Women making a film with a smartphone

Lleisiau’r Goroeswyr

Yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, Wrecsam ac Abertawe, mae’r prosiect yn dangos storïau merched o 14 o wahanol wledydd sydd erbyn hyn yn byw yng Nghymru.

Canlyniadau

  • Helpodd y broses o wneud ffilm i nerthu merched sy’n cael eu tangynrychioli drwy roi ffyrdd newydd iddyn nhw o adrodd eu storïau a’u galluogi i gynrychioli eu hunain
  • Cyn y gweithdai, doedd gan y rhai oedd yn cymryd rhan ddim profiad o wneud ffilmiau, dysgodd y prosiect nhw sut i greu storiâu ar gyfer y sgrîn a hefyd roi sgiliau iddyn nhw gyfarwyddo, ffilmio a golygu'r storïau hyn.
  • Helpodd y prosiect i greu gwaddol o wneud ffilmiau i BAWSO drwy gynnig hyfforddiant i aelodau ei staff, gan eu galluogi i ddal ati i weithio gyda gwneud ffilmiau drwy'r sefydliad.

Llwyddiant

Creodd BAWSO a Griot Creative ffordd hwyliog o ddysgu yn seiliedig ar gemau a helpodd hynny ddefnyddwyr gwasanaethau BAWSO i gael addysg ffilmiau hawdd ei gyrraedd.  Helpodd ferched sydd wedi goroesi Masnachu, Anffurfio Organau Cenhedlu, Priodasau Gorfodaeth a Thrais Domestig i drafod syniadau ynghylch adrodd storïau a chynrychiolaeth yn y cyfryngau.  Mae’r prosiect wedi dechrau trafodaethau ynghylch sefydlu tîm cynhyrchu fideo yn BAWSO gyda’r offer i gynrychioli’r merched y maen nhw’n gweithio gyda nhw. Mae elfennau Datblygiad Proffesiynol Parhaus y prosiect hefyd wedi rhoi cyfle i’r tîm yn BAWSO ystyried prosiectau ehangach ar gyfer rhoi llais i ferched BAME a grwpiau lleiafrifol eraill.