Gwledd gan Lee Haven Jones a Roger Williams fydd yn agor Gŵyl Arswyd Abertoir
Mae’r ffilm, sy’n cynnwys nifer o sêr Cymraeg adnabyddus, wedi syfrdanu gynulleidfaoedd ar draws y byd dros y misoedd diwethaf. Dyma fydd premiere Cymreig a ffilm a’r unig ddangosiad Prydeinig ohoni tu allan i Ŵyl Ffilmiau Llundain yn 2021.
Bydd Gwledd / The Feast, ffilm newydd Gymraeg wedi’i chyfarwyddo gan Lee Haven Jones a’i hysgrifennu gan Roger Williams, yn agor Gŵyl Arswyd Abertoir eleni yn Aberystwyth.
Mae cwpl cyfoethog yn cynnal swper moethus i geisio argyhoeddi cymydog i werthu tir i ddyn busnes lleol. Mae merch ddirgel yn dod i’r tŷ i helpu gyda’r gweini cyn i bethau dechrau troi’n sur.
Mae’r ffilm yn llawn wynebau adnabyddus yn perfformio ar eu gorau, gan gynnwys Nia Roberts, Annes Elwy, Siôn Alun Davies, Steffan Cennydd, Julian Lewis Jones a Rhodri Meilir.
Mae Gwledd wedi dangos mewn gwyliau ffilm ar draws y byd, gan gynnwys SXSW yn y UDA, Fantasia yng Nghanada, BiFan yn Ne Corea, a Motel X ym Mhortiwgal, lle enillodd hi’r wobr Méliès d’argent ar gyfer Ffilm Ewropeaidd Gorau.
Mae’r premiere Prydeinig yn digwydd fel rhan o Ŵyl Ffilmiau Llundain, a dangosiad Abertoir bydd yr unig ddangosiad arall ym Mhrydain eleni.
Bydd Lee Haven Jones, Roger Williams, Annes Elwy a Steffan Cennydd yn bresennol i sgwrsio ar ôl y ffilm.
Mae Abertoir yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar ôl blwyddyn o ŵyl rithiol oherwydd Covid-19. Bydd yr ŵyl yn cymryd lle yn Theatr y Werin er mwyn galluogi ymbellhau cymdeithasol.
Mae Gŵyl Arswyd Abertoir yn cael ei chynnal Tachwedd 2-7 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a bydd rhan rithiol i’r ŵyl yn digwydd 12-14 Tachwedd. Bydd Gwledd yn dangos am 6yh, nos Fawrth, Tachwedd 2; bydd rhaglen lawn yr ŵyl yn dilyn yn fuan.