Dewis Collective Cymru, dan arweiniad National Theatre Wales, i gynhyrchu prosiect FestivalUK* 2022
Cymerodd 30 tîm, gan ddod â gwyddonwyr, technolegwyr, peirianwyr, artistiaid a mathemategwyr o bob rhan o'r DU ynghyd, ran mewn proses ymchwil a datblygu tri mis i ail-greu gŵyl creadigrwydd. Yn dilyn proses asesu drylwyr, mae 10 Tîm Creadigol bellach yn cael eu comisiynu i gynhyrchu eu prosiectau arloesol yn llawn ar gyfer Festival UK* 2022 y flwyddyn nesaf.
Gyda'r bwriad o ddod â phobl ynghyd ac arddangos creadigrwydd, bydd y 10 prosiect yn cynnwys digwyddiadau, gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd, cyfleoedd cyfranogi a rhaglenni dysgu fydd yn cyrraedd miliynau o blant a phobl ifanc, gan ddangos pwysigrwydd creadigrwydd ym mywydau pobl a'n dyfodol ar y cyd.
Mae Collective Cymru, dan arweiniad National Theatre Wales, wrth ei fodd i gael ei ddewis i gyflawni un o'r deg prosiect. O'r cychwyn cyntaf, aethom ati i ail-lunio sut y gallai prosiect ar y raddfa hon gael ei ddyfeisio, ei gynhyrchu a'i rannu. Mae ein prosiect yn gydweithredol, yn gynhwysol, yn sylfaenol Gymreig wrth ei wraidd ac yn fyd-eang yn ei weledigaeth.
Dechreuodd ein cydweithrediad trwy gasglu pobl o bob rhan o Gymru, ar draws disgyblaethau a chydag ystod eang o brofiadau bywyd i ffurfio ein Tîm Creadigol: o'r Ganolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth a Jukebox Collective wedi'i leoli yng Nghaerdydd i Frân Wen yng Ngwynedd, technolegwyr ac arloeswyr creadigol o Sugar Creative a Clwstwr, newyddiadurwr a threfnydd cymunedol, awduron, gwneuthurwyr theatr ac artistiaid i gynrychiolwyr o gwmnïau cenedlaethol: Celfyddydau Anabledd Cymru, National Theatre Wales a Ffilm Cymru.
Datgelodd pob aelod safbwyntiau newydd, gan herio rhagdybiaethau o sut y gallai prosiect creadigol gael ei ddylunio. Gyda'n gilydd fe ddaethom o hyd i bwrpas cyffredin - ymrwymiad i gynhwysiad radical. Ein nod yw cynhyrchu profiad diwylliannol newydd bythgofiadwy - wedi'i gyd-greu a'i gyd-ddylunio gyda chymunedau ledled Cymru - ac yn hygyrch i bawb. Ein hysbrydoliaeth a'n sylfaen trwy gydol ein Hymchwil a Datblygu fu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol - rhodd fwyaf Cymru i'r byd: darn o ddeddfwriaeth sy'n uchel ei pharch yn fyd-eang sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau'r presennol trwy flaenoriaethu lles a hawliau ein disgynyddion.
Wedi ein hysbrydoli gan gynhwysiad radical y ddeddf hon, gwnaethom ddefnyddio rhwydweithiau ein tîm i wrando ar safbwyntiau sydd mor aml yn cael eu heithrio neu eu hanwybyddu. Mae cysyniad ein prosiect wedi'i lunio gan ddeinameg lleisiau radical Cymru gyfoes.
Gwnaethom ymrwymo ein hunain i ddylunio prosiect a fydd yn darparu sbardun arbennig mawr ei angen i weithwyr llawrydd creadigol, y sector creadigol ehangach ac i leoliadau penodol yng Nghymru sydd wedi cael eu taro’n galed gan y pandemig. I wneud hynny, rydym eisoes wedi dechrau datblygu mathau newydd o bartneriaethau o fewn cymunedau ledled Cymru a chyda phartneriaid cyfryngau ac ymchwil rhyngwladol.
Bydd ein prosiect yn arddangos cryfderau Cymru i'r byd - ein cymunedau bywiog, cydnerth, ein talent greadigol a chynhyrchu ffilm a theledu eithriadol, ein tirluniau dramatig syfrdanol a threfi a dinasoedd bywiog, ein harbrofi creadigol mewn technoleg ymdrochol a’n perfformiadau safle-benodol uchel eu parch yn fyd-eang.
Mae manylion llawn holl gomisiynau’r ŵyl yn cael eu cadw'n gyfrinachol er mwyn caniatáu i’r Timau Creadigol droi eu syniadau’n realiti, ond bydd prosiectau’n mynd â ni o’r tir, i’r môr, i’r awyr a hyd yn oed y gofod allanol, gan ddefnyddio technoleg arloesol a grym y dychymyg. Cyhoeddir rhaglen yr ŵyl, ynghyd ag enw newydd, yn ddiweddarach eleni.
Our aim is to produce an unforgettable new cultural experience - co-created and co-designed with communities across Wales - and accessible to all. Our inspiration and touchpoint throughout our R&D has been the Well-Being of Future Generations Act - Wales’ greatest gift to the world: a globally respected piece of legislation which addresses the inequalities of the present by foregrounding the welfare and rights of our descendants.
Inspired by the radical inclusion of this act, we drew on our team’s networks to listen to perspectives that are so often excluded or overlooked. Our project concept has been shaped by the dynamism of those radical voices of contemporary Wales.
We committed ourselves to designing a project which will provide much needed rocket fuel to creative freelancers, the wider creative sector and to specific locations in Wales that have been hit hard by the pandemic. To do so, we have already begun to develop new kinds of partnerships within communities across Wales and with international media and research partners.
Our project will showcase Wales’ strengths to the world - our vibrant, resilient communities, exceptional film and TV creative and production talent, spellbinding dramatic landscapes and vibrant towns and cities, creative experimentation in immersive technology and globally respected site-specific performance.
Full details of all festival commissions are being kept under wraps to allow the Creative Teams to turn their ideas into reality, but projects will take us from the land, to the sea, to the air and even outer space, using pioneering technology and the power of the imagination. The festival programme will be announced, along with a new name, later this year.