Amdanom Ni
Ffilm Cymru Wales is the development agency for Welsh film.
Ffilm Cymru Wales yw’r asiantaeth ar gyfer datblygu ffilm yng Nghymru.
’Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sector a diwylliant ffilm yng Nghymru y gallwn fod yn falch ohonynt.
‘Rydym yn gwneud hyn drwy fuddsoddi mewn amrywiaeth eang o dalent o Gymru a’u prosiectau; drwy gynnig profiadau sinematig cyffrous i gynulleidfaoedd ledled y wlad; drwy ddenu pobl o bob oed a gallu i gymryd rhan mewn addysg ffilm; a thrwy ddatblygu sgiliau newydd a chynnig llwybrau gyrfa posib drwy ein amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi.
‘Rydym yn awyddus i bawb o bob cwr o Gymru gael mynediad at ffilmiau rhagorol sy’n addas i bob chwaeth, cefndir a diddordeb; i gynnig ffilmiau sy’n ein herio, yn ein gwneud yn hapus, ac ein galluogi i wneud synnwyr o’r byd. ‘Rydym yn cynorthwyo pobl i archwilio eu straeon drwy ffilm, boed hynny drwy adnoddau addysg, yr hyn maent yn ei wylio a’i rannu, neu drwy ddatblygu a gwneud eu ffilmiau eu hunain. Ac mae’r ffilmiau hynny yn mynd â Chymru a’i phobl i bedwar ban byd – gan arddangos ein talent, ein busnesau a’n straeon, gan felly gynorthwyo i gynnal a datblygu creadigrwydd yn y dyfodol.