Young people making a film

Filming Futures

Gwrandawodd prosiect ProMo-Cymru’n ofalus ar eu cyfranogwyr a chynnal gweithdai gwneud ffilm i roi’r sgiliau roedd pobl ifanc yng Nglan yr Afon (Riverside) eu hangen i gynhyrchu eu ffilmiau eu hunain.

Canlyniadau

  • Wrth fynd â’r prosiect i leoliadau cyfarwydd a gwrando ar anghenion eu cyfranogwyr, llwyddodd Filming Futures i gysylltu, trwy addysg ffilm, â grŵp o bobl ifanc sydd fel arfer yn anodd eu cyrraedd.  
  • Roedd y bobl ifanc a gymerodd rhan wedi mwynhau’r sesiynau ac wedi meithrin sgiliau newydd gan ddefnyddio technoleg hygyrch.  Maen nhw wedi symud ymlaen i’w defnyddio i greu cynnwys ar lein a fideos cerddoriaeth.
  • Daeth ProMo-Cymru i ddeall yn well sut i ddefnyddio fideo i gysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd a fydd o gymorth gyda’u gwaith ac yn cynyddu ei ddylanwad yn y dyfodol.

Llwyddiannau

Cysylltodd ProMo-Cymru â grŵp o bobl ifanc trwy ddatblygu cwrs hyfforddiant ffilm a oedd yn adlewyrchu’u diddordebau. Roedd y dull yn an-nhraddiadol gan ei fod yn cael ei arwain gan yr ieuenctid ac yn cynnwys elfen o risg gan fod y bobl ifanc roedden ni’n ceisio cysylltu â nhw yn wynebu llawer o rwystrau. Roedden ni’n gallu addasu’n ffordd o weithio i gynnal diddordeb y bobl ifanc ac i sicrhau y bydden nhw’n elwa o’r cwrs.  Cafodd nifer o’r bobl ifanc eu hysbrydoli gan ein prosiect a chafodd rhai o’r ffilmiau a gynhyrchwyd gan y bobl ifanc eu gwylio ar lein gan filoedd o bobl.