a camera crew shooting in a green forest in front of a wood cabin

Cronfa Her Cymru Werdd

Mae Cronfa Her Cymru Werdd yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Ffilm Cymru a Clwstwr, fydd yn edrych ar ddulliau arloesol a chreadigol o fynd ati i feithrin sector sgrin cynaliadwy i Gymru.

Rydym yn cynnig arian i ymchwilio i, a datblygu dulliau newydd o weithio yn y diwydiant ffilm a theledu, gyda’r nod o gyflawni allyriadau carbon net sero erbyn 2050. Bydd y gronfa arloesi amlddisgyblaethol newydd yn edrych i ganfod datrysiadau i’r prif heriau amgylcheddol o fewn y diwydiant ffilm yng Nghymru.

Pwy all Ymgeisio?

Mae hwn yn alwad ariannu agored i unigolion, sefydliadau a chydweithrediadau ar draws sectorau, gan gynnwys:

  • Ffilm, Teledu a’r Cyfryngau
  • Academia
  • Technoleg (TG, Meddalwedd, Electroneg a Gwasanaethau Cyfrifiadurol)
  • Trafnidiaeth
  • Ynni a Dŵr
  • Rheoli gwastraff

Am faint allaf i wneud cais?

Dyfernir hyd at £25,000 yr un i dri phrosiect.

Sut ddylwn i wneud cais?

Darllenwch ein canllawiau i’r Gronfa Her Cymru Werdd isod cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedyn yn derbyn gwahoddiad i Weithdai Her Cymru Werdd er mwyn datblygu eu syniadau cyn cyflwyno cais ffurfiol.

Amserlein

14 Gorffennaf – 20 Awst 2021: Agored i ddatganiadau o ddiddordeb
7-9 Meedi 2021: Gweithdai her
6 Medi – 1 Hydref 2021: Agored i geisiadau ffurfiol
18-29 Hydref 2021: Dyfarnu’r arian i brosiectau
1 Tachwedd 2021: Prosiectau’n cychwyn

Noder: Byddwn yn ymdrechu i ddarparu ein canllawiau a’n ffurflenni ymgeisio mewn fformatau amgen i ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad; er enghraifft, unigolion sy’n F/fyddar neu’n drwm eu clyw, pobl anabl neu niwroamrywiol, a phobl sydd â nam golwg. Mae cefnogaeth bellach hefyd ar gael i gwblhau cais. Er mwyn trafod eich anghenion, cysylltwch â ni.

Cysylltu

Chris Hill, Rheolwr Gwyrdd
chris@ffilmcymruwales.com

Stage 3: Open for Formal Applications (6th September – 1st October 2021)
Following the Challenge Workshops, attendees were invited to submit full applications in more detail. 

Stage 4: Projects Awarded (18th – 29th October 2021) and Project Start (1st November 2021) 
As world leaders, environmental experts and members of the scientific community gathered in Glasgow for UN Climate Conference COP26, Ffilm Cymru and Clwstwr announced the three innovative environmental projects selected to be developed with support from the Green Cymru Challenge Fund.

Mae Cronfa Her Cymru Werdd yn brosiect ymchwil a datblygu gan Clwstwr. Mae Clwstwr yn rhaglen arloesi ar gyfer sector sgrin De Cymru, a ariennir gan y Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol, sy’n rhan o Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.
 

clwstwr logo