Gwobr Iris yn galw am geisiadau ar gyfer gweithdai adrodd straeon o fri
Cyhoeddodd trefnwyr gŵyl ffilm fer LHDTQ+ fwyaf y byd fenter hyfforddi newydd sbon i helpu datblygu rhagoriaeth mewn adrodd straeon gyda delwedd symudol.
Mae cyfres gweithdai Cyflwyniad Iris i Adrodd Straeon yn addas i unrhyw un dros 18 oed sydd â diddordeb mewn deall mwy am ragoriaeth mewn adrodd straeon. Yn ystod y gweithdai byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol newydd ac yn cael cyngor gwerthfawr am sut i fynd â straeon i'r cam nesaf ar y sgrin.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: "Yn ein gwaith dydd-i-ddydd gyda Gwobr Iris, mae gennym fynediad at gymaint o dalent ffilm ac yn benodol adroddwyr straeon. Yr hyn rydyn ni wedi'i wneud gyda'r gyfres gweithdai newydd hon yw dod ag arbenigwyr yr ydym yn eu hadnabod ynghyd a chynhyrchu strwythur chwe wythnos sy'n ein galluogi i gynnig y cyfle anhygoel hwn i storïwyr y dyfodol. "Croesawyd ein gweledigaeth gan Screen Alliance Wales a Duck Soup, sy'n cefnogi’r gyfres gweithdai agoriadol hon. Mae gan ymgeiswyr posib tan ddydd Llun 3 Ebrill am 11am i gofrestru eu diddordeb. Cynhelir y gweithdy cyntaf ddydd Sadwrn 15 Ebrill yng Nghaerdydd."
Bydd y gweithdai yn cael eu cyflwyno gan Dîm Iris sydd â gwerth 35 mlynedd o brofiad, ochr yn ochr â'n ffrindiau yn y diwydiant, enillwyr Gwobr Iris, a gwneuthurwyr ffilm o bob cwr o'r DU, gan gynnwys Darius Shu, cynhyrchydd Queer Parivaar (enillydd Gwobr Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris 2022); Thomas McDonald, cynhyrchydd Jim (enillydd Gwobr Cynulleidfa Co-op Gwobr Iris 2022); Dr Mena Fombo; Angela Clarke; a Bethan Evans.
Yn ystod y gweithdai byddwch yn cael gwylio ffilmiau, siarad am y ffilmiau a deall mwy am ragoriaeth mewn adrodd straeon. Bydd pob dydd Sadwrn yn canolbwyntio ar un o'r themâu canlynol:
- Castio dilys/ Cynrychiolaeth – 15 Ebrill
- Rhaglenni dogfen – 22 Ebrill
- Sgript i sgrin – 29 Ebrill
- Ieuenctid Queer - 13 Mai
- Creu ffilmiau yng Nghymru / Lleoliadau – 20 Mai
- Dramateiddio straeon go iawn – 27 Mai
Bydd Podlediad Iris 2023 gyda Damian Kerlin yn cael ei recordio yn ystod y gyfres gweithdai a bydd yn archwilio'r themâu uchod yn fanylach. Bydd y gwesteion sy'n cymryd rhan yn y podlediad yn cynnwys gwneuthurwur ffilm Gwobr Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris 2022 a fydd yn dangos eu ffilmiau byrion ac yn trafod yr atgofion da a drwg o'u gwneud, gan ganolbwyntio ar adrodd straeon.
Ymhlith y siaradwyr ar y podlediad mae arweinwyr y gweithdai a'r siaradwyr, yn ogystal ag aelodau'r tîm y tu ôl i Lost Boys and Fairies a grëwyd, ysgrifennwyd a gynhyrchwyd gan Daf James. Lost Boys and Fairies yw sgript ffilm wreiddiol gyntaf Daf ar gyfer y BBC ac mae'r ffilmio'n dechrau ym mis Ebrill eleni. Datblygodd Daf y prosiect gyda Duck Soup Films fel rhan o raglen awduron drama deledu BBC Writersroom 2019.