 ffilm fer a wnaed ym Mhrydain ac a gefnogir gan un o'r darlledwyr a hyrwyddwr mwyaf cyfeillgar i LHDTQ + a phencampwr Gwobr Iris.
"Mae Film4 yn gefnogwr gwych o dalent cartref a newydd, ac rwy'n gyffrous i atgoffa pobl y bydd pob un o'r 15 ffilm fer mewn cystadleuaeth ar gael i'w ffrydio ar Channel 4 am 12 mis. Mae'r bartneriaeth hon wedi dod yn rhan werthfawr iawn o helpu Iris i gyrraedd cynulleidfa newydd ar gyfer straeon LHDTC+.
"Dyma'r tro cyntaf i ni gyhoeddi'r rhestr fer Gorau Ym Mhrydain i'n haelodau Gwobr Iris gwerthfawr ac y gellir ymddiried ynddynt, hebddynt ni fyddai sawl agwedd o'r ŵyl yn bosibl. Mae gennym ymhlith ein haelodau, gwirfoddolwyr sy'n helpu gyda rhedeg agweddau dyddiol dangosiadau ffilm yn ddidrafferth, i grŵp ymroddedig o bobl sy'n agor eu cartrefi i wneuthurwyr ffilmiau ac aelodau rheithgor sy'n ymweld. Diolch i chi gyd."
Mae gwobr Gorau Ym Mhrydain eleni yn nodi parhad cytundeb nawdd tair blynedd gyda'r cynhyrchydd / darlledwr Prydeinig, Film4. Bydd y cytundeb yn golygu bod Film4 yn caffael hawliau darlledu a ffrydio i bob un o'r 15 ffilm fer LHDTQ+ Prydeinig ar y rhestr fer ar gyfer Ffilm Fer Gorau Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris a gefnogir gan Film4 a Pinewood Studios.
Gwobr Iris 2023 – Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain
- Lemon | Cyf. Tala Nahas
- Goodbye Python | Cyf. Frankie Fox
- Betty and Jean | Cyf. Elinor Randle
- Malcolm | Cyf. Caleb J Roberts
- TICKER | Cyf. Thom Petty
- Longing | Cyf. Courteney Tan
- Ted & Noel – Cyf. Julia Alcamo
- The Talent – Cyf. Thomas May Bailey
- Bleach – Cyf. Daniel Daniel
- Realness with a Twist – Cyf. Cass Kaur Virdee
- Just Passing | Cyf. Sophie Austin
- Stone | Cyf. Jake Graf and Hannah Graf
- F**KED | Cyf. Sara Harrak
- Requiem | Cyf. Em J Gilbertson
- Fortune Favours the Fantabulous | Cyf. Emmanuel Li