two people outside shooting a film with a camera

Connector: Cynnal eich gweithgaredd eich hun i wneuthurwyr ffilm

Currently closed for applications

Mae ein cynnig gyda RHWYDWAITH y BFI CYMRU yn cynnwys darparu cefnogaeth i awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr ar eu taith i’w ffilm nodwedd gyntaf.

Mae Cronfa Connector yn cefnogi unigolion a sefydliadau er mwyn iddynt ddarparu hyfforddiant, rhwydweithio, ymchwil ac adnoddau pwrpasol sydd o fudd i dalent y byd gwneud ffilmiau yng Nghymru nad yw’n cael ei chynrychioli’n ddigonol.

bfi network wales logo

Pwy all ymgeisio?

Gallwch wneud cais i Gronfa Connector os:

  • Ydych chi'n unigolyn neu'n sefydliad sydd â hanes da yn y diwydiannau creadigol, ac yn ddelfrydol yn berchen ar sylfaen yng Nghymru, neu’n bartner â sefydliad yng Nghymru;
  • Rydych chi dros 18 oed ac heb fod mewn addysg llawn amser; 
  • Chi yw, neu chi fydd yn arwain ar y prosiect a ddisgrifir.

Am faint gai ymgeisio?

Hyd at £6,000.

Sut ydw i’n ymgeisio?

Y cam cyntaf yw cysylltu â ni er mwyn datgan eich diddordeb. Mae’r manylion cyswllt ar gael isod. Byddwch mor garedig â darparu amlinelliad bras o’ch prosiect, gan gynnwys:

  • Chi / eich sefydliad ac unrhyw bartneriaid yr ydych yn gobeithio gweithio â nhw
  • Nodau a thargedau cyffredinol y cyfranogwyr
  • Math(au) o weithgaredd a throsolwg o’r cynnwys arfaethedig 
  • Swm yr arian rydych yn gofyn amdano gan Gronfa Connector.

Os gwahoddir chi i ymgeisio, byddwn yn anfon ffurflen gais atoch. Bydd gofyn i chi ei chwblhau a’i gyrru at network@ffilmcymruwales.com ynghyd â’r deunyddiau ategol canlynol:

  • CVs ar gyfer yr ymgeisydd(wyr) a staff arfaethedig y prosiect
  • Bywgraffiadau ar gyfer y sefydliad sy’n ymgeisio yn ogystal ag unrhyw sefydliadau partner eraill (os yn berthnasol)

Canllawiau

I weld yr holl wybodaeth am Gronfa Connector, gan gynnwys y broses ymgeisio, darllenwch ein Canllawiau Connector.

Sylwer os gwelwch yn dda: Ar gyfer ymgeiswyr sydd ag anghenion mynediad, er enghraifft unigolion B / byddar, sydd â nam ar eu clyw, sy’n anabl, yn niwroamrywiol neu sydd â nam ar eu golwg, gwnawn ein gorau i ddarparu ffurfiau amgen o’n Canllawiau, FAQs a’r ffurflenni cais. 

Gall addasiadau rhesymol i’r broses ymgeisio gynnwys dulliau amgen o gyflwyno gwybodaeth (e.e. trwy’r post, Zoom, fideo byr neu ddec sleidiau). Gallwn hefyd dalu rhai costau ariannol, fel sicrhau dehonglydd BSL ar gyfer cynnal cyfarfod â ni, neu gymorth i ymgeiswyr dyslecisg wrth ysgrifennu. I drafod eich anghenion, cysylltwch â ni.

Cyswllt

Jude Lister, Rheolwr Cymru RHWYDWAITH y BFI
jude@ffilmcymruwales.com
07932 738434 

Gwenfair Hawkins, Swyddog Datblygu
gwenfair@ffilmcymruwales.com