Ffilm Cymru Wales yn edrych am Aelodau newydd i’r Bwrdd
Mae asiantaeth datblygu’r sector ar gyfer ffilmiau yng Nghymru yn edrych am dri neu bedwar unigolyn sy’n cynnig amrywiaeth o ddealltwriaeth proffesiynol a phrofiadau bywyd go iawn i ymuno â’n Bwrdd.
Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, cysylltwch â ni ar sion@ffilmcymruwales.com
Dylai’r ymgeiswyr rannu angerdd at sector a diwylliant ffilm Cymru sy’n gynhwysol, teg a gwyrdd, ac sy’n darparu gwerth economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol ledled Cymru. Rydym eisiau profiad eang ar draws y Bwrdd ac nid ydym yn disgwyl i bob Aelod fod â chefndir ym maes ffilm, na hyd yn oed yn y sector creadigol. Os ydych yn meddwl y gallwch ychwanegu gwerth i’n gwaith, hoffem glywed gennych chi.
Gallwch glywed gan rai o Aelodau presennol y Bwrdd yn trafod eu profiad fan yma:
Penodiadau
- O dair blynedd, ac mae’n bosibl dechrau ar ddyddiadau gwahanol o fis Tachwedd 2021.
- Mae disgwyl i’r Aelodau fynychu pedwar cyfarfod chwarterol o’r Bwrdd bob blwyddyn, a gallent hefyd eu cynnig eu hunain i ddarnau penodol o waith, megis is-grwpiau gorchwyl a gorffen.
- Caiff taliad cydnabyddiaeth ei gynnig i Aelodau’r Bwrdd ar gyfradd o £35 yr awr, sy’n destun PAYE a Chyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol yn dibynnu ar y symiau sy’n cael eu talu. Mae’r Aelodau’n dueddol o dreulio’r hyn sy’n gyfwerth ag 8-10 diwrnod y flwyddyn ar ddyletswyddau’n ymwneud â’r Bwrdd. Rydym hefyd yn talu treuliau.
Profiad
Rydym eisiau clywed gennych, waeth beth yw eich taith neu rôl broffesiynol. Hefyd, rydym yn awyddus i glywed gan bobl sydd â phrofiadau ar draws y sectorau yma:
- Materion Cyfreithiol / Busnes
- Cynhyrchydd / Sylfaenydd Cwmni Cynhyrchu
- Cynrychiolydd Platfform / Comisiynu
- Gallai meysydd eraill o ddiddordeb gynnwys cyfarwyddwyr, ymchwilwyr / dadansoddwyr, eiriolwyr polisi ac athrawon creadigol. Nid yw’r rhestr hon o feysydd yn orffenedig. Os ydych yn meddwl y gallech ychwanegu gwerth i’n gwaith, carem glywed gennych.
Ceisiadau
Gofynnwn i chi gyflwyno cais drwy lythyr, neu drwy ffordd arall os yw hynny wedi’i gytuno mewn ymateb i gais ynglŷn â mynediad, gan ddisgrifio:
- Beth sy’n eich denu i’r rôl?
- Beth allech chi ei gynnig i’r rôl?
- Pryd hoffech chi gychwyn?
Dylai’r ceisiadau gael eu hanfon at sylw ein Cadeirydd, yr Athro Ruth McElroy d/o sion@ffilmcymruwales.com neu drwy e-bost: Ffilm Cymru Wales, Uned 6, Tramshed Tech, Stryd Pendyris, Caerdydd, CF11 6BH.
Os hoffech drafod y rôl ymlaen llaw, cyfeiriwch eich ymholiad at y Prif Weithredwr, pauline@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 02921 679369, a all hefyd eich rhoi mewn cyswllt â’n Cadeirydd, sy’n hapus i ymateb i ymholiadau.
Cyflwynwch gais erbyn 12 hanner dydd, dydd Llun 27ain Medi 2021.