Pum cynhyrchydd creadigol i feithrin eu gyrfaoedd yn Y Labordy
Rhaglen ddatblygu broffesiynol ar gyfer cynhyrchwyr ffilm, teledu a theatr newydd sy’n medru gweithio yn yr iaith Gymraeg yw Y Labordy. Fe’i harweinir gan S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH y BFI Cymru.
Mae pum cynhyrchydd wedi eu dewis i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y byd ffilm dros gyfnod o chwe mis mewn cyfres o raglenni mentora a dosbarthiadau meistr. Drwy Y Labordy byddant yn archwilio’r sgiliau creadigol, busnes ac arweinyddol sydd eu hangen yn y maes cynhyrchu, ac yn sefydlu sut i esblygu eu gyrfaoedd. Mae’r rhaglen hyfforddi amlddisgyblaethol hon yn cynnwys cymorth unigol gan fentor o’r diwydiannau creadigol, yn ogystal â dosbarthiadau meistr mewn grŵp dan arweiniad siaradwyr gwadd.
Y pump fydd yn cyfranogi yn Y Labordy fydd:
Elin Gwyn
Mae Elin yn awdur ac yn cynhyrchwr sy’n byw yn Rhosgadfan gyda’i chi Macsen. Mae’n un o is-gynhyrchydd Cwmni Da, ac wedi gweithio ar Deian a Loli, Stad a Persona, cyfres ddrama newydd i bobl ifanc y mae hi wedi ei hysgrifennu ac a fydd yn cael ei darlledu ar S4C. Llynedd fe ysgrifennodd ddrama meicro fel cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Wales Living.
Branwen Jones
Yn wreiddiol o Ogledd Cymru mae Branwen yn gynhyrchydd yng Nghanolfan y Mileniwm ble mae’n datblygu gwaith newydd gyda phwyslais ar gerddoriaeth a’r iaith Gymraeg. Mae ei gwaith blaenorol yn y sector diwylliannol a chelfyddydol yn cynnwys theatr, opera, ffilm fer a digwyddiadau torfol mawr. Mae gan Branwen ddiddordeb yn y croesdoriad rhwng perfformiad byw a chyfrwng ffilm, ac mewn archwilio technolegau newydd i adrodd straeon.
Gloria Thomas
Mae Gloria Thomas yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu llawrydd profiadol sydd wedi cyfarwyddo mwy na 70 pennod o ddrama, gan gynnwys Doctors a Pobol y Cwm, a cynhyrchu The Real Prime Suspect yn ogystal â Balamory, gwaith hyrwyddo amlgyfrwng yn S4C a BBC Wales, a nifer o gyfresi wedi eu hanimeddio. Mae Gloria wedi cwblhau Cwrs Cyfarwyddo BBC Doctors, ac hefyd wedi ei hyfforddi mewn cyfarwyddo aml-gamera yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol.
Rolant Tomos
Dechreuodd Rolant ei yrfa fel cyfarwyddwr gyda Ffilmiau’r Nant ar Pengelli a Talcen Caled. Bu iddo gyfarwyddo pennodau cyntaf Tipyn o Stad, ac ysgrifennu a chyfarwyddo pennodau o Jara cyn symud i’r maes datblygu gyda chwmni cynhyrchu Calon. Mae Rolant yn ymgynghorydd busnes ac yn bragu cwrw ar lefel feicro, ac wedi dychwelyd i’r byd creadigol gyda dwy sgript ar gyfer ffilmiau nodwedd.
Steffan Wilson-Jones
Mae Steffan yn gynhyrchydd ac yn awdur theatr o Ddyffryn Clwyd. Mae’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu ei yrfa ar y cyd â phobl greadigol Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chefnogaeth ac arweiniad gan bobl sy’n gweithio’n broffesiynol yn y diwydiant.
Meddai Gwenfair Hawkins, Swyddog Datblygu RHWYDWAITH BFI Cymru: “Mae safon eithriadol y ceisiadau rydym wedi eu derbyn yn brawf o’r dalent cynhyrchu a’r uchelgais sydd gennym yma yng Nghymru. Gyda’r pum aelod o’r garfan hon edrychwn ymlaen at adeiladu hyder a gallu mewn cynhyrchu ar draws ffurfiau celfyddydol.”
Mae’r siaradwyr sy’n gweithio yn y diwydiant sydd eisoes wedi cadarnhau y byddant yn cymryd rhan yn y rhaglen yn cynnwys Céline Haddad, Rheolwr Prosiect yn Fís Éireann/Sgrîn Iwerddon; Kate Crowther, Uwch Gynhyrchydd gyda Bad Wolf; Sharon Clark, Dramodydd a Chyfarwyddwr Creadigol gyda Raucous; Emma Hughes, Curadur ac Ymgynghorydd gyda Limina Immersive, Kate Byers & Linn Waite o Early Day Films (Bait), Marc Rees & Isabel Griffin (Nawr Yr Arwr/Now The Hero) a We Are Anagram (Goliath).
Meddai Lisa Matthews-Jones, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae’n wirioneddol gyffrous cael cefnogi’r cynhyrchwyr yma i archwilio, i herio ac i groes-beillio’r hyn mae’n ei olygu i alluogi gwneud gwaith creadigol ar draws lwyfannau, lleoedd, ieithoedd a chynulleidfaoedd yn 2022. Yn ogystal â chefnogi eu harferion cynhyrchu eu hunain, edrychwn ymlaen at weld yr effaith tymor hir fydd gan Y Labordy, yn enwedig ar waith sydd wedi ei wreiddio yn yr iaith Gymraeg.”
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Rwy'n falch iawn o weld carfan mor gryf o gynhyrchwyr yn dechrau ar eu taith Labordy. Mae S4C yn gredwr cryf mewn cefnogi talent newydd. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae'r pump yn tyfu ac yn datblygu – ac at y prosiectau Cymreig y byddant yn eu datblygu o ganlyniad i'r cynllun!"