Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn cyhoeddi'r Detholiad Swyddogol ac mae'r Tocynnau Cynnar ar werth nawr
Mae'r ŵyl ryngwladol yn dychwelyd yn bersonol 7–10 Ebrill 2022 ac ar-lein 7–24 Ebrill.
Caerdydd, Cymru – Dydd Mawrth 15fed Chwefror 2022 – Fis Ebrill eleni, mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd (CAF) yn ôl am ei thrydedd flwyddyn, a heddiw mae wedi cyhoeddi ei detholiad swyddogol o 102 o ffilmiau byr wedi'u hanimeiddio fydd yn cystadlu â’i gilydd.
Eleni, mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn mynd yn hybrid, gyda digwyddiadau ar-lein yn cael eu cynnal trwy gydol mis Ebrill, a digwyddiadau personol yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd rhwng 7 a 10 Ebrill.
Bydd rhaglen orlawn o ddangosiadau, dosbarthiadau meistr, Holi ac Ateb, digwyddiadau rhwydweithio a phartïon yn cael eu cyhoeddi ddechrau mis Mawrth, ond yn allweddol yn eu plith mae dangosiadau ffilmiau byr sy’n arddangos peth o’r gwaith gorau sydd wedi’i animeiddio a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Gyda 102 o ffilmiau byr o 22 o wledydd – dros hanner ohonynt wedi’u cyfarwyddo gan fenywod – mae’r detholiad yn cynnwys amrywiaeth o leisiau unigryw ac amrywiaeth eang o storïau.
Mae gan bob un o’r saith dangosiad ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n oedolion deitlau hybrid sy’n adlewyrchu thema 2022 yr ŵyl.
- Mae Gyda’n Gilydd/Ar wahân yn archwilio brwydrau a llawenydd perthnasoedd, gan gynnwys popeth o frwydro i oroesi yn y dyfodol ôl-apocalyptaidd yn Reduction (Réka Anna Szakály), i fyfyrio ar yr amser a dreuliwyd gydag anwyliaid yn A Bite of Bone (Honami Yano).
- Mae Natur/Ddynol yn gofyn y cwestiwn: Beth sy'n ein gwneud ni'n ddynol? Ydyn ni'n wirioneddol wahanol i bopeth arall ar y blaned? Archwilir y cysyniad o ddynoliaeth trwy ffilmiau o'r serene The Principle of Sunrise (Ye Song) i berfformiad cyntaf y DU o Soft Tissue gan Cliona Noonan.
- Mae Sain/Gweld yn bleser i'r clustiau yn ogystal â'r llygaid. Daw cerddoriaeth ac animeiddiadau ynghyd i ddarparu profiad amlsynhwyraidd, gan gynnwys ffilmiau fel yr haniaethol 04111311 (Flora Martyr) a'r annwyl Polar Bear Bears Boredom (Koji Yamamura).
- Mae Hiraeth am/Adre yn ddetholiad llawn hiraeth. Mae’n gyfle i fwynhau atgofion melys o blentyndod yn Forever A Kid (Frederieke Mooij) ac obsesiynau ecsentrig teulu yn Affairs of the Art (Joanna Quinn).
- Mae Sinema/Tawel yn dangos bod ffilm wych yn mynd y tu hwnt i rwystrau iaith. Nid oes gan y ffilmiau yn y detholiad hwn ddeialog, ond mae pob un yn dweud llawer. Ymollyngwch i atgofion haf breuddwydiol yn Chado (Dominica Harrison) a hwyliwch i ffwrdd gyda thrasicomedi llong fordaith swreal Arka (Natko Stipanicev).
- Mae Bywyd/Go iawn yn arddangosiad o raglenni dogfen animeiddiedig. O storïau am Derfysgoedd Hong Kong yn Prince Edward (Hoching Kwok) i bortread hunangofiannol o fyw gydag awtistiaeth yn Strange (Cameron Carr), mae'r detholiad hwn yn llawn storïau teimladwy a storïau ysbrydoledig.
- Mae Ar ôl/iddi Nosi yn ddangosiad hwyr y nos o ddeunydd byr gydag ychydig o gic. O bryfed cop rheibus yn Arachnarche (Emma Jordan), i ailadrodd erchyll hanes dyn yn Cuties (Theo W Scott), nid yw’r detholiad hwn ar gyfer oedolion yn unig yn addas ar gyfer y rhai sy’n cael eu cynhyrfu’n hawdd…
Bydd rhaglen Teulu Gŵyl Animeiddio Caerdydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau i blant. Mae’r dangosiad Animeddiad Byr Teuluol ar gyfer plant oed ysgol gynradd yn cynnwys antur gyda rhai ffrindiau blewog yn A Cat Called Jam (Lorraine Lordan) a thaith gyffrous i’r ysgol yn Tobi and the Turbobus (Verena Fels). Cyhoeddir digwyddiadau pellach i blant a theuluoedd ddechrau mis Mawrth.
Meddai Lauren Orme, Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Caerdydd: “Ar ôl gorfod gohirio CAF 2020 ar yr unfed awr ar ddeg, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gwrs carlam o ran cynnal digwyddiadau ar-lein. Eleni, rydym yn cyfuno ein profiad o redeg digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb â’n rhifyn hybrid cyntaf erioed. Rydym mor gyffrous i ddychwelyd i’r Chapter ac mewn lleoliadau o amgylch Caerdydd gydag amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau personol, yn ogystal â sicrhau bod llawer o’r ŵyl ar gael ar-lein, gan roi cyfle i’n cynulleidfaoedd gael mynediad i’r ŵyl sut bynnag y dymunant. Ni allwn aros i weld pawb yn bersonol ac yn y blwch sgwrsio ar-lein!”
Mae pasys yr ŵyl ar werth nawr, gyda nifer cyfyngedig o Docynnau Cynnar ar gael am brisiau gostyngol. Bydd tocynnau ar gyfer digwyddiadau unigol ar werth yn dilyn cyhoeddiad y rhaglen lawn ddechrau mis Mawrth.