Ffilm cymru yn cwrdd... Euros Lyn
Yn ein cyfres newydd o fideos, byddwn yn eich cyflwyno i rai o’r bobl a’r sefydliadau sy’n rhan o gymuned greadigol fywiog ac amrywiol Cymru.
Bob wythnos, cawn glywed gan wneuthurwr ffilmiau, arddangoswr, addysgwr neu hyfforddai a fydd yn sôn wrthym ni am eu gwaith yn diwydiant ffilmiau Cymru, eu dyheadau, a sut mae cyllid Ffilm Cymru wedi cynorthwyo eu huchelgeisiau creadigol.
Ym mhennod nesaf y gyfres, cawn gwrdd â chyfarwyddwr Dream Horse, Euros Lyn, sy’n sôn wrthym ni am greu ei ffilm nodwedd gyntaf Y Llyfrgell / The Library Suicides, a ariannwyd gan Ffilm Cymru, pwysigrwydd rhannu storïau o Gymru, a beth mae’r sinema yn ei olygu iddo.
Cadwch lygad am fwy o’r gyfres hon yn nes ymlaen yn y flwyddyn!