Ffilm cymru wales yn comisiynu ffilmiau byr newydd a’n agor y rownd ariannu ddiweddaraf
Mae’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilm yng Nghymru wedi cyhoeddi’r pum ffilm fer sydd wedi eu comisiynu drwy gynllun Beacons. Cefnogir y cynllun gan BBC Cymru Wales a’r BFI NETWORK gydag arian gan y Loteri Genedlethol.
Mae Beacons, cynllun ffilmiau byr Ffilm Cymru, yn taflu golau ar dalent o Gymru, gan gefnogi gwneuthurwyr ffilm o Gymru sy’n dod i’r amlwg i greu ‘cerdyn galw’ sinematig drwy gynnig arian, hyfforddiant a chyngor. Mae cylch diweddaraf Beacons ar agor i geisiadau, ac ‘rydym yn edrych am brosiectau ffilmiau byr trawiadol, ffilmiau ‘byw’ (live-action), ffilmiau dogfen a ffilmiau sydd wedi eu hanimeiddio.
Meddai Jude Lister, Rheolwr BFI NETWORK Cymru, “Mae’r ffilmiau byr diweddaraf i’w comisiynu yn dyst i’r amrediad anhygoel o dalent greadigol ‘rydym yn falch i’w chefnogi drwy Beacons. Yn dilyn blwyddyn heriol iawn i ffilm, ‘rydym wrth ein boddau’n cael ail-ddechrau ar y cynllun er mwyn derbyn ceisiadau, ac yn edrych ymlaen yn arw at ddarganfod gwneuthurwyr ffilm newydd o Gymru a chlywed eu straeon.”
O ffilm ddogfen sy’n cynnig portread o fywyd lleol i gomedi arswyd ddu, y prosiectau diweddaraf i’w comisiynu drwy Beacons yw:
Forest Coal Pit
Cyfarwyddwr: Sion Marshall-Waters
Cynhyrchydd: Jessica Wheeler
Uwch Gynhyrchwyr: Alice Lusher a Catryn Ramasut, ie ie productions
Dogfen yn cynnig archwiliad manwl o fywyd dau hen ffermwr, sy’n ddau frawd, ac yn byw ar gyrion y Mynydd Du.
Jackdaw
Awdur/Gyfarwyddwr: Mac Nixon
Cynhyrchydd: Ed Casey, Dan Bailey
Mae crwydrwyn cythryblus, sy’n cynorthwyo dieithriaid i roi terfyn ar eu dioddefaint, yn cael ei orfodi i wynebu ei ddyletswyddau moesol fel tad.
Light Before Sunrise
Awdur/Gyfarwyddwr: Charlotte James
Mae Len a Bambi yn ysu am gael bod yn rhydd ac yn chwilio am rhywbeth – ac un noson maent yn sylweddoli beth yw canlyniadau peryglus posib eu hymddygiad.
Organic
Tîm Creadigol: Mike Williams, Will Clowes, Alaw Llewelyn
Ffilm gomedi arswyd Gymraeg am ffermwr o Ogledd Cymru’n colli rheolaeth ar ei gnydau. Prynwch yn ffresh. Prynwch yn lleol. Prynwch â Llaw.
Ymenydd
Awdur/Gyfarwyddwr: Laura Tofarides
Cynhyrchydd: Nia Alavezos
Uwch Gynhyrchydd: Helen Brunsdon
Pan mae ei hatgofion am ei gorffennol yn mynd yn drech na hi, mae gorddos yn gorfodi Rhi i wynebu ellyllon ei dychymyg cyn iddynt ei distrywio’n llwyr.
Mae’r ffilmiau byr llwyddiannus blaenorol a gynhyrchwyd drwy Beacons yn cynnwys ffilm wedi ei hanimeiddio gan Lauren Orme, Creepy Pasta Salad, a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin, ac a gyrhaeddodd rhestr fer BAFTA ar gyfer y Ffilm Fer Orau wedi ei Hanimeiddio; ffilm ddogfen LGBT+ Jay Bedwani am un o ddynwaredwyr Elvis, Pink Suede Shoes; a drama Rhys Marc Jones, Father of the Bride, a ddangoswyd am y tro cyntaf yn SXSW 2020. Mae nifer o’r gwneuthurwyr ffilm a gomisiynwyd drwy Beacons wedi mynd yn eu blaenau i gynhyrchu ffilmiau nodwedd llwyddiannus yn sgil cefnogaeth gan Ffilm Cymru, gan gynnwys Rungano Nyoni (I Am Not a Witch, enillydd gwobr BAFTA am y Ffilm Nodwedd Gyntaf Ragorol); Catherine Linstrum (Nuclear); a Ryan Andrew Hooper a Matt Redd (The Toll).
Mae cyfres o chwe ffilm Beacons ar gael ar hyn o bryd i’w ffrydio am ddim ar BBC iPlayer, gan gynnwys comedi dywyll Hannah Daniel a Georgia Lee, Burial; drama Sion Thomas am y byd ffermio, Dirt Ash Meat; stori Tina Pasotra am bŵer a gwytnwch, I Choose; ffilm gyffrous Joseph Ollman am ddyfod-i-oed, Bitter Sky; archwiliad teimladwy o alar gan Clare Sturges, The Arborist; a stori garu hyfryd Efa Blosse-Mason, Cwch Deilen, ffilm wedi ei hanimeiddio.
Meddai Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales, “Ar iPlayer, ar hyn o bryd, mae nifer o ffilmiau byrion trawiadol, doniol a hardd sydd wedi eu gwneud gan dalent newydd mwyaf disglair Cymru. Mae menter ‘Beacons’ wedi ein galluogi i roi hwb sylweddol i’w datblygiad, a hefyd wedi cynnig casgliad unigryw o straeon i gynulleidfaoedd ledled Prydain. Mae’n wych cael bod yn rhan o hyn, ac ‘rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld beth ddaw nesaf.”
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais i gylch diweddaraf cynllun Beacons Ffilm Cymru yw 11 Mehefin 2021.