Ffilm cymru’n helpu i gynnal sinemâu a gwyliau ffilm
Mae gwobrau diweddaraf Cronfa Arddangoswyr Ffilmiau’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer cefnogi sinemâu annibynnol a gwyliau ffilmiau yng Nghymru’n dal i ddiddanu ac ysbrydoli eu cynulleidfaoedd yn ystod y pandemig Covid-19.
Meddai Nicola Munday, Rheolwr Cynulleidfaoedd ac Addysg Ffilm Cymru, “Er mwyn cefnogi ein sector arddangos ffilmiau llwyddiannus ein cenedl yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydyn ni wedi ail ddylunio ein dyfarniadau ariannol i allu ateb ei gofynion uniongyrchol yn ogystal â darparu canllawiau, eiriolaeth a chyfleoedd i arddangoswyr ffilmiau gysylltu, cydweithredu a rhannu pryderon a syniadau.
Mae ein dyfarniadau diweddar o’r Gronfa Arddangoswyr Ffilmiau wedi'u cyflwyno i sinemâu a gwyliau ffilmiau ffantastig, sy’n cynnal amrywiaeth eang o brofiadau sinematig cyffrous i bobl ym mhob rhan o Gymru.
Mae Ffilm Cymru wedi cyflwyno arian y Loteri Genedlaethol i helpu sinemâu annibynnol addasu a chanfod ffyrdd newydd o wasanaethu cymunedau ym mhob rhan o Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys Canolfan y Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, sydd wedi bod yn cynnig detholiad o ffilmiau celf ac annibynnol i bobl eu gwylio gartref ar y gwasanaeth newydd Chapter Player, sinema hudolus Magic Lantern Tywyn, oedd wedi rhedeg sinema yrru trwodd ffantastig yr haf eleni, ac Yr Egin yng Nghaerfyrddin, sy'n bwriadu cynnal cyfres wych o ddigwyddiadau ail-agor, gyda sinema awyr agored yn cael ei thrydan gan feic a rhaglen o ffilmiau lleol a rhai Cymraeg.
Bydd yr arian a roddwyd i CellB ym Mlaenau Ffestiniog yn mynd at ail ofod sinema i helpu i gadw pellter cymdeithasol wrth ddangos ffilmiau, ac mae Neuadd Ogwen ym Methesda wedi addasu ei le gwag hyblyg i’w gwneud yn haws i gynulleidfaoedd y sinema ddod i mewn a chadw pellter cymdeithasol. Mae Theatr Gwaun yn Abergwaun wedi agor caffi bar i ddal i allu cynnal cysylltiadau cymdeithasol tra mae'r sinema ar gau a chafodd Neuadd Gyhoeddus Brynaman arian gan Ffilm Cymru gan ei bod yn ganolfan hanfodol ar gyfer ei chymuned wledig.
Mae Ffilm Cymru hefyd wedi dyfarnu arian o Gronfa Arddangoswyr Ffilmiau i wyliau ffilm yng Nghymru wrth iddyn nhw gyrraedd cynulleidfaoedd hen a newydd ar lein. Mae Watch-Africa Cymru yn rhoi llwyfan i sinema, celf a diwylliant Affrica yng Nghymru ac mae'n cydweithio gyda rhwydwaith TANO o wyliau ffilm Affricanaidd. Daeth Gŵyl Ffilm Gwobr Iris LGBT+ â rhaglen orlawn o ffilmiau byr a nodwedd a digwyddiadau a phartïon rhyngwladol yn uniongyrchol i gartrefi yn rhad ac am ddim.
Yr hydref diwethaf, croesawodd Gŵyl Ffilmiau Byr SeeMôr gynulleidfaoedd i Ganolfan y Celfyddydau Ucheldre yn Môn i fwynhau ffilmiau byr ynghylch y môr mewn sinema a hefyd gadw pellter cymdeithasol diogel. Roedd y bobl ifanc y tu ôl i Ŵyl Ffilmiau a sinema gymunedol Wicked Wales yn cynnig gweithgareddau ffilm ar lein i blant, cyn cynnal penwythnos o ffilmiau arobryn wedi’u gwneud gan bobl ifanc o bob rhan o Ewrop. Dathlodd Gŵyl Kotatsu o Animeiddio Siapan ei 10fed pen-blwydd gyda rhifyn ar lein yn canolbwyntio ar ferched o wneuthurwyr ffilmiau a bu Gŵyl Arswyd Ryngwladol Abertoir ym dychryn y rhyngrwyd dros benwythnos calan gaeaf, gan ddarparu arlwy i westeion o ffilmiau newydd sbon, cyflwyniadau a pherfformiadau byw a chyfle i dreulio amser gyda'i gilydd ble bynnag y mae pawb.
Cafodd Gŵyl Animeiddio Caerdydd arian gan Ffilm Cymru ar gyfer ei rhaglen o weithgareddau sydd ar y gweill, gan gynnwys sgrino ar lein a digwyddiadau personol mewn partneriaeth â'r elusen ffoaduriaid Oasis. Yn y cyfamser, mae'r Ŵyl Ffilmiau Un Byd Cymru yn paratoi rhaglen hybrid o ddigwyddiadau ar lein a phersonol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, gan gynnwys digwyddiad Clwb Ffilmiau Merched WOW.
Erbyn hyn, mae cydweithfa celfyddydau cymunedol Gogledd Powys a Wrecsam, Cyswllt Celfyddydau, wedi cael Arian Arddangoswyr Ffilmiau ar gyfer ei sinema dros dro yn Llanfyllin, Ffilm Llanfyllin, sy’n dangos ffilmiau yn hygyrch ar nosweithiau Gwener mewn tafarn leol.
Wrth i sinemâu annibynnol ddechrau ail agor eu drysau i gynulleidfaoedd yn y gwanwyn, bydd Ffilm Cymru'n dal i weithio'n agos gyda Llywodraethau'r DU a Chymru, y Sefydliad Ffilm Prydain, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Sinema’r DU ac arddangoswyr ffilmiau o bob rhan o Gymru – yn cefnogi, gwrando a datblygu ffyrdd o wneud yn siŵr y bydd y sinema’n dal yn lle sy’n croesawu pawb.