a drawing of the earth

Polisi Amgylcheddol

Mehefin 2022

Mae Ffilm Cymru Wales yn ymroddedig i hyrwyddo sector ffilm cynaliadwy sy’n gynhwysol, yn arloesol ac yn wyrdd.

Ers 2006, rydym wedi darparu cyllid, hyfforddiant ac arweiniad i wneuthurwyr ffilm newydd a sefydledig o Gymru, gan gynnig profiadau sinematig cyffrous i gynulleidfaoedd ledled Cymru, wedi ymgysylltu â phobl o bob oed a gallu i ddysgu’n greadigol, wedi datblygu sgiliau a llwybrau gyrfa drwy amrywiaeth o raglenni hyfforddi yn ogystal â chyd-ddatblygu dulliau sy'n helpu pobl yn y sector i weithio'n wahanol.

Rydym yn eiriol dros newid ar draws y sector, gan gynnwys nodi newid a datblygu dulliau sy’n goresgyn rhwystrau, ac yn cefnogi hyn.

Mae ein cynllun strategol yn nodi bod y sefydliad yn anelu at hyrwyddo sector ffilm cynaliadwy a diwylliant ffilm sy'n gweithio i bawb ledled Cymru. Fel rhan o hyn, mae ystyriaeth gref i’n rôl ni i sicrhau sector sgrin mwy gwyrdd yng Nghymru. Mae ein gwerthoedd a’n gwaith hefyd wedi’u fframio yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n nodi’r angen am Gymru lewyrchus a chydnerth, ond hefyd am Gymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang, gan hyrwyddo datblygu cynaliadwy a chyfrannu at les amgylcheddol. Mae’n hanfodol bod busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a’r llywodraeth yn cydweithio i gyflawni’r nodau cyfunol hyn.

Mae ein rhaglen Green Cymru yn ceisio cefnogi sector ffilm yng Nghymru sydd nid yn unig mewn sefyllfa well i fynd i’r afael â heriau sy’n dod i’r amlwg yn sgil newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol eraill ond sydd hefyd parhau i dyfu’n gynaliadwy.

Byddwn yn cyflawni hyn gyda chyllid, hyfforddiant, ymchwil a datblygiad i ddarganfod ffyrdd newydd o weithio’n gynaliadwy yn niwydiant sgrin Cymru.

Mae ein mentrau’n cael eu cyflawni drwy bedwar maes gweithgarwch a nodwyd yn y rhaglen:

  • Ymchwil: Deall y sefyllfa bresennol a'r rhwystrau yn y diwydiant ffilm yng Nghymru a chasglu gwir fesur o'i effaith amgylcheddol i wneud newid
  • Arloesi a chydweithio: Cyflawni atebion ymchwil, datblygu ac arloesi heriau gwyrdd, tra hefyd yn ymgysylltu ac yn cydweithio ag unigolion, sefydliadau a rhwydweithiau
  • Cefnogi: Cefnogi diwydiant ffilm/sgrin Cymru a hyrwyddo hyfforddiant, offer a mentrau presennol a fydd yn helpu pawb i fod yn fwy cynaliadwy
  • Gwella: Gwella perfformiad amgylcheddol ein sefydliad ac annog eraill i ddilyn yr un trywydd

Ffilm Cymru Wales

Mae Ffilm Cymru Wales yn cydnabod ei rôl a chyfrifoldeb i warchod a gwella’r amgylchedd. Ein nod yw bod ar sero net erbyn 2030.  Rydym wedi ymrwymo i’r canlynol:

  • Atal niwed pellach i’n byd naturiol a lliniaru effaith negyddol ein gweithgareddau ar yr amgylchedd
  • Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol a pholisïau datblygu cynaliadwy megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac 17 Nod Datblygiad Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
  • Gwella ein perfformiad amgylcheddol yn barhaus trwy fonitro cynnydd yn erbyn targedau ac amcanion yn rheolaidd.
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o weithrediadau a gweithgarwch busnes.
  • Dod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ynni a dŵr. Annog defnydd o’n gofod swyddfa (W2), a gweithio o bell i ddefnyddio ynni carbon isel neu ddi-garbon.
  • Annog ffyrdd mwy ecogyfeillgar o deithio
  • Cydweithio a/neu gynnwys pawb rydyn ni'n gweithio gyda nhw ac yn gweithio iddyn nhw wrth i ni i gyd anelu at fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd
  • Hyrwyddo ailgylchu a rheoli gwastraff - annog, lleihau, ailddefnyddio ac adennill gan gyfyngu ar faint o wastraff rydym ni’n ei anfon i safleoedd tirlenwi.
  • Sicrhau pwrcasu cyfrifol a gweithio gyda chleientiaid a chyflenwyr i annog safonau amgylcheddol uchel
  • Sicrhau nad yw ein gweithgareddau yn niweidio planhigion, anifeiliaid na systemau naturiol
  • Codi ymwybyddiaeth a hyfforddi gweithwyr ar faterion amgylcheddol a sicrhau bod lles yn rhan annatod o bopeth rydyn ni’n ei wneud.

Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy

  • Rydym ni’n meddwl a chynllunio am yr hirdymor
  • Rydym ni’n atal problemau cyn iddynt ddigwydd
  • Rydym ni’n integreiddio ein gwasanaethau, sgiliau, cynllunio a chyfrifoldebau
  • Rydym ni’n cynnwys y bobl rydym ni’n gweithio gyda nhw ac ar eu cyfer
  • Rydym ni’n cydweithio gyda sefydliadau eraill i sicrhau lles pawb.