Mae Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un (WOW) yn lansio ei digwyddiad ECOSINEMA cyntaf
Cyfres o ffilmiau a sgyrsiau sy'n cyfuno sinema ac ymwybyddiaeth amgylcheddol.
Mae'r ECOSINEMA agoriadol yn dwyn ynghyd straeon am ddŵr o Gymru a'r byd. Mae’n rhychwantu'r Amazon, Libanus, Gwlad yr Iâ a Chymru yn y gorffennol a'r presennol, ac mae'r ffilmiau gwych hyn yn rhoi cyfle i fyfyrio ynghylch yr elfen sy'n hanfodol i bob math o fywyd ar y Ddaear. Mae'r ŵyl fach yn gofyn i ni ailystyried ein perthnasoedd â'r afonydd a'r moroedd sy'n ein cynnal ni i gyd.
“Mae ECOSINEMA yn fwy na detholiad o raglenni dogfen ‘gwyrdd’,” meddai Rhowan Alleyne, rhaglennydd Gŵyl Ffilm WOW. “Rydym yn cynnwys drama, adrodd straeon a sgyrsiau i ddangos y gwahanol ffyrdd mae dŵr yn cyffwrdd â bywydau pobl ledled y byd, ac i ysbrydoli cynulleidfaoedd i feddwl am yr hyn sydd angen i ni ei wneud i'w amddiffyn."
Bydd y ffilmiau a’r digwyddiadau yn rhaglen ECOSINEMA ar gael yn sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth o 16 i 18 Medi ac ar-lein hefyd – YN RHAD AC AM DDIM (neu ar sail rhodd) i wylwyr ledled y DU eu mwynhau o ddydd Sul 19 i ddydd Sul 26 Medi.
Mae ECOSINEMA yn agor gyda ‘The Last Forest’ sydd wedi'i chyd gynhyrchu gan Greenpeace a Survival International gyda'r Yanomami, cymuned frodorol fwyaf Brasil. Wrth i’w ffordd o fyw ddigyfnewid, elfennol gystadlu ag atyniad y byd gwyn datblygedig ar ochr arall yr afon, mae’r Yanomami yn ymdrechu i gadw eu diwylliant mil o flynyddoedd oed yn gyfan trwy ymladd yn erbyn gwenwyno'r dyfroedd maen nhw'n dibynnu arnyn nhw.
Mae’r drafodaeth banel, ‘Lleisiau o’r Dŵr’, yn dwyn ynghyd gast o academyddion ac ymgyrchwyr brwd i drafod ein perthynas â dŵr. Bydd ‘Lleisiau o’r Dŵr’ yn fyw trwy Zoom ddydd Sul 19 Medi am 4pm. Mae'r panel yn cynnwys Laura Owen Sanderson, sylfaenydd a chyfarwyddwr We Swim Wild; Dr Luci Attala, anthropolegydd cymdeithasol Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant; Mike Christie, Athro Economeg Amgylcheddol ac Ecolegol yn Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth; a David Jones sy’n cynrychioli Neptune’s Army of Rubbish Cleaners (NARC), elusen Gymreig sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r ddrama ‘Under The Concrete’ o Libanus yn plymio’n ddwfn i fyd mewnol Alain Najm yr hyfforddwr sgwba sy’n dod o hyd i ddihangfa rhag twrw Beirut yn nhawelwch y byd tanddwr. Gan ddefnyddio realaeth a ffotograffiaeth tanddwr hardd, sylwebaeth gymdeithasol a rhamant, mae'r ddrama hon yn myfyrio ynghylch rhinweddau'r cefnfor sy'n newid bywydau.
Gyda hiwmor anghonfensiynol a chalon gynnes mae ‘Lobster Soup’ yn rhaglen ddogfen arsylwadol glasurol. Yn nhref bysgota Grindavik - nid nepell o’r Blue Lagoon yng Nghwlad yr Iâ - caffi Bryggjan a’i berchnogion ecsentrig yw calon ac enaid y gymuned. Krilli sy’n gwneud y cawl cimwch enwog, tra bod ei frawd Alli yn sgwrsio â’r hen bysgotwyr, gan gadw eu hatgofion a hen draddodiadau chwedleua a chân yn fyw.
Mae ‘The Fairytale of Water’, ffilm newydd o Gymru, a wnaed gan y chwedleuwr Peter Stevenson a’r gwneuthurwr ffilmiau Jacob Whittaker, yn dwyn ynghyd chwedlau am lifogydd - sy'n adrodd hanes adeg pan allech chi gerdded ar draws Bae Ceredigion i Iwerddon. Mae’r ffilm yn adrodd straeon tylwyth teg am freuddwydwyr a oedd yn llunio tiroedd paradwysaidd, hen wragedd a oedd yn creu diodydd cariad gyda dŵr ffynnon, ac afonydd a oedd yn cael eu hystyried fel pobl.
Mae ECOSINEMA yn adeiladu ar yr hyn y mae WOW wedi’i wneud yn y gorffennol gyda’i ddetholiad o ffilmiau ‘gwyrdd’”, meddai cyfarwyddwr gŵyl WOW, David Gillam. “Ar adeg pan mae effaith yr argyfwng ecolegol wedi dod yn rhy amlwg o lawer rydym eisiau i ECOSINEMA helpu i ysbrydoli gwylwyr i feddwl am arwyddocâd dŵr i iechyd pob math o fywyd ar y blaned. Rydym wrth ein bodd i allu cyflwyno detholiad o ffilmiau hyfryd, prydferth, ysbrydoledig a difyr y mae cynulleidfaoedd ledled y byd wedi'u mwynhau.
ECOSINEMA yw eich unig gyfle i weld ffilmiau mor bwysig yn y DU felly peidiwch â'u colli!”