Sweet or Salted?: Podlediad newydd Ffilm Cymru Wales yn Dathlu Sinema a Hudoliaeth Byd y Ffilmiau
Allwch chi gofio’r tro cyntaf i chi fynd i’r sinema? Allwch chi gofio pa ffilm wnaeth i chi ddisgyn mewn cariad â ffilmiau?
Mae Ffilm Cymru Wales yn falch o gyhoeddi Sweet or Salted? – podlediad newydd sbon sy’n cael ei gyflwyno gan yr actor o Gymru Kimberley Nixon. Bydd hi’n gwahodd y gwrandawr i fynd ar daith hiraethus ac emosional drwy’r ffilmiau sydd wedi ffurfio rhai o actorion a gwneuthurwyr ffilm mwyaf talentog Cymru.
Bydd pob pennod o Sweet or Salted? yn archwilio eiliadau bythgofiadwy, wrth i Kimberley sgwrsio gyda gwesteion o’r diwydiant ffilm yng Nghymru (a thu hwnt) am eu hatgofion cyntaf o fyd y sinema, beth maent yn hoffi ei fwyta wrth wylio ffilm, a pha ffilmiau wnaeth danio eu hangerdd at adrodd straeon - a mwy!
O hoff ffilmiau eu plentyndod i’r ffilmiau sydd wedi diffinio eu gyrfaoedd, bydd Sweet or Salted yn cynnig cip tu ôl i’r llenni ar y ffilmiau sydd wedi dylanwadu arnynt - a ble wnaethant eu gwylio.
Mae’r gwesteion yn cynnwys Craig Roberts, Jonathan Pryce, Rakie Ayola, Sian Gibson, Sam C. Wilson ac Owen Teale!
Bydd Sweet or Salted? ar gael ar holl brif lwyfannau podlediadau ym mis Ionawr 2026.
Felly, popcorn amdani – melys neu hallt?
