Cyfle i ymuno â bwrdd Ffilm Cymru Wales
Mae Ffilm Cymru Wales yn chwilio am dri neu bedwar unigolyn sy’n cynnig amrywiaeth o fewnwelediad proffesiynol a phrofiadau bywyd i ymuno â’n Bwrdd yn ystod y chwe mis nesaf.
Dylai ymgeiswyr rannu angerdd am sector a diwylliant ffilm yng Nghymru sy’n gynhwysol, yn deg ac yn wyrdd, gan ddarparu gwerth economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol ledled Cymru.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi ystod eang o brofiad ar draws ein Bwrdd, ac nid ydym yn disgwyl i bob Aelod gael cefndir mewn ffilm neu’r sector creadigol hyd yn oed. Os ydych yn credu y gallwch ychwanegu gwerth at ein gwaith, hoffem glywed wrthych, p’un ai ydych chi’n gwbl newydd yn ymuno â Bwrdd neu os oes gennych flynyddoedd lawer o brofiad.
Beth yw’r fantais i fi?
Bydd gan bob aelod o’r Bwrdd eu rhesymau eu hunain dros eisiau ymuno â Ffilm Cymru. Gallai’r rhain gynnwys ymdeimlad o fod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i sector y maen nhw’n gweithio ynddo, neu uniaethu â’n gwerthoedd wrth i ni adeiladu amgylchedd cynhwysol, gwyrdd a theg; yr egni a'r dysgu y maen nhw eu hunain yn elwa ohono wrth fynd i'r afael â'r ystod o faterion rydyn ni’n ymwneud â nhw; awydd i gefnogi cynnwys creadigol a chelfyddydol, gweithwyr proffesiynol a mynediad at gynulleidfaoedd sy’n berthnasol ac wedi’u teilwra i Gymru.
Gallwch glywed wrth rai o gyn-aelodau’r Bwrdd ac aelodau presennol y Bwrdd fan hyn:
Rolau a Chyfrifoldebau
Bydd aelodau yn gyfrifol am lywodraethiant Ffilm Cymru, gan oruchwylio esblygiad y cwmni a datblygiad ehangach ein polisiau a’n strategaethau i gefnogi’r sector. Yn benodol, mae aelodau yn:
- Rhannu eu syniadau a’u profiad i siapio, cymeradwyo ac ailadrodd cynlluniau a pholisïau strategol Ffilm Cymru Wales, wedi'i lywio gan adolygiad gweithredol a data a mewnbwn gan gynrychiolwyr y diwydiant a ffrindiau beirniadol;
- Fel rhan o’r Bwrdd ar y cyd, darparu llywodraethiant ariannol a strategol – adolygu a chymeradwyo’r blaenoriaethau strategol blynyddol, y cynlluniau, y gyllideb, y cyfrifon rheoli chwarterol a’r Cyfrifon Statudol blynyddol;
- Gwneud penderfyniadau cyllido ar y cyd am geisiadau o £50,000 neu fwy mewn ymateb i argymhellion y weithrediaeth;
- Hyrwyddo Ffilm Cymru Wales yn frwd, ei waith a’r talentau rydyn ni’n eu cynrychioli drwy fynychu digwyddiadau, cyflwyniadau lefel uchel a mynychu cyfarfodydd strategol lefel uchel;
- Gall arwain hefyd ar feysydd gwaith penodol, o bryd i'w gilydd, ar sail gorchwyl a gorffen.
Sgiliau a Rhinweddau
Rydyn ni’n chwilio am ymgeiswyr sydd ag:
- Agwedd agored a cholegol at herio arferion ac annog cyfraniadau a phartneriaethau
- Ymrwymiad i ddatblygu sector cynaliadwy sy'n adlewyrchu ac yn gwasanaethu ein cymdeithas yn llawn, yn amgylcheddol gyfrifol ac yn entrepreneuraidd;
- Diddordeb brwd mewn datblygu buddion ffilm yn gymdeithasol, diwylliannol, addysgol a/neu economaidd ledled Cymru;
- Parodrwydd i ddarparu arweiniad lefel uchel, gan arwain at ganlyniadau heriol ond cyraeddadwy, gyda dealltwriaeth o’r dirwedd wleidyddol a diwylliannol rydyn ni’n gweithredu ynddi;
- Awydd i wneud gwahaniaeth;
- Dealltwriaeth o siapio targedau strategol, yn seiliedig ar dystiolaeth, sy'n caniatáu ar gyfer arloesi;
- Gwerthfawrogiad o atebolrwydd a chyfrifoldebau angenrheidiol arian cyhoeddus;
- Wynebu’r dyfodol – yn barod i addasu i’r her nesaf a chreu cyfleoedd;
- Bod yn agored a hael wrth rannu profiadau uniongyrchol – boed o fewn y sector, neu’n ehangach, i helpu i lywio ble a sut gellir newid ar gyfer dyfodol gwell.
Ceisiadau
Gwnewch gais drwy lythyr, neu drwy ddulliau eraill os cytunir ar hynny mewn ymateb i gais hygyrchedd, gan ddisgrifio'r hyn sy'n eich denu i'r swydd, yr hyn y gallech ei gyfrannu i'r rôl, a phryd yn ddelfrydol yr hoffech ddechrau. Byddwn mewn cysylltiad i drefnu sgyrsiau gydag unigolion sydd â diddordeb yn ystod yr wythnosau nesaf, cyn cyfarfod â phanel bach o gynrychiolwyr y Bwrdd/gweithrediaeth.
Dylid anfon ceisiadau at sylw ein Cadeirydd, Yr Athro Ruth McElroy c/o hayley@ffilmcymruwales.com
Neu drwy e-bostio: Ffilm Cymru Wales, Uned 6, Tramshed Tech, Stryd Pendyris, Caerdydd, CF11 6BH.
Os hoffech drafod y rôl ymlaen llaw, cyfeiriwch eich ymholiad at y Prif Weithredwr pauline@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 02921 679369, a all hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â'n Cadeirydd, sy’n hapus i ymateb i ymholiadau.
Gwnewch gais erbyn dydd Llun 5ed Mehefin 2023.
Bydd cyfweliadau – wyneb yn wyneb, neu drwy gynhadledd fideo drwy drefniant, yn cael eu cynnal ddydd Gwener 23ain Mehefin.