Ffilmiau newydd o gymru y gallwch eu gwylio nawr
Mae'r ffilmiau diweddaraf hyn, wedi'u hariannu gan Ffilm Cymru, ar gael i chi eu ffrydio neu eu llawrlwytho a'u gwylio o gartref nawr.
Eternal Beauty
Pan mae Jane yn cael ei gwrthod gan fywyd, mae'n troelli i fyd sgitsoffrenig o anhrefn llwyr lle mae cariad a normalrwydd yn gwrthdaro gyda chanlyniadau doniol.
Roedd perfformiad Sally Hawkins, a gafodd ei henwebu am Wobr yr Academi ac a enillodd y Golden Globe, o ffilm nodwedd drama-ramant ddyfeisgar, emosiynol Craig Roberts yn arbennig ac yn cael ei gefnogi gan gast o sêr gan gynnwys Billie Piper, David Thewlis, Morfydd Clark, Alice Lowe, Penelope Wilton, Bob Pugh a Paul Hilton.
Nuclear
Mewn pentref bychan dan gysgod gorsaf niwclear, mae’n rhaid i deulu gwenwynig gyda gorffennol tanbaid wynebu ysbrydion y gorffennol sy’n peryglu eu dyfodol.
Hon yw ffilm antur seicolegol gyntaf yr ysgrifenwraig- gyfarwyddwraig Catherine Linstrum gyda’r sêr Emilia Jones, George Mackay a Sienna Guillory. Ysgrifennwyd Nuclear gan Catherine Linstrum gyda David J Newman, ac fe’i cynhyrchwyd gan Stella Nwimo drwy gynllun Sinematig Ffilm Cymru.
Concrete Plans
Gan gredu eu bod, drwy ddamwain, wedi lladd perchennog y tŷ, mae grŵp brith o adeiladwyr mewn ffermdy anghysbell yn cael eu gyrru i wneud dewisiadau moesol cynyddol dywyll.
Ffilm gyffro newydd yw Concrete Plans wedi’i hariannu gan Ffilm Cymru gan ysgrifennwr- gyfarwyddwr Will Jewell a'r cynhyrchwyr Rob Alexander, Kathy Speirs ac Ian Davies. Yn ogystal â’r sêr Amber Rose Revah, Steve Speirs, William Thomas, Charlie Palmer Rothwell, Goran Bogdan, Chris Reilly, Kevin Guthrie a James Lance, mae gan y ffilm sgôr wreiddiol gan Paul Harnoll, o gewri cerddoriaeth ddawns Orbital.
One Way to Denmark
Rydych chi'n ddi-waith, heb sgiliau ac wedi diflasu. Mae celloedd carchardai Denmarc fel fflatiau moethus gyda theledu a phrydau bwyd am ddim. Beth fyddech chi'n ei wneud? Cael eich arestio, pa mor anodd ydi hynny?
Seren y gomedi gymdeithasol hyfryd hon yw Rafe Spall, a chafodd ei gwneud gan yr ysgrifennwr Jeff Murphy, y cyfarwyddwr Adrian Shergold a’r cynhyrchwyr Ed Talfan a David Aukin.
Beacons: Ffilmiau byr o Gymru
Gallwch weld chwe ffilm fer ffantastig gan egin dalent o Gymru ar BBC iPlayer nawr.
Cynhyrchwyd y ffilmiau drwy ein cynllun Beacons: Ffilmiau byr o Gymru - cydweithrediad rhwng BBC Cymru Wales, Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH SEFYDLIAD FFILM PRYDAIN, sy'n ceisio troi'r goleui ar–egin wneuthurwyr ffilmiau ym mhob rhan o Gymru. Y ffilmiau yw:
Burial
Ysgrifenwyr / Cyfarwyddwyr: Hannah Daniel a Georgia Lee
Drama dywyll ynghylch marwolaeth, chwaeroliaeth, cyfrinachau teuluol a quiche.
Dirt Ash Meat
Ysgrifenwyr / Cyfarwyddwyr: Siôn Thomas
Ymdrech teulu i gadw eu fferm i fynd mewn cyfnod o glwy'r traed a'r genau.
I Choose
Ysgrifenwyr / Cyfarwyddwyr: Tina Pasotra
Yasmin Kaur Barn yn serennu fel Rupi, merch ifanc yn dyheu am fywyd o’i dewis hi.
Bitter Sky
Ysgrifenwyr / Cyfarwyddwyr: Jospeh Ollman
Mae Nia’n ceisio dianc o reolaeth gaeth ei thad mabwysiedig, Roy.
The Arborist
Ysgrifenwyr / Cyfarwyddwyr: Clare Sturges
Mae’r llawfeddyg coed, Laura, yn dychwelyd i’w chartref mebyd i ail afael yn ei pherthynas â’i brawd Joe.
Cwch Deilen
Ysgrifenwyr / Cyfarwyddwyr: Efa Blosse-Mason
Animeiddiad Cymraeg ynghylch cariad – antur fwyaf bywyd.