Addysg Ffilm
Ar 8 Chwefror 2023 bu i’r BFI gyhoeddi dull newydd, canolog o gefnogi addysg ffilm ledled y DU fydd yn weithredol o Ebrill 2023. Mae hyn yn golygu na fydd Ffilm Cymru Wales bellach yn cynnig Cyllid Addysg Ffilm ar gyfer darparwyr yng Nghymru.
O fis Ebrill 2023 bydd Into Film a National Saturday Club yn gweithredu yn unol ag amcanion addysg ffilm y BFI, ac edrychwn ymlaen at barhau â’n partneriaeth hir a ffrwythlon gyda nhw. Rydym yn rhannu uchelgais i sicrhau bod ffilm yn berthnasol ac ar gael i bawb yng Nghymru, ac mae Into Film mewn sefyllfa dda i werthfawrogi’r cyd-destun datganoledig y mae addysg yn gweithredu ynddo. Mae hyn yn argoeli’n dda ar gyfer arlwy wedi’i deilwra’n arbennig sy’n ymateb i’r anghenion a’r cyfleoedd sy’n bodoli ledled Cymru. Byddwn hefyd yn arbennig o awyddus i sicrhau fod llwybrau clir at hyfforddiant galwedigaethol â chyfleoedd sy’n gysylltedig â thalent ar gael, y gellir eu darparu drwy Ffilm Cymru ac eraill.
Rydym yn aros i glywed a fydd cyfleoedd ariannu ar gael, drwy Into Film, i ymarferwyr addysg ffilm a cheisiadau am brosiectau, a byddwn yn ymdrechu i gyfeirio pobl at gyfleoedd, cystal ag y gallwn, yn ystod yr amseroedd cyfnewidiol yma.
Fel rhan o’n cynllun strategol diwygiedig ar gyfer 2023-24, bydd Ffilm Cymru Wales yn parhau i gynnig cyfleoedd yn y gymuned i ysbrydoli dysgu creadigol, i feithrin sgiliau ac i ymestyn llwybrau cynhwysol i’r diwydiannau creadigol. Byddwn hefyd yn parhau i rannu adnoddau, enghreifftiau o arfer gorau a beth sydd wedi ei ddysgu yn dilyn amrywiaeth eang o brosiectau addysg a phrosiectau oedd yn canolbwyntio ar sgiliau, a gefnogwyd yn ddiweddar. Gallwch ddod o hyd iddynt yma.
Beth am ymweld â’n gwefan lle gallwch danysgrifio i’n rhestr bostio er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf.